Ty'r Arglwyddi yn 1912

gan Tryfanog

Dewch, wrolion chwareli, - am lwyddiant
Ymladdwn o ddifri;
Nid ffrae a hwyl, ond ffwr' a hi
I wir gladdu'r Arglwyddi.
Myned a wnant i'r mynydd - i hela
A hwyl yn dragywydd;
Spwylio'n tlawd o'i ffawd a'i ffydd,
Aflanaf haid aflonydd.
Gwyddom bawb nad gweddus - yw llwytho
A llethu'r anghenus;
Darnio a lleibio pob llys
Wna y lladron twyllodrus
Ddafydd Llwyd, ddeifiodd eu lle, - chwalodd
Y chwilod o'u nythle;
Ni syfl hwn fyth o'i safle,
Ef yn ei wlad fynn ei le.