"I'w gosod o'u blacnau," viii. 6. hwy." Y mae'r rhagenw gogwyddog hwy ar ol yma yn yr hen gyfieithiad a'r newydd. "Yn fy enw," ix. 39. Gwell "yn fy enw i." "Eto felly chwaith nid oedd eu tystiolaeth yn gyson," xiv. 59. Gwell "Ac eto felly nid oedd eu tystiolaeth hwy yn gyson." Mewn un man yn wir fe wellhawyd ar yr hen gyfieithiad ar bwnc y rhagenw llanw, iv. 2. "A dywedai wrthynt yn ei ddysgeidiaeth." Y mae "yn ei ddysgeidiaeth ef," yn wall dybryd yn yr hen; oblegid, fel y gwyddys, nid oes eisiau rhagenw llanw, o bydd y rhagenw meddiannol yn sefyll am yr un un ag enwedigydd y frawddeg. Ond at ei gilydd, fe fyddai brychiad o ragenwau yn gymwynas a'r llyfr. Byddai deud fod yma ryw foelni di—gwmpas yn ddeud rhy gryf; ond yn y cyfeiriad hwnnw y byddai'r gwir mewn ambell i fan. Ni welwn i yn fy myw nad yw "Hwy a barchant fy mab i" o'r hen gyfieithiad yn well na hwn: "Parchant fy mab." Er bod yr efe yn yr hen gyfieithiad yn wrthodedig fel newyddbeth a ddaeth i fod yn yr unfed ganrif ar bymtheg, y mae eisiau rhagenw pwysleisgar yn lle hwnnw. Byddai fo neu efo yn bur hwylus ac yn eithaf hen.
Yn groes i arfer yr ysgolheigion sy ar y Pwyllgor, ceir weithiau gadw'r drefn Saesneg a Groegaidd ar y frawddeg drwy arfer y rhagenw atgyfeiriol a. Dengys hynny nad oes yma ddim rhagfarn at unrhyw ddull cyfreithlon o gyfleu geiriau. "Dy ferch a fu farw," v. 35. Cadw trefn y Groeg oedd yr amcan yma, debyg; ond gan nad oes dim arlliw o bwyslais yn galw, onid gwell fuasai dilyn y cyfieithiad cyffredin: "Bu farw dy ferch"?
Y mae rhai ymadawiadau oddiwrth y Cyfieithiad Awdurdodedig, na fuasai waeth eu gadael fel yr oeddynt. "Parlysedig" sy yn lle "claf o'r parlys " yn ii. 4. Od oedd eisiau newid, onid gwell fuasai "parlysig," neu "barlysog"?