William Jones (Nofel)/Pennod 16 - Pobol Ryfadd
← Pennod 15 - Un Garw | William Jones (Nofel) gan T Rowland Hughes |
Pennod 17 - Pen y Bwrdd → |
PENNOD XVI
POBOL RYFADD
Y MAE meddwl hen bobl, meddir, yn hoff o ymgyrraedd i'r gorffennol, i ddyddiau plentyndod ac ieuenctid. Ni chofia'r hen wraig pa un ai dydd Mercher ai dydd Iau ydyw hi, ond gofynnwch iddi am y patrwm cymhleth a grosiai pan oedd hi'n ddeuddeg oed, a chewch y manylion i gyd. Ffwndrus hefyd yw'r hen wr wrth geisio dwyn i gof ai liond llwy de ai llond llwy fwrdd oedd gorchymyn y meddyg neithiwr, ond pan edrydd hanes ei fore cyntaf yn y chwarel, y mae'r darlun mor fyw nes gwybod ohonoch gynnwys tun—bwyd pob un yn y caban.
Go debyg yw meddwl dyn sâl, ac yn ôl i Lan-y-graig y crwydrai atgofion Crad. Aeth i orwedd yn nechrau Hydref, gan fod yr aflwydd ar ei ysgyfaint, meddai'r meddyg yng nghlust William Jones, yn troi'n ddarfodedigaeth. Cadwodd ef y newydd rhag Meri, wrth gwrs, ond yr oedd ofn fel rhew yn ei chalon hi pan welodd ei gŵr yn pesychu gwaed.
Na, paid â dychrynu, ddarllenydd hynaws; oherwydd ni fwriadaf sôn fawr ddim eto am afiechyd Crad. Dywedaf hyn rhag ofn dy fod yn estyn am dy gadach poced ar ddechrau rennod drist ofnadwy. Ond hyderaf y bydd ei angen arnat, er hynny—i sychu dagrau chwerthin, nid i wylo. Yn unig cofia yn dy ddifyrrwch fod Crad yn wael, yn wael iawn.
Un llon a digrif fuasai Crad erioed, gŵr y cellwair ffrwydrol a'r chwerthin Homerig. A chwerthin a wnâi yn ei wely fel y llithrai ei feddwl yn ôl i'r ysgol ac i'r chwarel ac i fyd ei anturiaethau yn America ac yn y Rhyfel, ac wedyn yn y pwll glo. Llawer tro y digwyddodd William Jones daro i mewn i'r llofft yn o sydyn a chael ei frawd yng nghyfraith yn cuddio'i wyneb â'i law.
"Be' sy, 'r hen Grad?"
"Fy llygaid i braidd yn wan, William, a gola'r haul 'na yn 'u blino nhw. Mi droa' i at y wal am dipyn."
Ac wrth iddo droi, câi William Jones gip ar y chwerthin yn ei lygaid, a syllai'r chwarelwr yn y drych rhag ofn bod rhywbeth digrif—parddu ar ei drwyn neu jam ar ei ên—yn ei ymddangosiad ef. Gobeithiai'n ddwys nad oedd yr afiechyd yn amharu ar feddwl yr hen Grad.
Coblyn bach drwg oedd Crad yn yr ysgol, a chofiai â gwên y castiau a chwaraeai yno. Diawch, y tun hwnnw a guddiodd unwaith yn nrôr Huws Bach y Sgŵl! Yr oedd ynddo filodfa ar raddfa fechan—tair gwenynen, dwy lygoden farw, gwladfa o forgrug, pedwar llyffant, amryw o benbyliaid, dwsin o bryfed genwair, ac, yn anrhegion mwy parchus, ddau 'nionyn bach. Ar wahân i dri a bigwyd i farwolaeth gan y gwenyn, dihangodd y morgrug drwy dwll bychan yng ngwaelod y tun, gan gredu bod esmwythach byd a phorfa frasach yn nrôr y Sgûl. Ond chwarae teg i Grad, sut y gwyddai ef y daliai Huws y tun ar wyr wrth ei agor?
A dyna'r tro hwnnw y rhoes gymorth i Ned Sais, glanhawr yr ysgol, i drwsio'r gloch. Llithrasai'r rhaff oddi ar yr olwyn, a chan fod y bachgen yn byw y drws nesaf i Edward Williams, a ofalai am lanhau'r ysgol, i Grad y gofynnodd y Sgŵl am atgoffa'i gymydog am y peth. Aeth y cena' bach ar unwaith o amgylch tai ei gyfeillion, a llwyddodd i gasglu hanner dwsin o wyau. Bu Ned Sais mor ddiofal â gadael i'w gynorthwywr ddringo'r ysgol i roi'r rhaff yn ôl yn ei lle, a throes ef ymaith i fynd ymlaen a'i waith mewn ystafell arall. Hongiodd Crad y cwd papur tyllog, a ddaliai'r wyau, â llinyn wrth dafod y gloch, ac yna rhoes gymorth parod i Ned i orffen ei waith cyn i'r Bwl agor. Gan y mynnai'r Sgŵl ei hun ddechrau canu'r gloch gyntaf bob dydd, bu'n rhaid iddo frysio adref i ymolchi a newid ei ddillad fore trannoeth.
Ond yr hwyl a gafodd ef a Robin Jên Ifans un canol nos a ddôi gliriaf i feddwl Crad. Llwyddodd y ddau i sleifio o'u tai ac i ddringo i mewn i'r ysgol drwy ffenestr Standard I. Clymodd Robin Jên (rhywfodd neu'i gilydd, ni welai neb ddim byd yn ddigrif mewn rhoi enw ei fam iddo) linyn du wrth raff y gloch, a gorweddodd o dan un o'r seddau gerllaw. Wedi iddo'i wisgo'i hun yn y gynfas wen a ddygasai o'i wely, tynnodd Crad yn ffyrnig wrth y gloch, gan ddeffro'r holl ardal. Trawodd y Sgwl ddillad yn frysiog amdano a rhuthrodd i'r ysgol mewn braw. Ond yn Standard V, lle'r oedd y gloch, nid oedd na sŵn na symud yn y byd. Yr oedd hi'n noson oer yn y gaeaf, a chan na chawsai amser i wisgo'n briodol, crynai drwyddo yno yn y tawelwch rhewllyd, gan wrando ar ryw dylluan, â'i thraed yn oer, yn cwynfan yn y coed gerllaw, ac ar oernad rhyw gi a udai yn y pellter. Troes ymaith, yn ddig wrtho'i hun am adael cynhesrwydd ei wely plu, ond cyn iddo gyrraedd drws yr ystafell fawr, safodd yn syfrdan wrth glywed y gloch yn toncio'n lleddf ac araf uwchben. "C... come out of there," meddai ei lais, er mai prin yr adwaenai ef, "and I'll g... give you the b... best h... hiding you've ever h... had." Ond ni neidiodd neb at y cynnig. Tawelwch hir eto, er bod rhyw ysfa disian yn gafael yn Now Jên Ifans. Pwy bynnag, a chwaraeai'r tric hwn, meddai'r ysgolfeistr wrtho'i hun, yr oeddynt yn peryglu ei fywyd drwy ei alw o'i wely i'r fath oerfel. A oedd rhywbeth yn symud fan draw yng nghong! yr ystafell? Oedd, a rhewodd asgwrn cefn y Sgwl wrth iddo wylio'r ysbryd yn symud o'r cysgod i olau gwan y lloer. Daeth tair tonc ddwys ar y gloch, pob un mewn ufudd—dod i amnaid gan fraich araf ac urddasol yr ysbryd. Dihangodd Huws Bach am ei fywyd.
