Wicidestun:Beth i'w roi ar Wicidestun?

Sylwer: mae'r polisi canlynol yn addasiad o [bolisi Saesneg Wikisource]. Argymhelliad, nid polisi, yw'r canlynol ar hyn o bryd.

Mae Wicidestun, yn debyg i lyfrgell agored ac am ddim y gall unrhyw un ei gwella, ac sy'n bodoli i archifo'r gweithiau artistig a deallusol agored a grëwyd trwy gydol hanes. Mae Wicidestun yn ymgais i gyflwyno'r cyhoeddiadau hyn ar ffurf wici, fel y gall unrhyw un gyfrannu ac ychwanegu at y casgliad. Mae'r dudalen hon yn amlinellu'r polisi a ddefnyddir i benderfynu a yw gweithiau penodol yn cyflawni'r nod hwn ai peidio ac yn dderbyniol ar Wicidestun.

Beth sy'n cysylltu yma Newidiadau perthnasol Uwchlwytho ffeil Tudalennau arbennig Gwybodaeth am y dudalen

Ymchwil wyddonol golygu

Mae ymchwil wyddonol yn dderbyniol ar Wicidestun, cyn belled a bod y gwaith wedi derbyn adolygiad cymheiriaid o le dibynadwy.

Rhaid i'r gwaith fod yn agored neu wedi'i ryddhau o dan drwydded agored; mae hyn yn atal y mwyafrif o weithiau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi'n fasnachol o dan gytundeb sy'n gwahardd ailgyhoeddi.

Enghraifft o waith ymchwil derbyniol o'r fath yw traethawd ymchwil sydd wedi cael ei adolygu a'i dderbyn gan bwyllgor traethawd ymchwil prifysgol achrededig.

Mae ymchwil wyddonol nas cyhoeddwyd o'r blaen (fel gweithiau artistig) yn dderbyniol i'w gynnwys yn Wicidestun hyd yn oed os nad yw'r gwaith wedi cael ei adolygu gan gymheiriaid (neu feirniaid llenyddol) ai peidio os yw'r awdur yn cwrdd â meini prawf polisi Amlygrwydd Wicipedia Cymraeg. Byddai'n rhaid i'r gwaith, wrth gwrs, gael ei ryddhau ar drwydded agored, sy'n gydnaws â Wicidestun.

Enghraifft o waith ymchwil derbyniol o'r fath yw traethawd ymchwil sydd wedi cael ei archwilio a'i dderbyn gan bwyllgor traethawd ymchwil prifysgol achrededig.

Cyfieithiadau golygu

Mae'r Wicidestun Cymraeg yn gasgliad o destunau a ysgrifennwyd yn y Gymraeg yn unig. Dylid gosod testunau mewn ieithoedd eraill yn yr is-barth iaith briodol, neu ar y wefan aml-ieithog, gyffredinol. Fodd bynnag, mae Wicidestun Cymraeg hefydyn caniatau cyfieithiadau i'r Gymraeg o ieithoedd eraill, yn ogystal â thestun dwyieithog lle mae'r Gymraeg yw iaith darged y cyfieithiad.

Er enghraifft, byddai cyfieithiad o After Love gan Sara Teasdale i'r Gymraeg yn hollol dderbyniol. Pe baech yn dymuno cyfieithu Araith Saunders Lewis i'r Llys ar 13 Hydref 1936 i'r Saesneg, yna dylid troi i'r Wikisource Saesneg i wneud hynny, gan osod y naill iaith a'r llall ochr yn ochr.

Ar gyfer cyfieithiadau, y flaenoriaeth gyntaf yn Wiicidestun yw cyfieithiadau yn y parth cyhoeddus a gyhoeddwyd yn flaenorol. Fodd bynnag, gan fod testunau-ffynhonnell di-ri wedi'u cyhoeddi mewn ieithoedd eraill na fyddent byth yn cael eu cyfieithu fel arall, ynghyd â'r ffaith y gall cyfieithiadau cyflenwol newydd wella ar y rhai sy'n bodoli eisoes mewn sawl ffordd, mae Wicidestun hefyd yn caniatáu cyfieithiadau a grëwyd gan ddefnyddwyr.

Anodiadau golygu

Fersiynau a gyhoeddwyd yn flaenorol o destunau ag anodiadau yw'r flaenoriaeth yma, ond efallai na fydd y rhain ar gael am resymau hawlfraint, wedi dyddio, neu angen eu gwella. Mae hyn yn aml yn arbennig o wir am destunau cyn-fodern (fel testunau hynafol a chlasurol neu ganoloesol).

Gall anodiadau gynnwys data beirniadol am y testun-ffynhonnell ei hun, sylwebaethau troednodyn am eiriau neu ddarnau, cyfeiriadau, teitlau rhannu ac adrannau, cyflwyniadau, crynodebau, mynegeion, lluniau, ayb. Ym mhob achos, rhaid ychwanegu anodiadau gan gyfranwyr yn y fath fodd fel bod testun ffynhonnell "glân" heb ei newid ar gael, naill ai trwy ddull technegol neu trwy ddarparu copi cyfochrog.

