nodi ar y terfyn yr egwyddor i gysoni'r gwrthwynebiad. Yn y rhan olaf ymdriniasom â Duw crefydd, ac â'i berthynas Ef â'r byd meidrol, ac yn enwedig â dyn; a chawsom ei fod yr un un a'r di—amodau mewn athroniaeth. Y ffrwyth debygid oedd cael bod rheswm yn cefnogi crefydd oleuedig. Fe ddengys ymofyn, ond iddo fod yn rhydd ac yn drwyadl, fod grym yn ein ffydd ni." (t. 350). Dyna amcan a chynnwys y llyfr mewn cwmpas pur gryno. Crefydd, fel popeth arall, yn fater i chwilio, cysoni crefydd â moesoldeb, a gwneuthur Duw crefydd a duw athroniaeth yn un.
Rhyfyg fyddai i adolygwyr—tylwyth cymharol anwybodus yw'r adolygwyr—anturio cyferbynnu'r darlithiau hyn a phethau yn yr un maes; ond credaf y caiff y rhan fwyaf o astudwyr y llyfr yn haws ei ddarllen ac yn haws ei gofio na gweithiau Pringle-Pattison a Sorley yn yr un gyfres. Y mae yma fwy o ddawn egluro, mwy o asbri llenyddol, mwy o ferw a sê, mwy o ddyblu. Pa un o honynt yw'r cyfraniad cyfoethocaf at athroniaeth crefydd sydd bwnc anodd ei benderfynu; ac fe'i penderfynir gan bawb i raddau yn ol osgo'r darllenwr ei hun at y pethau a ddaw dan sylw; ond am ddawn i yrru'r peth adref, a gadael argraff groew a diangof ar y meddwl, rhaid rhoi'r gamp i Henry Jones. Y mae'n syn odiaeth na cheid yma ol llesgedd a musgrellni, a chofio fod y darlithiau wedi eu paratoi bob yn ail a phoenau arteithiol, ond nid oes yma ddim. Os bydd yr awdur yn rhoi bonclust, fe'i rhydd mor egnïol a deheuig ag y gwnaethai ugain mlynedd yn ol, ac mor iach a diwenwyn ei ysbryd a phe na wybuasai ond trwy hanes am ofidiau'r daith.
Rhagoriaeth fawr hefyd yn Syr Henry yw ei fod yn bur siwr o'i bwnc, wedi cael tir o dan ei droed sy'n rhyngu ei fodd. Y mae ganddo genadwri bendant heb ddim petruso ynghylch ei gwirionedd hi. Gesyd hyn ei ddelw ar ffurf ei lyfr ef. Y ffasiwn yn y byd Seisnig, ers cryn yspaid, ydyw beirniadu llenyddiaeth