Pan gyrhaeddodd eraill, nid oedd na thonc cloch na golwg ar ysbryd yn Standard V, ac ni ddeallai'r bobl pam yr edrychai'r Sgŵl mor llwyd ac ofnus. Dic Dew, ei gefnder, a roes yr eglurhad gorau iddynt, gan awgrymu'n gynnil na wnaeth dysg les i neb erioed. Ond y gloch? O, rhyw dylluan neu ystlum go fentrus yn ceisio dianc yn ôl i'r nos. Yr oedd ef yn cofio unwaith... Ond ni wrandawodd neb ar stori Dic, gan wybod ohonynt fod ei ddychymyg bron gymaint â'i syched.
Castiau fel y rhain, a thipyn o fri fel cwffiwr, a chymorth arwrol bob Hydref i'r Person i gadw'i afalau—cadw oedd deunydd hynny o ramant a oleuai ieuenctid Crad. Ystorm o ddyn oedd ei dad, selog yn y Bwl, anghyson yn y chwarel, herfeiddiol a llon ym mhopeth a ddywedai ac a wnâi. Enillodd enwogrwydd lleol un nos Sadwrn drwy daflu gwerth chweugain o geiniogau o ddrws y Bwl i blant y pentref; dewisodd y ffordd honno, yn un o amryw, i ddathlu marwolaeth rhyw ewythr darbodus a adawodd dri chant o bunnau iddo. Yn ffodus, dim ond gwerth rhyw ganpunt a yfodd cyn mynd "at y sowidiwrs," a phur anaml y gwelai'r ardal ef yn ystod y ddwy flynedd cyn iddo farw, mor herfeiddiol a llon ag y buasai fyw, rywle yn Neau'r Affrig. Yfodd ei gyfeillion yn y Bwl beint dwys ar ôl Wil Sowldiwr, gan gofio'r tro hwnnw y lloriodd y Dyn Cryf yn y syrcas, ac yna anghofiodd Llan-y-graig amdano.
Ymroes Kate Williams, y weddw fach dawel ac ofnus fel llygoden, i ofalu am enaid ei bachgen. Âi hi ei bun ag ef i'r capel, i'r Ysgol Sul ac i'r Cyfarfod Gweddi ac i'r Seiat ac i'r Band of Hope, a'i roi yno yng ngofal Wmffra Roberts neu Huws Roberts neu rywun. Ond nid oedd Caradog fel bechgyn eraill. I ddechrau, yr oedd rhyw wendid ar ei gyfansoddiad bob gafael yn y capel; gwingai fel cnonyn ar ei sedd, gan ddal ei law i fyny i erfyn am ganiatâd i fynd allan am funud. Pwy a allai wrthod ei gais? Câi'r hawl i dalu ymweliad brysiog â chefn y capel, ond gan na ddychwelai i'w sedd, ymgynghorodd y brodyr â'i gilydd a chaledu eu calonnau i'w erbyn. Bu'n rhaid i fab Wil Sowldiwr feddwl am gynlluniau eraill. Ef, yn y Band of Hope, fyddai'r cyntaf o'r ymgeiswyr i fynd allan i'r festri ar gyfer Cystadleuaeth Speling Bî, ond gan fod ffenestr yn y festri, ni welsid mwy ohono ef y noson honno. Llwyddai weithiau hefyd, yn ystod un o weddïau uchel Isaac Davies, i gropian o'i sedd ac o'r capel, a phan fethai'r holl ddyfeisiadau hyn, yr oedd ganddo eraill. Gwelodd Wmffra Roberts ef un noson, er enghraifft, yn rhwymo'i law waedlyd â'i hances, ac yr oedd hi'n amlwg fod yr hogyn truan mewn poen dirfawr. Gyrrodd ef adref ar unwaith, ond ar ei ffordd allan o'r capel trawodd y cena' bach y botel o inc coch a fenthyciodd o'r ysgol ym mhoced côt fawr Isaac Davies.
Hawdd fyddai manylu ar droseddau hogyn Wil Sowidiwr. Yr oedd yn rhegwr huawdl cyn bod yn wyth oed, yn smocio cyn bod yn naw, yn dwyn rhywbeth a phopeth cyn bod yn ddeg; yn wir, ni châi'r angel a groniclai ei hanes funud o hamdden i sylwi ar neb arall. Er hynny, tyfodd yn llanc cydnerth ac yn chwarelwr medrus, yn gwffiwr llawn gwell na'i dad, ac yn bysgodwr (heb drwydded) llwyddiannus iawn. Dim ond ar nos Sadwrn yr âi i'r Bwl, ond ar y nosweithiau hynny torrai ar undonedd bywyd Llan-y-graig drwy fod yn rhyfelgar i'r eithaf. Ac unwaith, rhythodd i mewn i un llygad Twm Bocsar a'i wahodd i gefn y dafarn. Pa un ai straight left ynteu right hook a ddefnyddiodd Twm nid oedd un o'r tystion a wyddai, gan gyflymed yr ergyd, ond daeth Crad ato'i hun i ganfod Owens, yr hen blisman wynepgoch a oedd yn Llan-y-graig y pryd hwnnw, yn gwyro uwch ei ben, ac yn ei gynghori i fynd adref yn dawel. Yn lle ufuddhau troes yr ymladdwr ar y plisman, ac enillodd fis o garchar am ei wrhydri. Dychwelodd yn anniddig i'r Llan ac i'r chwarel, a phan fu farw ei fam rai misoedd wedyn gwerthodd y dodrefn, ac i ffwrdd ag ef i America i wneud ei ffortiwn. Chwarddodd ei ffordd am ryw dair blynedd drwy Scranton a Williamsport a Phittsburg heb ennill ond digon o arian i fyw ac i dalu costau'r daith yn ei ôl, ac yna cafodd lety tros y ffordd i Ann Jones a'i phlant, William a Meri. Er bod Meri'n hộn nag ef o ryw ddwy flynedd, syrthiodd mewn cariad â hi, ac âi i'r capel yn selog, hyd yn oed i'r Cyfarfod Gweddi ac i'r Seiat, i fod yn agos iddi. Ffordd Crad o weddïo, y mae arnaf ofn, oedd gwylio Meri drwy'i fysedd, a gwrandawr esgeulus ydoedd ar bregethau Mr. Lloyd a "phrofiadau” Isaac Davies ac eraill. Rhybuddiai Ann Jones ei merch yn erbyn mab Wil Sowldiwr, ond buan y sylweddolodd Meri mai un syml a didwyll a hoffus iawn oedd y gŵr a gyfrifid yn rhyferthwy o ddyn. A chafodd Crad droedigaeth. Y mae'n wir nad âi ar gyfyl y capel, unwaith yr enillodd ei serch hi, ond rhoes y gorau i yfed, ac nid ymladdai-ddim heb achos, beth bynnag, a thalai'n onest ac i'r diwrnod am hawl i bysgota. Yr oedd ei esgeulus- tod o foddion gras yn asgwrn cynnen rhyngddynt, a beiai Meri ei chariad am wastraffu cymaint o arian ac amser yn chwarae billiards, ond ni châi ei mam na'i brawd ddweud gair yn ei erbyn. Nid bod un o'r ddau yn hoff o ddilorni Crad ; yn wir, gofalai Ann Jones fel mam am y lletywr tros y ffordd, ac yr oedd William Jones wrth ei fodd yn ei ddilyn-ar y slei-i gwt y billiards neu hyd fin Afon Gam.
