Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chyflawnach, yr eglurhad ar gysylltiadau'r adnod—wel, yr oedd ganddo ddwy adnod yn destun y pryd hwnnw yn ddi-gymar o loew, a'r diweddglo yng nghymdogaeth yr Atgyfodiad, yn arddull goreu John Williams.

Yr unig feirniadu a glywais i ar y bregeth honno oedd bod ar y mwyaf o ol Godet ar y rhagymadrodd; ond wedyn, yr oedd Cymreigio disgrifiad Godet o ddefodau bugeiliaid y Dwyrain, fel y medrai ef ei Gymreigio, yn gymwynas bur fawr. Mwy o ymresymu a llai o ddisgrifio sydd yn y bregeth fel y mae hi yma. Ond beth a wyddom nad oedd y bregeth hynaf ar goll? Y mae yn amlwg fod gan y pregethwr ei hun fwy o feddwl o hon. Yr oedd yn cywreinio mwy ynghylch y gwahanol fathau o adnabod, ac yn y blaen; ac nid oedd ef, mwy na rhai dynion mawr eraill, ddim yn feirniad diogel ar deilyngdod cymharol ei gynhyrchion ei hun.

Tybiai ef, a barnu oddiwrth y lle a roddai i'w wahanol bregethau, mai ei bregethau diwinyddol, cywreinbleth, oedd ei rai goreu. Y rheini a bregethai ef amlaf o ddim reswm, dau dro am un os nad rhagor i'r lleill. Ond ym marn pob beirniad braidd ond efo'i hun y lleill oedd y rhai goreu. Byddai pregethwr tra gwahanol yn debyg iddo yn hyn—Evan Jones, Caernarfon. Yr oedd dan yr argraff ei fod yn pregethu'n well ar bwnc—pregethu traethodol; ond yr oedd yn amlycach fyth yn ei amgylchiad ef, mai pregethau o nodwedd arall, pregethau ar hanes, neu ar gymeriad, neu bregethau a gwawr o filosoffi arnynt, oedd yn taro'i ddawn ef oreu.

Yr un peth sydd wir i raddau, nid i'r un graddau o bosibl, am bregethau John Williams. "Balaam,' "Esau,"

Barabas," "Plant y Dydd," "Y Maen," "Ei waith Ef ydym," "Crist yn gwymp ac yn gyfodiad "—dyna bregethau mwyaf John Williams. wyf yn enwi rhai sy yma a rhai sy heb fod. Mewn