ddyn heb fedru ond Cymraeg y Mabinogion, yn edrych yn ddi-urddas a sathredig. Felly i bobl gynefin a Groeg clasurol Athen fe edrych Groeg yr Efengylau yn fwy gwerinaidd a diaddurn lawer nag ydoedd i bobl yr oes honno. Eto i'r cyfeiriad yna yr oedd eisiau mynd, ond fod yn gofyn ymgadw rhag mynd yn rhy bell. Cawn, ni gawn ddeud "mynd yrwan yn gystai a myned, waith y mae wedi ei dderbyn yma yn gyflawn aelod o'r Beibl Cymraeg.
Eithr nid oes yma ôl gogwydd na pholisi sefydlog o blaid na Chymraeg llafar na Chymraeg clasurol chwaith. Tra yr ydys weithiau yn tueddu at y rhydd a'r ymddiddanol, gwelir y duedd arall llawn cyn amled, y duedd at yr urddasol a'r hen. "Felly daeth bod Ioan y Bedyddiwr . . " i. 4. "A'i ymlid a wnaeth Simon," i. 36. Prin y mae "ymlid" yn ddealladwy i Gymro di-addysg, yn yr ystyr o fynd ar ol yr Iesu er mwyn cael ei gwmni. Y mae gair yn hel ac yn bwrw arlliwiau o ystyron ar ei daith i lawr yr oesoedd. "A chyffelyb bethau o'r fath, lawer, a wnewch," vii. 13. Cadw trefn y Groeg oedd yr amcan, debyg; ond onid gwell fuasai dilyn trefn gynefin y Gymraeg?" —Llawer o gyffelyb bethau o'r fath . . ." Yn xi. 24 y mae "Credwch i chwi ei gael" yn Gymraeg tlws, ac yn berffaith gywir; ond ar gyfer darllenwr plaen, onid gwell fuasai gwneuthur ergyd yr adnod yn fwy pwysleisgar?" Credwch eich bod wedi derbyn." Yn xv. 45, y mae gair sy'n hollol gywir eto, ond yn lled anghynefin mewn Cymraeg diweddar: "Fe roddes y gelain i Ioseph." Paham na wnaethai "corff" y tro?
Un broblem wrth gyfieithu Marc oedd yr amserau, er siampl, y presennol hanesig. Da y gwneir roddi mwy o hwn nag a geir yn yr hen gyfieithiadau; ond dichon y teimla llawer fod yma ormod ohono. "A daw i'r tŷ," iii. 19. "A deuant i Gaersalem," xi. 15. "A dygant ef i'r lle Golgotha," XV. 22. "A chydag