ef croeshoeliant ddau leidr," xv. 27. Y mae Cyfieithiad Diwygiedig y Saeson yr un fath yn fynych yn hyn o beth, ond fe bair dau beth fod dilyn y ddefod yma yn Gymraeg weithiau yn anhwylus. Un ydyw bod posibl camsynied y mynegol 1liosog weithiau am y gorchmynnol. Ond peth arall mwy ei bwys ydyw bod un ffurf i'r amser presennol yn Gymraeg yn amser dyfodol hefyd. Oherwydd hyn buasai "Y maent yn dyfod," ambell dro, yn well, neu ynte roi'r ystyr heb gadw'r ffurf—"Daethant " yn lle "deuant." Ambell i ferf Gymraeg y sydd, a dau dreigliad iddi, presennol a dyfodol, megis gwn," gwybyddaf "; ac wrth ein bod ni o dan orfod i ddefnyddio'r un ffurf am y presennol a'r dyfodol, y mae blas y naill arfer, er eich gwaethaf chwi, yn mynd ar y llall.
Diau fod gan y cyfieithwyr newydd reswm da dros y ffordd a ddewisasant, a dichon mai hwy sydd yn eu lle. Un rheswm a awgrymant yn y Rhagair ydyw, bod newid amser o'r naill ferf i'r llall mewn brawddeg yn un o deithi arddull Marc. Y mae Efengyl Mathew, dyweder, yn llyfnach—mwy o ol treigl arni. Y tebycaf yw fod honno wedi bod yn rhan o ddysgeidiaeth lafar yr Eglwys cyn ei dodi mewn ysgrifen. Ol treigl yn y ddysgeidiaeth lafar, ond odid, yw'r rheswm fod adnodau o Efengyl Mathew neu Efengyl Ioan, y rhan amlaf, yn haws eu dysgu na rhai o Luc a Marc. Y mae'r corneli wedi gwisgo i ffwrdd. Yn wir, fe ddichon mai wedi y delo rhannau eraill o'r Beibl allan yn y Cyfieithiad newydd, y gwelir gwerth rhai o'r cyfnewidiadau a wnaed yn Efengyl Marc; oblegid nid hwyrach mai er mwyn dangos y gwahaniaeth dull rhwng yr efengylau y dewiswyd rhai pethau a dery'n lled ddieithr ar glust Cymro o'r oes hon.
Amser arall, a mwy o le i ddadleu yn ei gylch, ydyw'r amser anorffennol. Tuedd y Cyfieithwyr Newydd yw dodi'r anorffennol Cymraeg yma, lle bynnag y bo'r anorffennol yn Roeg. Mi enwaf rai