gennym weithian ysgolheigion Cymraeg nad oes berygl i'w sêl dros gywirdeb eu hudo i roi i'w darllenwyr ryw ledfegyn o beth dan enw Cymraeg.
Ond golygu y mae hyn fwy ac nid llai o ofal wrth feirniadu'r Cyfieithiad. Ni fyddai'r Cyfieithwyr ddim balchach o ganmoliaeth ddall, pa mor onest bynnag y bo. Trwy lawer o drafod ar y Cyfieithiad Newydd y sefydlir safon i'r llyfrau nesaf a gyfieither. Yn wir fe wahodd y Cyfieithwyr feirniadaeth; a chysur a chalondid pob beirniad a fydd yr hyn a ddywedai Paul ger bron Agrippa: "Nid wyf yn tybied fod dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddynt."
Weithiau y mae gogwydd y Cyfieithwyr at y clasurol a'r hen, ond llawn cyn amled at y briodwedd ymddiddanol. Astudio Groeg llafar gwlad ar y llafrwyn (y papyri), a ddarganfuwyd yn yr Aifft, a barodd fod y gogwydd am ryw hyd at feddwl mai Groeg llafar gan mwyaf ydyw Groeg y Testament Newydd. Wele rai esiamplau. "Y mae'n ddrwg gan fy nghalon dros y dyrfa," viii. 2. "Un peth sydd ar ol ynot," x. 21. Yn vi. 9, cawn air llafar Môn ac Arfon, a gair da iawn, "crysbais." Gwelais feirniadu "pres" fel gair rhy sathredig. Ond beth a wnaethai cyfieithydd yn well, gan fod eisiau'r gair 'arian' am arian brasach? Cymh. vi. 8 a x. 23. Yr oedd yn gofyn cadw rhyw air i olygu manbres ac arian treigl. Goreu hyd y bo modd fyddai cael gwybod bob gafael wrth y cyfieithiad pa air Groeg sydd gennych wrth ddarllen y gair Cymraeg. Ac wedi cyfieithu dau neu dri o lyfrau gan y Pwyllgor hwn a phwyllgorau eraill, fe sefydlir bob yn dipyn, arferiad ar y pen hwn. Yr un dylanwad sy ar Moffat hefyd, y syniad mai Groeg ymddiddan sy gennym yn yr Efengylau ac mai Saesneg ymddiddan a ddylai ei gynrychioli ef. Dichon fod y syniad yma wedi ei weithio'n rhy bell gan Moffat a chan ein cyfieithwyr newydd ninnau. Diau gennyf fod Cymraeg papur newydd, neu Gymraeg Daniel Owen dyweder, i