Amlgyfrwng golygu

Gall cynnwys amlgyfrwng a ychwanegir at destunau wella ansawdd a chyflwyniad y testun yn fawr. Mae cynnwys o'r fath yn cynnwys nid yn unig ddarluniau neu ffotograffau cyhoeddedig o'r llyfr ei hun neu amdano sydd allan o hawlfraint, ond hefyd gyfraniadau gwreiddiol recordiadau sain, diagramau neu gynnwys arall.

Yr hyn a ganiateir a'r hyn gaiff ei wahardd golygu

Cyfraniadau gwreiddiol golygu

Ni chaniateir cyfraniadau gwreiddiol nad ydynt wedi eu cyhoeddi (ar bapur neu ar y we) cyn hynny.

Hysbysebu golygu

Nid yw Wicidestun yn caniatau hysbysebion nad ydynt yn gyhoeddiadau sy'n sefyll ar eu traed eu hunain. Fodd bynnag, mae hysbysebion sy'n rhan o gyhoeddiad mwy yn dderbyniol. Wrth drawsgrifio gwaith sy'n cynnwys hysbysebion, gellir naill ai trawsgrifio a thrawsosod yr hysbysebion, neu gellir eu hanwybyddu a pheidio â'u trawsosod (gan nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn rhan o waith yr awdur).

Testunau anhysbys golygu

Mae pennu statws hawlfraint yn gyffredinol yn gofyn am wybodaeth fanwl o'i awduriaeth. Mae gan y mwyafrif o destunau ffynhonnell awdur y gellir ei adnabod (unigolion, grwpiau, llywodraethau), ond mae yna destunau lle collwyd y wybodaeth hon. Mae testunau anhysbys hanesyddol yn briodol ar lwyfan Wicidestun, ac mae rhai hyd yn oed yn eithaf pwysig. Fodd bynnag, ni ddylid testunau anhysbys at Wikisource oni bai bod ganddynt ryw werth hanesyddol ac nad oes ganddynt amwysedd o dan y polisi hawlfraint.

Rhan o weithiau mwy golygu

Fel arfer, nid yw tamed o waith ehangach yn dderbyniol. Argymhellir ei drafod yn y Sgriptoriwm cyn ei gynnws.

Gwaith esblygol golygu

Prif genhadaeth Wicidestun yw casglu a chadw gweithiau ar eu ffurf gyhoeddedig. Felly, mae gweithiau y disgwylir iddynt newid yn gyson dros amser, at ddibenion diweddaru'r gwaith, i wella neu i wneud y testun yn fwy cynhwysfawr, wedi'u heithrio o Wicidestun. Nid testun byw yw Wicidata.

Engreifftiau a waherddir:

  1. testunau penagored lle mae'r awdur yn dibynnu ar ymdrechion cydweithredol gan lawer o gyfranwyr i orffen a gwella'r gwaith;
  1. testunau lle disgwylir iddynt gael eu diweddaru'n gyson wrth i wybodaeth fwy perthnasol gael ei darganfod a'i hychwanegu;
  1. rhestrau

Deunydd cyfeirio golygu

Nid yw Wicidata yn casglu deunydd cyfeiriol oni bai ei fod yn cael ei gyhoeddi fel rhan o destun ffynhonnell gyflawn. Nid yw gwybodaeth o'r fath wedi'i chyhoeddi o'r blaen, yn aml mae'n cael ei llunio gan y defnyddiwr a'i gwirio, ac nid yw'n cyd-fynd â nodau Wikisource.

Mae rhai enghreifftiau o'r rhain yn cynnwys:

  1. Rhestrau;
  2. Cysonion mathemategol (fel digidau pi);
  3. Tablau data neu ganlyniadau;
  4. Deunydd cryptograffig;
  5. Cod ffynhonnell.

Deunydd heb ffynhonnell golygu

Mae gweithiau a gofnodwyd â llaw a llygad, lle nad oes ffynhonnell wiriadwy ar gael, yn cael eu dileu pan fyddant yn anghyflawn ac yn ymddangos eu bod wedi'u gadael. Er nad yw ffeil djvu ar Comin yn ofyniad ar hyn o bryd, bu trafodaeth am ei gwneud yn orfodol; derbynir ffeiliau . Bydd gan eich gwaith well siawns o aros, os gall sefyll y prawf 'dilysu i sgan' sydd ar gael. Oherwydd bod Comin yn chwaer-safle Wicidestun mae'n debygol y bydd eich gwaith yn goroesi gan fod y delweddau'n cael eu storio ar Comin.

Consensws golygu

Gellir cadw rhai gweithiau sy'n methu'r meini prawf a amlinellir uchod os deuir i gonsensws. Mae hyn yn arbennig o wir am weithiau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol neu werth hanesyddol. Bydd consensws o'r fath yn seiliedig ar drafodaeth yn y Scriptorium, gyda hysbysiad o'r drafodaeth hefyd ar Wicipedia.