ffiniau'n cyfateb yn union mewn unrhyw ddwy o'r ieithoedd meirw a ieithoedd byw. Fy nhemtasiwn i fuasai torri'r cwlwm ar gwestiwn yr amserau, gwneuthur mwy lawer o ddefnydd o'r berfenw, gwneuthur mwy lawer o frawddegau ar batrwm felly: Pan ddaeth efe a nesau at y tŷ." Er enghraifft, oni ddoi'r patrwm yna o frawddeg i fewn yn burion yn v. 13? "A rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr, tua dwy fil, a boddi yn y môr." Y mae'r cyfieithwyr yn ddigon chwannog i'r briodwedd ystwyth a Chymroaidd hon. Canys Herod a anfonodd ac a ddaliodd Ioan, a'i rwymo yng ngharchar," vi. 17. Gŵyr y Pwyllgor yn well na mi nad oes dim a welir yn amlach mewn hen Gymraeg na rhes o ferfau, a'r cyntaf yn ei fodd a'i amser priodol, a'r lleill i gyd yn y modd annherfynol. Gwir y collid un o hynodion iaith Efengyl Marc pe defnyddid liawer ar y briodwedd hon, ond tybed fod modd cael cyfieithiad darllenadwy byth, a gyfleo bob rhyw droadau o arddull fel y gwreiddiol?
Y rhagenwau llanw, eto, sydd bwnc a llawer o le i wahaniaeth barn arno. Yr argraff a adewir ar feddwl dyn wrth ddarllen y Cyfieithiad, yw bod rhy ychydig o'r rhain ynddo. Nid oes reol gaeth, y mae'n debyg ar hyn o bwne, dim ond honno a gynygiodd Eben Fardd i ryw ddisgybl, oedd yn methu a gwahaniaethu rhwng pa b, a rhwng c ag g, wrth spelio.
"Oes rhyw reol, Mr. Thomas?" meddai'r disgybl. "Y inae hi rhwng cliced gên dyn a'i goryn o," meddai Eben. Pwnc felly ydyw hwn. Y ffordd oreu i'w benderfynu ef fyddai darllen rhes go hir o'r cyfieithiad yn y Pwyllgor i weld sut y bydd yr effaith ar y glust wrth glywed llawer ohono efo'i gilydd. "Lle'r oedd —", ii. 4. Gwell "Lle'r oedd ef." "Yn dy geisio," iii. 33. Gwell "yn dy geisio di." Rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a'u hiachau," vi. 5. Gwell "a'u hiachau hwynt," fel y cyfieithiad cyffredin. "Am iddo'i phriodi," vi. 17. Gwell "am iddo'i phriodi hi."