Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"dydd genedigaeth " yn nes i lythrennol, ond yn llai dealladwy yn Gymraeg.

Amgenach lawer yw bydded farw'n gelain," yn vii. 10, na "bydded farw'r farwolaeth," gair na rydd unrhyw feddwl eglur i ni.

"Ystrywiau drwg" sydd am ddrwg feddyliau yn vii. 21. Y mae'r gair yn o fentrus, gan nad yw'r geirlyfrau safonol yn rhoi yr ystyr hon i'r gair a gyfieithir "meddyliau"; ond y mae yn gyfieithiad eglur beth bynnag; ac am a wn i, gall fod yn iawn. Dichon fod rhyw hen ystyr i'r gair Cymraeg "ystryw," nas gwn i am dani.

Yr hyn a gawn yn vii. 32, yn lle "Atal-dywedyd," yw "diffyg ar ei barabl," yr hyn yn ddiau sy gywirach.

"Difenwi" sydd yn y Beibl Cymraeg yn xv. 32. Ond yma cawn a ganlyn: "A'r rhai a groeshoeliasid gydag ef oedd yn edliw iddo." Cyfieithiad campus.

"Yr oedd y dyn hwn yn fab i dduw," heb briflythyren i'r gair "duw," xv. 39. Nid Mab Duw yn ein hystyr ni i'r gair a feddylir, namyn mab i ryw dduw. Meddwl y canwriad oedd fod y croeshoeliedig hwnnw yn rhywun goruwch-naturiol.

Cawn hefyd aml i gyfieithiad, ac aml i nodiad ar ymyl y ddalen, neu ar ei gwaelod hi yn hytrach, a wna waith yr esbonwyr yn llawer llai. Tollwyr ydyw'r "publicanod," ii. 15.

"A llongau eraill oedd gyda hi" (sef gyda'r llong yr oedd yr Iesu ynddi), sydd well lawer na "chydag ef."

Yn viii. 38 dyma destun y Cyfieithiad: "Yn y genhedlaeth anffyddlon a phechadurus hon." Ar waelod y ddalen ar gyfer "anffyddlon," cawn y nodiad gwerthfawr a chynhwysfawr hwn: "Gr. godinebus, ond yn yr ystyr Hebraeg oanffyddlon i Dduw "."

"Llanwodd yspwng â surwin," xv. 36. Ychwanegir nodiad ar "surwin," sef diod arferol milwyr