Ac yna, ryw flwyddyn cyn y Rhyfel Mawr, ffurfiwyd Llan-y-graig United.
Gwenai Crad wrth gofio am yr United, a chofiai amdano bron bob dydd wrth wrando, o'i wely, ar leisiau'r bechgyn yn chwarae Rygbi. Yr oeddynt hwy wrthi bron bob prynhawn, gan eu bod yn ddi-waith ac wedi llwyddo i gael benthyg cae am ddim, a chludai'r awel eu lleisiau i fyny i Nelson Street a thrwy'r ffenestr agored i glustiau'r dyn claf. Ond twt, Socer oedd y gêm, yn arbennig â Now Bwl a Thwm Bocsar a Huw Mwnci a'r lleill yn ei chwarae. Chwarddai Crad nes bod y gwely oddi tano'n ysgwyd wrth gofio llawer ysgarmes gynt a fu. Now Bwl a gychwynnodd y mudiad yn Llan-y-graig, a dadleuai rhai mai hiraeth ei dad am gael tipyn o rent am y cae mawr, a oedd yn perthyn i'r dafarn, a oedd tu ôl i'w frwdfrydedd. Ond pan ofynnai mynychwyr y Bwl i'r beirniaid hynny a wyddent hwy am ryw gae arall mwy cyfleus, tawent yn sur a grwgnachlyd. Cynorthwyo'i dad yn y dafarn yr oedd Now y pryd hwnnw, ac âi ymaith yn aml i Gaer- narfon a Bangor a hyd yn oed i Lerpwl i wylio'r bêl droed. Dewiswyd pwyllgor-yn y Bwl-a chrewyd Llan-y-graig United i'w reoli ganddo. O leiaf, enwyd rhyw ddwsino chwaraewyr tebygol a threfnwyd i gael brwydr yn Llan-y- graig neu yn y pentrefi o amgylch bob Sadwrn drwy'r gaeaf a'r gwanwyn. A "brwydr” oedd y gair.
Now Bwl a etholwyd yn Gapten. Nid am mai ef oedd y pêl-droediwr medrusaf, ond am y gwyddai'r pwyllgor yr ufuddhâi pawb i'w orchmynion. Onid ef a daflai Dwm Bocsar allan o'r bar i'r stryd bob nos Sadwrn ?
Enw'r dafarn, wrth gwrs, oedd y “Bwl” a fachwyd wrth ei enw cyntaf, ond gelwid ef hefyd yn Now Tarw yn bur fynych. Oherwydd tarw o ddyn oedd Now, â phen ysgwâr a gwddf byr, trwchus, ac fel tarw y rhuai wrth ruthro'n wyllt o gwmpas cae'r bêl droed. Nid oedd yn fawr o chwaraewr, ond cliriai'r ehofnaf o'i ffordd pan ysgubai fel corwynt am y bêl. A phan ddeuai Now Bwl i wrthdrawiad â rhywun, cludid y truan hwnnw o'r cae yn fuan wedyn. Rhybuddid y Tarw, wrth gwrs, gan bob canolwr, ond dysgai cyn diwedd y gêm mai chwythu ei chwibanogl ac nid pregethu oedd ei waith ef. Yn arbennig pan frysiai Twm Bocsar, â'i ddyrnau i fyny, ato i egluro nad oedd ar wyneb y ddaear neb addfwynach na Now.
Twm Bocsar! Ysgydwai'r gwely'n fwy fyth o dan Grad pan feddyliai amdano ef. Buasai Twm yn golier yn y De am gyfnod ac, fel y tystiai ei drwyn, yn dipyn o focsiwr yn ei oriau hamdden. Collodd un llygad mewn rhyw ymrafael difenyg, a dychwelodd i Lan-y-graig ac i'r chwarel â phob math o hanesion arwrol yn ymwau o'i amgylch. Ni wadai Twm mohonynt, dim ond ceisio edrych yn yswil i lawr ei drwyn â'i un llygad. Ef a chwaraeai yn union tu ôl i Now Bwl ar y dde i'r cae, ac os digwyddai rhywun sionc wibio heibio i'r Tarw, gofalai'r Bocsar ei yrru â'i draed i fyny. Yfai Twm botelaid fawr o stowt yn yr egwyl ar ganol y chwarae, a chas- glai tyrfa o fechgynnos o'i amgylch i wylio symudiadau cyson yr afal yn ei wddf. Ac wedi'r atgyfnerthiad hwn, troai Twm yn ôl i'r cae gan deimlo'n barod i wynebu'r gelynion oll ei hun.
Huw Mwnci oedd y trydydd "cymeriad” yn y tîm. Dyn tal iawn, ymhell tros ei chwe throedfedd, oedd ef, a'i ben bron yn foel er nad oedd ond rhyw wyth ar hugain. Ef oedd y gŵr tawelaf yn y tir, ac ni lefarai fwy nag ugain o eiriau ar ei ddydd huotlaf. Cyfrifwyd hwy un diwrnod gan ei bartner yn y chwarel. Ned Morus siaradus a dadleugar oedd hwnnw, a rhoes farc ar fur y wal am bob gair a ddywedodd Huw yn ystod y dydd. Un ar ddeg oedd y cyfanswm, er i Ned wneud ei orau glas i gyrraedd y dwsin. Dewisai Huw gnoi baco yn hytrach na geiriau.
