Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV

YR EFENGYL YN OL MARC
CYFIEITHIAD NEWYDD
[1]

Yr Efengyl yn ol Marc. Cyfieithiad Newydd. Rhydychen yng Ngwasg y Brifysgol. 1921. O dan nawdd Adran Ddiwinyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru y paratowyd y Cyfieithiad hwn gan Bwyllgor o wyth ym Mangor.

I

AML y gofynnir, "Paham yr oedd yr amseroedd o'r blaen yn well na'r rhai hyn?" Ond mewn rhyw bethau diau fod heddyw yn well na'r dyddiau gynt. Yr ŷm yn byw mewn dyddiau pryd y mae sêl newydd wedi deffro dros ail-gyfieithu'r Beibl Cymraeg. Y mae eisoes ddau gyfeisteddfod ar waith. Yn lle bod pregethwyr ar eu teithiau'n cyfnewid chwedlau eglwysig—pwy sy'n cael galwad? pwy sy'n rhoi'i le i fyny? pa le y mae hi'n helynt rhwng y Gweinidog a'r Blaenoriaid? canolbwnc y diddordeb yn awr yw, sut i gyfieithu'r adnod a'r adnod. Efengyl Marc ydyw ysgub blaenffrwyth y symudiad hwn; a gellir dywedyd yn ddibetrus ei fod ef y cyfieithiad goreu a wnaed i'r Gymraeg eto o unrhyw ran o'r Ysgrythyr Lân. Nid yw dywedyd hynny yn anair i neb, canys yn yr ugain mlynedd diweddaf y daeth llawer o wybodaeth am Roeg cyfnod y Testament Newydd yn hysbys i'r byd Prydeinig, ac ni bu beirniadaeth destynol yr is-feirniadaeth fel y gelwid hi ychydig flynyddoedd yn ol—erioed mewn ystâd cyn addfeted ag y mae yn awr. A chyda hynny, y mae

  1. Trawsysgrifiad ar lein gan Bibliatodo