Tydi sy deilwng oll o’m cân
Mae Tydi sy deilwng oll o’m cân yn emyn gan David Charles II, (1803-80)
- Tydi sy deilwng oll o’m cân,
- fy Nghrëwr mawr a’m Duw;
- dy ddoniau di o’m hamgylch maent
- bob awr yr wyf yn byw.
- Mi glywa’r haul a’r lloer a’r sêr
- yn datgan dwyfol glod;
- tywynnu’n ddisglair yr wyt ti
- drwy bopeth sydd yn bod.
- O na foed tafod dan y rhod
- yn ddistaw am dy waith;
- minnau fynegaf hyd fy medd
- dy holl ddaioni maith.
- Diolchaf am dy gariad cu
- yn estyn hyd fy oes;
- diolchaf fwy am Un a fu
- yn gwaedu ar y groes.
- Diolchaf am gysuron gwiw
- wyf heddiw’n eu mwynhau;
- diolchaf fwy am ddoniau sy’n
- oes oesoedd i barhau.