Enillodd ei lysenw drwy fabwysiadu mwnci. Crwydrai rhyw ddyn hefo hyrdi-gyrdi drwy'r pentref un prynhawn Sadwrn, a phan ddaeth Huw allan o'i dy i roi ceiniog iddo, syrthiodd y dieithryn yn farw. Ni chafodd amser i egluro paham y gwnâi beth felly, ond ni roes neb y bai ar Huw. Cafodd Wil Plisman gymorth i gludo'r dyn a'i offeryn ymaith, ac yna eisteddodd Huw yn freuddwydiol yng nghegin fach ei dyddyn, gan ryfeddu at ansicrwydd bywyd. Ysgydwodd ei ben yn drist, ac yna teimlodd rywbeth byw yn neidio ar ei ysgwydd. Yr hen gath? Na, yr oedd newydd ei boddi hi, gan ei bod mor fethiannus, ond clywsai sôn fod iddi hi a'i thylwyth naw o fywydau. Rhwbiodd rhywbeth ochr ei wddf, ac edrychodd i lawr ar ei wasgod. Hongiai cynffon hir hir arni, ac eisteddodd Huw yn hollol lonydd, gan ofni symud hyd yn oed ei lygaid rhag ofn iddynt wneud sûn. Yna neid- iodd y mwnci ar ei fraich ac ar y bwrdd o'i flaen, gan ddwyn afal bychan o'r bowlen wydr a oedd yno. Beth a wnâi ag ef? Gallai roi cath neu gi yn anrheg i rywun ag angen un arno, ond nid hawdd oedd meddwl am neb yn dyheu am fwnci. “Dos i nôl Wil Plisman i fynd â'r cradur i ffwrdd o' 'ma," oedd gorchymyn ei fam weddw. Ond dal i eistedd wrth y bwrdd yr oedd Huw, gan wenu wrth wylio'r mwnci'n mwyn- hau'r afal. "Os nad ei di i'w nôl o, mi a' i," meddai'r hen wraig. Credodd y mwnci mai ag ef y siaradai, a cheisiodd fod yn gwrtais trwy neidio i gongl y bwrdd ati a gwneud rhyw sûn yn ei wddf i ddweud ei fod yn o lew, diolch. Rhuthrodd Elin Jones o'r tŷ i chwilio am Wil Plisman.
Erbyn iddi hi a'r plisman ac eraill gyrraedd yn ôl, yr oedd y mwnci ar ganol y bwrdd yn gwledda ar yr holl afalau a'r eirin a'r da-da a oedd yn y tŷ. Ac yr oedd yn amlwg fod Huw ac yntau'n gyfeillion mawr. Pan geisiodd Wil Plisman gydio yn yr anifail, neidiodd ar ysgwydd y dyn caredig a roesai gymaint o fwyd iddo, ac oddi yno, edrychai'n ddrwgdybus ar ŵr y dillad swyddogol. Efallai i ddillad felly ei ddychrynu droeon o'r blaen ; pa un bynnag, yr oedd yn rhaid cyfaddef mai un go gas oedd Wil. Ni ddywedai Huw air, ond pan gamodd y plisman ymlaen i gydio yn y mwnci, gwthiodd y dyn tawedog ef o'r neilltu ac yna aeth ef a'r anifail allan am dro i'r ardd. Cliriodd Elin Jones weddillion y wledd o'r bwrdd yn drist, gan gwynfan nad oedd gan hen ddyn yr hyrdi-gyrdi 'na ddim hawl i ddianc i fyd arall heb fynd ắ'i fwnci hefo fo.
Rhoes Huw a'i fwnci ddifyrrwch mawr i blant a phobl yr ardal am rai misoedd, ond yr oedd Elin Jones yn falch iawn pan flinodd y creadur ar gwmni diymgom ei mab a dewis mynd i chwilio am ei hen feistr. Collodd Huw ddau ddiwrnod o'r chwarel pan aeth Mic yn wael, ac wrth ei gladdu rhoes lechen hardd uwch heddwch ei lwch ym mhen yr ardd.
Centre-half a chwaraeai Huw ar gae'r bêl droed, ac ef oedd asgwrn cefn y tîm. Ymddangosai'n hollol ddifraw, fel un a gerddasai ar ddamwain i blith y chwaraewyr ac a wyliai'n syn a breuddwydiol eu rhuthro ffôl ar draws ac ar hyd y maes. Plethai ei ddwylo tu ôl iddo'n bur aml, a cherddai o gwmpas â'i lygaid tua'r llawr fel petai'n cyfansoddi awdl ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf. Ond cyn gynted ag y deuai'r bêl tuag ato ef, deffroai Huw Mwnci drwyddo a buan y gyrrai hi'n ôl i ben arall y cae. Ac yna, gan ymddangos heb ddi- ddordeb o gwbl yn y byd o'i amgylch, âi Huw ymlaen a'i awdl a'i gnoi baco. Pur anaml y llwyddai neb i fynd â'r bêl heibio iddo, ond pan ddigwyddai hynny, byddai coesau hirion Huw wedi dal a phasio'r gwr ymhen ennyd. Dadleuai'r hogiau yn y chwarel fod Huw Mwnci'n ddigon da i Everton neu Aston Villa unrhyw ddydd.
"Be' sy'n dy gosi di biddiw ?” gofynnodd William Jones i Grad un prynhawn wrth weld ei frawd yng nghyfraith yng ngafael rhyw ddifyrrwch.
"Y gêm honno yn erbyn Llan Rhyd. 'Oeddat ti yno, dywad ?"
“Ôn. Pan sgoriaist ti ddwy gôl?"
"Ia, a phan gariodd Twm Bocsar y refferî o'r cae o dan 'i fraich."
"Rhyw frith gof sy gin i am y peth, fachgan." Celwydd oedd hyn, ond credai'r chwarelwr y rhoddai adrodd yr hanes fwynhad i'r dyn claf.
"Roedd 'na refferî newydd sbon ar y cae, William, y dyn bach pwysica' welist ti 'rioed. Hwnnw oedd y tro cynta iddo fo fod yn y Llan, a phenderfynodd ddangos 'i awdurdod ar unwaith. 'Wyt ti'n cofio'r bôi?"
