Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mannau lle y buaswn i'n petruso dilyn y Cyf. Newydd. "A boddent yn y môr," v. 13. Ac fe'u cymerai hwynt, ac a'u bendithiai, dan ddodi ei ddwylo arnynt, X. 16. "Tawai yntau," xiv. 16. "Tewi'r oedd yntau," fuasai oreu gennyf fi. Nid ydys wedi gwneuthur y gwahaniaeth rhwng yr anorffennol mynychu a'r anorffennol pur, sef yr anorffennol a olyga fod peth yn digwydd yr un pryd a rhywbeth arall. Y mae'r ystyr o fynychu sy mor aml i'r anorffennol Cymraeg" "he would go", "he used to go"—yn ei gwneud hi'n amhosibl cadw'r ffurf ddiymdro ym mhob man. Rhaid disgyn weithiau ar y ffurf gwmpasog, "yr oeddwn yn mynd," yn lle "mi awn." Gall fod yr hen amser anorffennol yn Gymraeg bron yn ogyfled ei ystyr a'r anorffennol Groeg; ond yn sicr nid ydyw felly yn awr. Y mae ffurf gwmpasog a'r ffurf ddiymdro wedi mynd yn ddau amser gwahanol erbyn hyn. Ac wedyn, mewn amryw byd o fannau, dyry'r Cyfieithiad hwn y ferf yn yr amser anorffennol, lle y mae hi yn yr amser amhendant—yr aorist felly—mewn rhai o'r cyfieithiadau diweddar goreu, megis eiddo Moffatt a Chyfieithiad Diwygiedig Lloegr a'r America. Ystyr anodd ei gosod yn deg mewn Saesneg na Chymraeg yw'r ystyr o ddechreu gwaith sy'n perthyn i'r amser anorffennol yn Roeg; a diameu braidd mai'r cynrychiolydd goreu iddo ydyw'r past tense yn Saesneg, a'r blaenorol amhendant yn Gymraeg—sef y ffurf honno a ddengys fod y weithred rywbryd yn yr amser a aethi heibio, ond heb nodi o gwbl ai gorffennol ai anorffennol oedd hi o'i chyferbynnu a rhyw weithred arall, neu a'r pryd y byddom yn adrodd yr hanes. Dylasai, mi dybiwn, fod yr amser amhendant hwnnw—"aeth," "dywedodd," "gofynnodd," yn y cyfieithiad yma am i waith yn lle'r ffurf arall, 'ai,' 'gofynnai,' 'dywedai,' ac yn y blaen.

Ond pethau anodd iawn cerdded y ffiniau rhyngddynt ydyw amserau'r ferf; a phrin y cawn ni fod y