Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dyma'r gwahaniaeth. Aeth pob disgybl arall yng nghwmni'r Iesu i ffraeo a'i bechod, a thyfodd pob un ohonynt yn sant. Ond cadwodd Judas yn ffrindiau i'w bechod, a thyfodd yn gythraul." (t. 239).

"Bobl annwyl, a ydych yn ystyried eich bod wrth ymwneud â chrefydd Mab Duw, yn ymhel a nerthoedd Dwyfol?" (t. 241). Meddwl ydyw hwn yr oedd y pregethwr yn rhyfeddol o fyw iddo, y grym, y dynamic, ofnadwy a ddaeth i'r byd yma yng Nghrist Iesu. Ceir ef yn y bregeth hon ac ym mhregeth "Y Maen," ac yma ac acw drwy ei weinidogaeth. Dyna oedd yr Ymgnawdoliad, dyna oedd yr Iawn, dyna oedd yr Atgyfodiad, iddo ef, datguddiad o ryw rym Dwyfol ac anorchfygol. Gan yr ystyriaeth honno fe siglid ei natur gref gyfoethog hyd ei gwraidd.

Yn yr hyn a ddywedwyd uchod, fod pregethau ymarferol John Williams yn well, at ei gilydd, na'i bregethau athrawiaethol, y mae un eithriad amlwg o blith pregethau y gyfrol hon—y Bregeth ar yr Iawn.

Y mae hon, rhyfedd son, yn well braidd wrth ei darllen nag wrth ei gwrando, dim ond bod y darn efengylaidd hwnnw ar ddiwedd yr odfa, y cymhwysiad, yn gwirioni pawb ar wahân i deilyngdod y bregeth drwyddi. Y mae'n amlwg ddarfod i'r awdur adael hon mewn ffurf eithriadol o addfed. Ymddengys mai yn syniad Dale y gorffwysai ei feddwl, y golygiad fod yr aberth yn angenrheidiol er diogelu llywodraeth foesol Duw. "Fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu." Pwy a ŵyr na chawsem ni gyfraniad neilltuol ganddo ar yr athrawiaeth fawr hon, pe cawsai fyw? Gweithio'i ffordd yr ydoedd yn y blynyddoedd diweddaf, at feddyliau y gallai ddygymod â hwynt ar yr Iawn, heb eto orffen boddhau ei hun.

Nid oedd yn perthyn i waith Mr. Owen newid rhyw fân wallau yn yr ysgrif, megis "ga" yn lle "gaiff" ar d. 28, "a phan ga" ar d. 132. Cawn hefyd ar