"Nac ydw', wir, Crad. Un tew oedd o, dywad?" "Tew! Y dryw bach teneua' fu ar gae ffwtbol 'rioed. Tew! 'Doedd 'na ddim gwerth gröt o gig ar 'i esgyrn o! Y Goliwog oedd yr hogia'n 'i alw fo, am fod 'i wallt o mor hir a blêr. Daria, yr wyt ti'n siŵr o fod yn cofio'r Goliwog, was."
"Ydw' 'rgan, fachgan."
"Coesa' bach cyw iâr, breichia' babi â'r llecha' arno fo, wyneb bach bach, llygaid yn smicio ar bawb a phopeth, a cheg gron fel olwyn watch. Diawch, i feddwl dy fod ti wedi anghofio'r Goliwog, William!"
"Ond rhaid iti gofio nad oeddwn i ddim yn chwara' hefo'r tîm, dim ond dŵad yno hefo Meri i'th weld di wrthi."
"Dyna gêm oedd honno ! 'Doedd 'na ddim munud wedi mynd heibio cyn i'r dyn bach chwthu'i bib a rhoi penalti i Lan Rhyd. Twm Bocsar wedi ffowlio, medda' fo. Mi ath Twm ato fo i ddeud faint oedd hi o'r gloch, ond y cwbwl wnath y Goliwog oedd chwthu'i bib eto a cherddad yn bwysig i ffwrdd i daro'r bêl ar y sbotyn o flaen y gôl. Dyma Now Bwl yn ordro'r tîm i gyd i sefyll yn y gôl, ac yno y buom ni am bum munud, fachgan, a'r dyn bach yn cerddad o gwmpas ac yn deud wrth hogia' Llan Rhyd he' oedd o'n feddwl ohono' ni. Wedyn, mi ddath i'r gôl i ofyn inni fod yn sborts. 'Wrandawai neb arno fo, ond gan nad oedd Huw Mwnci'n deud dim gair o'i ben, dyna fo'n meddwl fod Huw o'i ochor o. Mi siaradodd yn bir wrtho, ac ar y diwadd, 'Wel?' medda' fo. Y cwbwl wnath Huw oedd stopio cnoi baco a chodi'i ben i edrach ar ryw wylan oedd yn fflio uwchben y cae. Ac wedyn, dyma Huw yn nodio'n reit gyfeillgar ar y dyn bach. Nodio i ddeud bod gwylan yn un reit dda am ffio yr oedd Huw, ond fe gredodd y Goliwog mai cytuno hefo fo yr oedd o, ac mi ath i egluro hynny wrth Now Bwl. Yr oedd Now fel cacwn ac yn barod i hannar lladd Huw Mwnci, ond 'roeddwn i'n digwydd bod yn sefyll wrth ochor Huw pan oedd y Goliwog yn siarad hefo fo, a phan ddeudis i wrthyn' nhw fod Huw heb agor 'i geg, dyma Twm Bocsar yn cyhuddo'r dyn bach o ddeud coblyn o gelwydd ac yn cydio ynddo fo dan 'i fraich a'i gario fo, yn cicio ac yn gweiddi, o'r cae."
"Nid dyna'r tro yr aeth o â fo i gefn y Bwl?"
"Ia, fachgan, a'i ollwng o i'r hen gasgan-ddŵr fawr honno o dan y beipan o'r landar."
"Ond mi aeth y gêm yn 'i blaen, os ydw i'n cofio'n iawn?" "Do, a Dic Pyrs, Llan Rhyd, yn refferî. Gêm dda oedd hi hefyd. 'Doedd Dic Prys ddim yn un rhy barticlar."
Mewn atgofion felly y treuliai Crad lawer o'r dyddiau araf, ond cymerai hefyd ddiddordeb eithriadol ym mhopeth a ddigwyddai o'i amgylch. Gwyddai'r dyn claf yn aml fwy na William Jones am y symudiadau ar y llawr, a châi'r chwarelwr dafod yn aml am gludo newyddion na ddylai i'r llofft.
"Pam ôch chi'n gweud wrtho fa 'mod i mas am dro 'da Richard Emlyn nithiwr?" oedd cwestiwn dig Eleri un diwrnod.
"Deud wrth bwy?"
"Wrth Dada."
"Wyddwn i ddim dy fod ti allan hefo Richard Emlyn, nen' Tad. Y cwbwl ddeudis i wrtho fo oedd imi weld Richard Emlyn wrth y Post gyda'r nos pan es i i godi arian."
"Beth arall 'wetsoch chi?"
"Dim ond nad oedd o ddim fel 'tae o isio imi aros i siarad hefo fo. Mi wn i pam 'rwan."
"Pam?"
"Am 'i fod o'n dy ddisgwyl di. Ond 'wnes i ddim meddwl am hynny ar y pryd."
Dro arall, Meri a ddywedai'r drefn.
"Be' oeddat ti isio deud wrtho fo 'mod i'n sgwrio'r gegin 'ma, ac yn ysgwyd matia', William?"
"Sonnis i ddim gair am sgwrio na matia' wrtho fo."
"Sut y gwydda' fo, 'ta'?"
"Mi ofynnodd imi lle'r oeddat ti, a mi ddeudis dy fod ti'n llnau tipyn ar y gegin 'ma. Be' sy gynno fo'n erbyn ysgwyd matia', dywad?"
"Dadla' 'mod i'n lladd fy hun wrth olchi'r llawr ac ysgwyd matia' byth a hefyd. Paid ti â sôn dim am be' ydw i'n wneud wrtho fo. Cofia di 'rwan."
Ond cyhuddid William Jones ar gam weithiau.
"Chi 'wetws wrth Dada 'mod i'n smoco?" gofynnodd Wili John un nos yn y gwely.
"Wyt ti yn smocio?"
"Odw', ond 'dyw e ddim i wbod."
"Ddaru mi ddim crybwyll dy enw di heno 'ngwas i."
"Honour bright?"
"Honour bright."
“Hm. Rhaid i fi byrnu mints, 'ta'.”
Edmygai William Jones wroldeb Crad, y dyn claf a guddiai anobaith mewn atgofion llon. Treuliai oriau gydag ef i sôn am chwarae billiards, am bysgota yn Afon Gam a rhoi'r cipar tros ei ben yn y Pwll Dwfn, am rai o gymeriadau digrif y chwarel, am y gwaith a gâi Meri i dynnu ei chariad, ac wedyn ei gŵr, i'r capel. Ond edmygai'r chwarelwr ddewrder tawel ei chwaer yn fwy byth, a gwyddai fod rhyw angel, ag ysgrifell o aur yn ei law, yn croniclo'i hanes.
