y pwnc o bant i bentan i ddechreu, ac wedyn, o bydd gofod, dodi rhyw bennod neu ddwy yn braslunio'n gynnil beth fyddai'ch golygiad chwi'ch hun pe ceid amser i'w ddatblygu. Fel arall yn union y bydd Henry Jones—egluro'i safle'i hun i ddechreu y bydd ef, a beirniadu awduron eraill o'r safle hwnnw; wrth fod cymaint o'r llall, y mae y dull yma yn amheuthun mawr.
Nid nad yw yntau yn eithaf chwannog i ragymadroddi. Yn wir y mae rhagymadroddi braidd yn brofedigaeth iddo. Fe ddaeth i Gefn y Waen, Arfon, i ddarlithio ar Socrates. Dechreuodd trwy alw sylw at werth a phwysigrwydd gwybodaeth, ac yn y fan honno yr arhôdd; ac wedi traethu am agos i ddwyawr, terfynodd gyda dywedyd : "mi ddo'i yma eto i ddeud ar Socrates." Mi goeliaf yr ystori yn hawdd. Ac yn y llyfr hwn fe wnaethai llai y tro o ymhelaethu ar bwysigrwydd chwilio ym myd crefydd, yn enwedig gan fod y byd crefyddol wedi dyfod yn nes o lawer i'w safle ef ar hynny o bwnc nag ydoedd ddeugain mlynedd yn ol, a hynny i fesur yn ffrwyth ei lafur ef ac athronwyr o'r un ysgol ag ef. Yr oedd saith darlith braidd yn ormod yn ol yr herwydd ar y rhan yna o'r maes. Ond rhagymadrodd gan yr awdur hwn rhagymadrodd i egluro'i safle ef ydyw, nid i ddeud pa le y mae eraill yn sefyll ddim.
Ac yr oedd eisieu rhyw bethau sydd yn y saith darlith gyntaf hefyd, yn enwedig y gwrthdystiad yn erbyn y duedd sydd o hyd yn bod i orseddu awdurdod yn lle dibynnu ar chwilio.
Llyfrau cymharol ddiweddar yw un Balfour, Syr Arthur Balfour weithian, ar "Seiliau Cred," un Newton Marshall ar Athroniaeth Crefydd (nid wyf yn cofio teitl y gyfrol), ac un Forsyth ar "Awdurdod"; a phwyso ar awdurdod y mae'r rheini i gyd i raddau mwy neu lai—naill ai awdurdod swyddogol yr Eglwys, neu ynte awdurdod traddodiad a dderbyniodd hi o ddyddiau'r apostolion.