Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)/Hafgan

Bonedd a Chyffredin Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)
Corff y llyfr
gan Twm o'r Nant

Corff y llyfr
Anwyl Gyfaill

HAFGAN

Alaw—"Spaen-Wenddydd."

Y teulu mwyn hael-gu mewn hedd,
Rhowch osteg, rai glandeg eu gwedd;
I ddatgan un haf-gan yn hy,
Hen dirion arferion a fu,
Mewn llawer ty 'roedd cennad da,
Ac enw hyf i ganu Ha;
Fel pob creadur sy'n ei ryw,
Ag aml dôn yn canmol Duw.

Mae'r ddaear oedd fyddar, wedd fud,
Mae'r coedydd, mae'r bronnydd mawr bryd,
Mae'r dyffryn yn deffro ei holl wraidd,
Mae eginoedd y gwenith a'r haidd,
Mae llaeth a maidd, mae llwythau mwyn,
O ffrwythydd haf yn ffraeth ymddwyn;
Mae pob creadur yn ei ryw
Ag aml dôn yn canmol Duw.

Gan hynny gwnawn synnu 'mhob swydd,
Ystyriwn a gwelwn i'n gŵrydd,
Ddoethineb dawn undeb Duw Ne,
Yn trefnu pob peth yn ei le;
Y mawr dymhorau, ffrwythau ffri,
Er hynny, anufudd ydym ni,
A phob creadur yn ei ryw
Ag aml dôn yn canmol Duw.

Rhoed i ni, heb fawr brofi mo'r braw
Bob mwynder a llawnder i'n llaw;
'Nifeiliaid a defaid ar dir,
Y rhei'ny sy'n hardd inni'n wir,
Pob peth yn glir i'n porthi'n glau,
A ninnau er hyn heb 'difarhau;
A gweled pob greadur gwiw
Ag aml dôn yn canmol Duw.


Mae r holl greadigaeth fel drych,
Rhai deimlant a welant yn wych,
Bod pob peth yn datguddio'n gytun,
Ddaioni'r Creawdwr ei hun;
Ond natur dyn sy fwya' dall,
Tan gwmwl balchder ofer wall,
Ni fyn ddarostwng o'i dda ryw
Un cymal dewr er canmol Duw.

Pa beth yw rhyfeloedd y byd,
Ond balchder ac uchder i gyd?
Fel 'r angel nerth uchel wnaeth ef
I ormesu teyrnasu tu'r nef;
A dyna'n llef sydd fyth rhagllaw,
Yn ffrwd gyffredin dryghin draw,
O eisiau bod yn Iesu byw
Bob cymal dewr yn canmol Duw.

O! rhyfedd yw'n buchedd trwy'r byd,
Mewn gwagedd a llygredd a llid,
Heb geisio gwir deimlo gair Duw
Sy'n ein galw ni o feirw i ail fyw;
Ond Och! mae'n clyw ni wedi cloi,
Ac ysbryd dall i ymbarotoi;
'Rym ni yn gysglyd oerllyd ryw,
Ac eisieu'n deffro i ganmol Duw.

Cynhyrfwn, a gwelwn mai gwir
Y cawn feirw, cwyn arw, cyn hir;
Gwybyddwn na ffaeliwn yn ffol,
Mae'r bywyd trag'wyddol yn ol;
Ymwnawn mewn rhol am ffrwythau'r hâ,
Lle mae gorfoledd diwedd da;
Dyna r fan lle caffom fyw,
Amen, a 'stad, yn mynwes Duw.


Nodiadau

golygu