Mynd ymlaen â'i gwaith yn ddiwyd a llawen a wnâi Meri, wrth gwrs, heb wybod dim am y syniadau barddonol hyn ym meddwl ei brawd. Ac yr oedd digon i'w wneud; yn wir, gofynnai porthi ystumog ddiwaelod Wili John am ddyfeisio a chynllunio dibaid, ac ni ddyfalai bachgen ar fin ei un ar bymtheg o ba le y deuai'r bwyd. Chwarae teg i Eleri, cynorthwyai hi ei mam yn selog bob gyda'r nos. Yr oedd hi erbyn hyn yn athrawes yn Ysgol y Babanod ac wrth ei bodd yno, ond pan gyrhaeddai adref a chael ei the, trawai farclod amdani i helpu ei mam. Dadleuai Richard Emlyn, wrth gwrs, mai lle William Jones oedd gwisgo'r barclod—i ryddhau Eleri ar gyfer diddordebau pwysicach.
Treuliasai'r chwarelwr dros flwyddyn ym Mryn Glo, a dysgasai lawer am fywyd y cwm a fu unwaith mor brysur a llon. Diar, mor ddifeddwl oedd ef yn Llan-y-graig wrth ddarllen ambell lythyr oddi wrth Meri. Soniai hi fod Nymbar Wan wedi cau a'r pentref bron i gyd yn ddi-waith, ond ni sylweddolodd ef lawn ystyr y newydd. "O, maen nhw'n cael y dole," meddai Bob Gruffydd, ac aent wedyn i sôn am y plyg a dorrent neu am y das wair a aethai ar dân yn yr Hendre. A phan glywsai fod Arfon yn Slough a Wili John yn negesydd i gigydd Bryn Glo—wel, gellid cydymdeimlo â bechgyn å rhyw ysfa am adael yr ysgol ynddynt: felly'n hollol y teimlai William Jones yn Standard V. Codasai Mr. Lloyd yn y capel un nos Sul i ddarllen rhyw gylchlythyr yn gofyn am gynhorthwy i Gymoedd y Dirwasgiad, a darllenodd ei lais cwyn- fanllyd ef yn hollol fel petai'n apêl oddi wrth bwyllgor y te-parti. Tair ceiniog a roes William Jones yn y casgliad hwnnw, gan deimlo bod pobol bowld y Sowth 'na wedi clochdar digon yn y tywydd teg a 'rŵan, pan oedd tipyn o gwmwl ... Clywsai rywun yn y caban-bwyta'n dweud bod miloedd ohonynt yn llifo i Gaerdydd a hyd yn oed i Dwickenham i weld Cymru'n chwarae Rygbi. Os oedd ganddyn nhw arian i betha' felly ... Ni wyddai William Jones fod belt y Shoni a grochlefai ar y cae Rygbi yn un go dynn amdano, a bod mwy o londer yn ei lais nag o obaith yn ei galon. Ni wyddai chwaith fod rhai ohonynt yn cerdded bob cam i Dwickenham, siwrnai o ddau can milltir. Yn awr, wedi rhyw bymtheng mis ymhlith y segurwyr anorfod, rhyfeddai fod eu hysgwyddau mor ysgwâr a'u cyfarchiad mor llawen. Tynnai William Jones ei gap—ei fowler, yn hytrach —i Shoni.
Ac i Feri'n fwy na neb. A'i phlant yn ennill rhyw gymaint, a'i brawd yn cyfrannu'n weddol hael at dreuliau'r tŷ, nid oedd hi'n gorfod cynilo a chynllunio fel y gwnâi cannoedd o wragedd o'i chwmpas, ond casglai ei brawd i fywyd fod yn fain iawn ar y teulu am gyfnod hir. Rhyw dri neu bedwar diwrnod yr wythnos a weithiai Crad am ddwy flynedd cyn i Nymbar Wan gau, a cherddai'n ffyddiog i'r pwll lawer bore i ddim ond i weld y lampman yn ysgwyd ei ben. “Dim gwaith 'eddi'”- ac i ffwrdd ag ef adref yn araf a phrudd, ond cyn gynted ag y deuai i Nelson Street, plastrai wên ar ei wyneb a cheisiai fedd- wl am bethau digrif i'w dweud wrth Feri a'r plant. Yn arbennig wrth Arfon, y bachgen â'r llygaid treiddgar, dwys, a gariai ei lyfrau i'r Ysgol Ganolraddol yn bur ddiysbryd weithiau. Ac â rhyw ddoethineb tawel yn ei gwedd, daliodd Meri, fel miloedd o wragedd eraill drwy'r cwm, i lanhau ei thý a dyfeisio prydau bwyd maethlon ond rhad a thrwsio neu ail-wneud llawer dilledyn. Galwai Shinc yn aml ar y dechrau i ddadlau tros wrthryfel, a neidiai ei eiriau fel gwreichion oddi ar eingion: âi Meri ymlaen â'i gwaith. Weithiau, wrth gwrs, troai dewrder Crad yn surni a'r gŵr di-hîd yn fingam, a dych- rynai hi ar adegau felly. "Dyn a â allan i'w waith ac i'w orchwyl hyd yr hwyr," meddai rhwng ei ddannedd un bore wrth gychwyn allan i wario awr yn Neuadd y Gweithwyr. Yr oedd rhyw olau dieithr yn ei lygaid ac ynni chwyrn yn ei gam, a dilynodd Meri ef o hirbell rhag ofn y bwriadai gyflawni rhyw drosedd ffôl. Ymlaen ag ef drwy'r pentref a heibio i'r orsaf ac ar hyd y ffordd tuag Ynys-y-gog, gan gerdded yn gyflym a phenderfynol. I b'le yr âi? Gwelodd ei gamau'n arafu cyn hir, ac yna safodd i bwyso’n erbyn y clawdd ac i syllu'n hir i lawr i'r afon oddi tano. Brysiodd hi tuag ato, ac edrychodd yntau'n euog arni.
"I b'le 'rwyt ti'n mynd, Crad bach?" gofynnodd.
"I ddeud y gwir, 'wn i ddim ar y ddaear, dim ond hod yn rhaid imi fynd i rwla."
"Ond i b'le?"
"Wn i ddim ar y ddaear, hogan, ond pan es i o'r tŷ, yr oeddwn i am gerddad a cherddad a cherddad. 'Doedd o ddim coblyn o ods i b'le. Ond ydw i'n un gwirion, 'r hen gariad!" A dug y pwl o chwerthin y Crad a adwaeriai yn ôl iddi.
Sut y gwnâi Meri ei holl waith, ni wyddai William Jones. Yr oedd hi wrthi o fore tan nos, ac nid ufuddhâi byth i gyngor ei brawd i "ista i lawr am funud." Codai ychydig wedi saith, ac ar ôl cynnau tân a thacluso tipyn ar y gegin, âi â chwpanaid o de i Grad, ac yna paratoai frecwast i Wili John ac Eleri a'u hewythr. Deuai William Jones i lawr tuag wyth, Wili John ddeng munud wedi hynny—fwy neu lai—ac Eleri tuag ugain munud wedi, ac ar ôl iddynt oll fwyta, eisteddai Meri wrth ei brecwast ei hun. Yna cludai damaid i'r llofft i'r dyn claf, a deuai i lawr wedyn i glirio'r bwrdd a golchi'r llestri, gan fod yn ddiolchgar i'w brawd am ei gymorth i'w sychu. Yn syth i fyny'r grisiau wedyn â'r dŵr shefio i'w gŵr, a thra byddai ef yn eillio'i wyneb, gwnâi hithau'r gwelyau. Yna rhedai i lawr i nôl dŵr iddo ymolchi, a threuliai ryw hanner awr wedyn i dacluso'i lofft ef ac, os byddai angen, i newid dillad y gwely: Erbyn hynny, byddai tua hanner awr wedi deg, a gallai Meri feddwl am ddechrau'i gwaith"—golchi neu smwddio neu lanhau neu grasu—ac ar yr un pryd baratoi tamaid o ginio i'w theulu. Ganwaith y dywedodd na wyddai hi ar y ddaear beth a wnâi "heb William," gan ei fod ef erbyn hyn yn un campus am fynd i neges a gofalu am y tân a rhedeg i fyny'r grisiau i weld a oedd eisiau rhywbeth ar Grad. Nid "lojar" oedd ef mwyach, ond aelod defnyddiol iawn o'r teulu, a theim—lai yntau fod angen ei wasanaeth yn y tŷ yn Nelson Street. Yr oedd yn wir iddo droi ei law at waith tŷ yn Llan-y-graig, ond gorfod gwneud yr oedd yno oherwydd diogi Leusa: yma cydweithio â'r teulu a wnâi, a melys oedd gwybod y gwerthfawrogid ei ymdrechion.
Deuai Eleri adref o'r ysgol ychydig wedi deuddeg, a rhaid oedd cael y cinio'n barod iddi. Tuag un o'r gloch y cyrhaeddai Wili John, mor newynog â nafi, ac wedi iddo ef droi'n ôl i'r siop erbyn dau, câi Meri gyfle i ailddechrau ar ei gwaith. Âi William Jones i fyny i'r alotment neu i lawr i Glwb y Diwaith, a phan ddychwelai tua phedwar, byddai ei chwaer yn ddieithriad yn ei "dillad diwetydd" a ffedog lân o'i blaen. Câi Meri orffwys amser te, oherwydd mynnai Eleri a William Jones glirio'r bwrdd, a chyda'r nos câi "hamdden" i drwsio a gweu a gwnio ac i ysgrifennu ambell lythyr i Arfon.
Rhoddid i Feri, fel Wili John, un "half-day" bob wythnos. Âi i Glwb y Merched—"Clwb Clebran," yn ôl Wili John— bob prynhawn Mercher, ac yno, un wythnos, câi hyfforddiant mewn gwnïo a gweu ac ail-wneud hen ddillad, a'r wythnos wedyn mewn coginio. Os mentrai sôn ambell brynhawn Mercher fod ganddi ormod o waith i fynd yno, brysiai dau blisman i'w hochr i'w hebrwng i waelod y grisiau, gan ei siarsio i newid ar unwaith heb ychwaneg o lol. Canai'r ieuang af o'r ddau gân am ryw "old-fashioned mother," a dywedai Meri bob tro eu bod "yn sâl isio cael gwared" ohoni. Ond mewn gwirionedd, er iddi fod yn yswil yno ar y dechrau, yr oedd wrth ei bodd yn y Clwb. Dysgai lawer yno, a thyfodd cyfeillach gwragedd y di-waith yn un gynnes a chref. Ceiniog yr wythnos a dalai am y fraint, ond deuai adref yn gyfoethog mewn profiad. Ei chartref a'i theulu, y capel, a'r Clwb— y rhain oedd ffiniau ei bywyd, ac ni hiraethai am ddim arall. Ar ryw brynhawngwaith llwm o law birfilain, niwlog, a'i fam newydd gychwyn i'r Clwb, y penderfynodd Wili John roi ei gynllun ar waith. Wedi mynd â Mot i'r llofft yn gwmni i'w dad, brysiodd i lawr y grisiau.
"Wncwl William ?"
"Ia, 'ngwas i?"
"Ma' sgîm 'da fi."
"O?"
"Ôs. Beth ’ta' chi a fi yn gneud cwpwl o sosej-rôls i de fel syrpreis bach i 'Mam?"
"Be'ydi'r rheini, dywad?"
"Wel, sosej, ontefa, wedi'i gneud miwn i dishennod bach."
"Duwcs, 'chlywis i ddim am neb yn bwyta siwgwr hefo sosej 'rioed o'r blaen."
"S dim isha siwgyr, w."
"Wel, oes mewn teisan, hogyn."
"Wel, oes mewn teisan, hogyn." "Nac ôs, ddim mewn sosej-rôls. 'Shgwlwch yma, cerwch chi i moyn glo i dwymo'r ffwrn a fe gymysga' i'r tos."
Cludwyd i'r bwrdd flawd a lard a llond jwg o ddwr a'r pwys o sausage a ymguddiai ym mhoced côt fawr Wili John, ac yna aeth y pobydd ati gydag awgrymiadau gwerthfawr gan ei was bach, William Jones. Gan na ddisgyblwyd y cog erioed yn ei grefft, nid oedd yn hollol sicr o'r mesurau cywir, ond rhoes ei ffydd mewn dychymyg—a chynghorion ei gynorthwywr. I ddechrau tywalltodd y blawd i gyd i mewn i'r badell, ac yna dechreuodd ei gymysgu â'r lard fel y gwelsai ei fam wrthi. Y drwg oedd bod y badell yn un go fechan a llawer o'r blawd yn dianc trosti ar y bwrdd. Wedi iddo godi hwnnw'n ôl i'r badell hefo llwy—gan ollwng cyfran go helaeth hyd y llawr—gwnaeth dwll yn bur ddeheuig yn y canol a thywalltodd y chwart o ddŵr iddo. Wedi pum munud o gymysgu diwyd, nid oedd arwydd bod toes yn ymffurfio dan ei ddwylo, dim ond rhyw uwd tenau, dyfriog. Gofynnodd ei ewythr ai am bapuro'r parlwr yr oedd.
"Isha mwy o flawd sy," cedd yr ateb. "Cewch i whilo i'r pantri."
Ond ofer fu'r ymchwil.
"Shgwlwch, rhedwch drws nesa' i moyn peth."
