gwirionedd, ymddengys i mi ei fod yn fwy o esboniwr nag o ddiwinydd cyfundrefnol, yn fwy yn ei welediad nag yn ei ddawn i ymresymu. Yr oedd ei reddfau ysbrydol yn ddi—feth. Cyffyrddiad ei ddychymyg, yr oedd hwnnw'n ddigon medrus i'w wneuthur yn fardd, ond mai i batrwm areithiwr y llifodd ei ddoniau cyn iddynt orffen cymryd ffurf.
Wrth ymresymu, fe wnâi weithiau wrth—gyferbyniad na welech chi ddim yn rhyw hawdd iawn ei fod yn un teg, megis lle y dywedai mewn pregeth nas ceir yma, mai bendithio'r cymwys ydyw trefn Duw, ond ei fod weithiau yn bendithio'r anghymwys. A'r enghraifft o fendithio'r anghymwys oedd byddin o gacwn yn ymosod ar fyddin o filwyr. Yn awr y mae yn anodd gennyf fi feddwl am ddim byd cymhwysach na byddin o gacwn—miloedd ar filoedd a phob un a'i golyn, dwy neu dair weithiau ym mhen un bachgen, ac heb fod gwaeth ganddynt drengu eu hunain yn y frwydr na suo yn y perthi. Na, wir, byddin go anodd cael ei chystal fuasai'r cacwn.
Ond os byddai'r ymresymwr a'r dadelfennwr weithiau yn peri i ni betruso, yn codi ambell dro fwy o amheuon nag a ostegai, byddai'r gweledydd yn cario argyhoeddiad â phob ergyd; ac y mae'r gyfrol yma'n frith o esiamplau o ddawn oreu'r pregethwr.
Wele rai; o bregeth "Crist yn Gwymp ac yn Gyfodiad." Am Iddewiaeth y dywedir: "Mor brydferth fuasai ei marw hi pe trengasai fel Simeon ar ol derbyn yr Iesu yn ei breichiau." (t. 23.)
Am bobl rhyw bentref tawel diwyd yng nglan y môr y dywedir fod y llong—ddrylliad a ddigwyddodd yno wedi troi'n brawf, yn godiad ac yn gwymp. "Cyn pen y pedair awr ar hugain y mae'r wreck wedi rhannu'r holl drigolion yn ddau ddosbarth, ysbeilwyr a dynion gonest." (t. 233).
"Ni fydd yn dawel heb grefydd; ond y drwg yw, y mae yn rhy dawel gyda chrefydd." (t. 237).