yn y fan yma—awgrym mai cwn fel cyfeillion y teulu a feddylid; ond y mae corgwn yn awgrymu'n wahanol, mai ychwanegu'r ydys at y diystyrwch fwy na dim arall.
Mi feddyliais ganwaith fod y cyfieithiad cyffredin yn ix. 3 yn un anodd rhagori arno. "A'i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid iawn fel eira, y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu." Ond dyma well braidd na hwnnw, yn gannaid odiaeth, yn gyfryw ag na allai bannwr ar y ddaear eu cannu felly."
Canys rhai fel hwy biau deyrnas Dduw." Yr oedd y cyfryw rai" yn burion cyfieithiad; ond y mae rhai fel hwy " yn fwy byw (x. 14). Y mae holl ergyd yr adnod yn yr ystyriaeth mai plant a rhai tebyg i blant biau'r deyrnas, nid plant yn unig, ond rhai yr un fath a phlant. Yr oedd ystyr gyntaf y gair cyfryw yn dechreu tywyllu, fel y bydd ystyr gair yn aml wrth hir dreiglo.
Yn x. 19 yr oedd "Ti a wyddost y gorchmynion," o'r goreu; ond y mae "Y gorchmynion a wyddost yn well. Y mae rhyw ias o ymddihaeriad ynddo am gynnyg dysgu gŵr mor hyffordd yn y gyfraith.
"Mor anodd yr â y rhai ag arian ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!" x. 23. Y mae "Mor anawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt," yn rhy urddasol, yn rhy sych-wastad. Yr oedd ar yr Iesu eisiau rhoi sengol i'r disgyblion, rhoi shock iddynt trwy ddywedyd peth eithafol; a dyna sy'n cyfrif am y braw y mae'r adnod nesaf yn son amdano. Arswyd ydyw'r gair yn y Cyfieithiad hwn; ac nid yw yn air rhy gryf.
Yn x. 30 y mae rhoi'r gair bychan "yn" i mewn wedi goleuo'r adnod yn ddirfawr i'm tyb i. Yn lle "a'r ni dderbyn y can cymaint yr awrhon y pryd hwn, dai, a brodyr, . . ." darllenwn, "a'r ni dderbyn gann cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn gartrefi, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd,