Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond diau y bydd gofyn, gan fod Henry Jones yn ymwrthod â'r awdurdod eglwys, ac ag awdurdod llyfr, ac ag awdurdod traddodiad, i benderfynu beth sydd wir, pa beth sydd yn penderfynu'r pwnc iddo ef. Y mae ef yn ymwrthod â'r awdurdodau yna, ac yn ymwrthod â maen prawf arall hefyd, sef profiad personol. Dengys Darlith VI., mai peth personol yw profiad, cystal neu cyn saled â'i gilydd nes ei chwilio a'i groesholi. (Gwel t. 92). Darlith bwysig iawn yn y gyfres ydyw'r chweched. Mi gynghorwn y sawl a fynno feistroli'r llyfr i ddarllen hon lawer gwaith drosodd. Debyg na dderbyniasai'r awdur mo faen-prawf William James o Harvard: "I know that a thing is true because something gives a click inside me." Ac eto yn y fel yna y mae llawer iawn yn dyfod o hyd i wirionedd; ac odid y gwadasai Syr Henry hynny; eithr fe wadasai yn bendant mai yno yr oedd eu hawl hwy i'w ystyried ef yn wirionedd. Un peth yw ffordd o ddyfod o hyd i wirionedd, peth arall yw'r ffordd i sicrhau ei fod yn wir. Beth ynte sy'n penderfynu'r pwnc i Syr Henry ei hun? Bod y peth a gynygir i ni fel gwirionedd yn cyd—daro ac yn cyd—asio â hynny o wirionedd a feddem ni o'r blaen. Cynnwys y gwirionedd ei hun a'i gyfanrwydd fel system a rydd iddo hynny o sicrwydd a all ei gael." (t. 56). Cysondeb cyfundrefnol ydyw'r maen-prawf o'r gwir. Gall dyn gael profiad cynnes iawn o beth sydd, o'i chwilio, yn gyfeiliornad. Lle'r idea mewn system sy'n profi ai gwir ai cyfeiliornus ydyw hi. Pwy bynnag sydd ddigon o forwr i fentro'r môr heb ddim cwmpas ond hwn yna, fe fydd crefydd a philosoffi a bywyd i gyd yn rhywbeth arwraidd a rhamantus i hwnnw. Ond a ellir mentro? Neu a oes rhywbeth nes atom y gallom ei gael yn faen-prawf? A oes posibl, chwedl Thomas Hill Green, cael rhywbeth a'n bodlono ni ar ddyddiau gwaith yn gystal ag ar y Sul—ar ddyddiau gwaith, negesau a gorchwylion cyffredin bywyd, yn gystal ag