ei fod y peth tebycaf erioed i'r hyn a alwn ni yn gonvulsions.
"A'r ysgrifenyddion o blith y Phariseaid," ii. 16. Gwna beth yn eglur ddigon oedd yn dywyllwch yn ein Beibl ni. Nid dau ddosbarth sydd yma, ond un, a hwnnw'n ddosbarth mewn dosbarth. Ond y mae'r Cyfieithiad yn cynrychioli'r darlleniad gwahanol i'r hen yn y fan hyn.
Yn ii. 19 gallai'r hen gyfieithiad, "plant yr ystafell briodas" olygu naill ai'r teulu neu'r bobl ddieithr, neu'r ddau. Y mae'r Cyfieithiad Newydd yn torri'r ddadl "gwesteion y briodas."
Gallai "ei gyflawniad newydd ef," yn ii. 21, feddwl un o ddau beth, y weithred o wnio'r newydd ar yr hen, neu y darn a wnïer arno. Y diweddaf sydd i fod, y mae'n amlwg, "Y darn llanw."
Yn iii. 19, nid teitl yn disgrifio cenedl y gŵr yw Cananead, namyn disgrifiad o'r sect neu'r gyfeillach grefyddol y perthynai ef iddi: "Simon y Selot." Cyfieithiad go dda oedd un Thomas Charles Edwards, "Simon y Methodist," yn hen ystyr y gair "Methodist," pan olygai aelod o gymdeithas neilltuol a'i bryd ar feithrin duwioldeb. Fe arfer Carlyle yr ymadrodd our Methodisms am bob math o ymdrech i feithrin crefydd, ei diwyllio hi felly, yn lle gadael iddi dyfu o'i gwaith ei hun.
Gallai "tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun" fod yn amwys, er mai ystyr ddiafael iawn fuasai adeilad wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; ond fe dorrwyd y ddadl yma trwy roi "Teulu" i mewn, iii. 25.
"Yn ebrwydd y rhydd y cryman ar waith," iv. 29. Y mae hwn yn well na "rhoi'r cryman ynddo." Gallasai hynny olygu torri ysgub neu ddwy; ond golyga rhoi'r cryman ar waith gynhaeaf prysur.
Enghraifft dda yw "ar ei ben-blwydd" o'r fel y gallai cyfieithiad llai llythrennol fod yn decach nag un a gadwo'n dynnach at y gwreiddiol vi, 21. Yr oedd