Wele Cawsom y Meseia
—
← Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb | Wele Cawsom y Meseia gan Dafydd Jones o Gaeo |
N'ad im adeiladu'n ysgafn → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
198[1] Wele, cawsom y Meseia.
87. 87. 67.
WELE, cawsom y Meseia,
Cyfaill gwerthfawroca' 'rioed ;
Darfu i Moses a'r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod :
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.
2 Dyma Gyfaill haeddai'i garu,
A'i glodfori'n fwy nag un :
Prynu'n bywyd, talu'n dyled,
A'n glanhau â'i waed ei Hun:
Frodyr, dewch, llawenhewch,
Diolchwch iddo, byth na thewch!
Dafydd Jones o Gaeo
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 198, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930