"Na, dos di, Wili John."
"Shwd y galla' i, w?" gan ymestyn ei ddwylo a oedd yn flawd i gyd.
"O, oreit, 'ta'."
Dychwelodd William Jones ymhen ennyd gyda'r blawd a chyda'r cwestiwn:
"Roist ti becin—powdar yn hwn'na, dywad?"
"Na, pam?"
"Mrs. Morgan oedd yn holi."
"O.K. ... Mi rown ni beth 'nawr."
Ac wedi iddo ddarganfod pacedaid dwy geiniog yn y pantri, tywalltodd y cwbl i mewn i'r badell. Cododd yr uwd mewn gwrthryfel, a rhuthrodd William Jones i nôi padell fwy. Pum munud arall o gymysgu â'r blawd, ac wele, yr uwd a drowyd yn bwti.
"Na ni'n barod 'nawr," meddai'r cog, gan drosglwyddo'r gymysgfa o'r badell i'r bwrdd.
"Dyma'r bin-rowlio iti."
Ond anhywaith oedd y toes, gan lynu wrth y bwrdd a glynu wrth y bin—rowlio a glynu'n ffyddlonach fyth wrth fysedd Wili John.
"S dim ots," meddai yntau. "Fe gawn ni gyllath i'w dorri fa'n chwe lwmp a fe wasgwn ni sosej miwn i bob lwmp."
Hynny a wnaed, ac fel y clai yn nwylo'r crochenydd, felly'r toes dan fodiau'r crefftwr hwn.
"'Oes dim isio tynnu croen y sosej, dywad?" oedd cwestiwn craff ei gynorthwywr.
"Pam na 'sach chi'n gofyn 'ynny o'r blân, w? Ma' hi'n tw lệt 'nawr."
Tra oedd y chwe champwaith yn y popty, aeth William Jones a Wili John ati i lanhau'r gegin, ac wedyn aeth William Jones ati i lanhau Wili John. Cymerodd hyn oll ryw hanner awr, ac erbyn hynny yr oedd y danteithion yn barod, meddai'r cog. Yn barod i beth? a ddeuai i feddwl y gwas bach.
Gosodwyd y bwrdd i de, ond nid oedd plât digon mawr i letya'r chwe dirgelwch. Daeth Wili John o hyd i blât—cig enfawr ar silff uchaf y pantri.
"Diar annwl, i be' mae isio chwe torth ar y bwrdd?" gofynnodd Meri pan ddaeth hi i mewn.
"Sosej-rôls, w," eglurodd ei mab.
"Y?"
"Ia, sosej-rôls," ategodd ei gynorthwywr.
"Fi a Wncwl William 'di gwneud nhw. A roeson ni loto becin—powdar ynyn nhw."
"Mi faswn i'n meddwl, wir! A lle cest ti'r blawd?"
"Yn y bag melyn yn y pantri."
"Y nefi blŵ!"
"Beth?"
"Self-raising oedd hwnnw!"
Cyrhaeddodd Eleri o'r ysgol ac eisteddodd y teulu i lawr i fwynhau eu te. Yr oedd y bara—ymenyn a'r deisen afalau, a wnaethai Meri yn y bore, yn dda iawn, ond ni ruthrai neb i brofi'r danteithion ar y plât yng nghanol y bwrdd. Diflannai cynnwys y platiau eraill o'i gwmpas yn gyflym o un i un, a cheisiai William Jones feddwl am rywbeth gwreiddiol i'w ddweud am y tywydd pan âi llaw un ohonynt heibio i'r plât mawr at un arall. Ymwrolodd Wili John o'r diw ac aeth y lleill ymlaen â'u te heb gymryd un sylw o'i ymdrechion i gnoi lledr. Ar ddamwain yn hollol y digwyddodd ei ewythr grybwyll bod y Mr. Green 'na, y soniai Bob Gruffydd amdano, yn dioddef yn o arw hefo'i stumog. Cofiodd Wili John iddo addo cyfarfod Gomer Rees am bump, a chododd yn frysiog oddi wrth y bwrdd.
"Dŷn nhw ddim yn dda iawn, Wncwl," meddai. "Mi ro' i hon i Mot."
"Wyt ti isio lladd y ci, dywad?" gofynnodd ei fam. "Mi gei fynd â'r cwbwl i lawr i Sam Pierce, y plisman. Mae gynno fo ddau fochyn."
Sylw Crad pan glywodd y stori oedd, y dylai Meri ei hun fynd â'r pethau i lawr i Sam Pierce a gofyn iddo, os trengai un o'r moch, gloi un o'r ddau droseddwr yn y rhinws.
"Dim gwahaniaeth pa un," chwanegodd, ac yna, "Y nefoedd fawr, ond ydan ni'n dŷ o bobol ryfadd!"
Cysgasai Crad y prynhawn hwnnw, heb glywed dim o sŵn y prysurdeb ar y Wawr. Ond fel rheol, yr oedd ganddo syniad go dda beth a âi ymlaen yn y tŷ. Yr oedd ei wely ef yn y llofft ffrynt, ond trwy fynnu i'r drws gael ei adael yn agored, clywai'r symudiadau islaw yn weddol glir. Meri'n taro llestri ar y bwrdd, William yn rhoi glo ar y tân, Wili John yn dynwared rhai o'i gwsmeriaid, Eleri'n hymian un o'r caneuon a ddysgai i'r plant——yr oedd mwynhad a chysur ym mhob sŵn. A chlywai bopeth a ddigwyddai yng nghyffiniau'r drws ffrynt—Dai Llaeth yn rhoi bai ar y tywydd, haul neu beidio; Wili John yn rhuthro i'w waith, gan geisio ysgwyd y stryd i gyd wrth roi clep ar y drws; camau llon Eleri pan gychwynnai i'r ysgol; a'r "Rhwbath arall, Meri?" a daflai William Jones o'r drws wrth fynd i siopa. Esgynnai'r newyddion diwedd—araf befyd o'r stryd i'r llofft, a phan frysiai Meri i fyny i'w hailadrodd, clywai hwynt o enau'r claf.
"Roedd Sali Ifans—Sali Dew—yn mynd heibio 'rwan ac yn deud...?
"... fod Jac Bowen yn jel a merch Seimon Jenkins yn wael iawn a gwraig Ben y Condyctor wedi cal twins ac un o foch Sam Pierce wedi marw ar ôl bwyta sosej—rôls a ..."
"Ddaru hi ddim sôn am sosej—rôls."
Tyfai Crad hefyd, ar ei gefn yn ei wely, yn dipyn o fardd. Pe dywedai rhywun beth felly wrtho ef, awgrymai y dylai'r cyfaill hwnnw ddal ei ben o dan y feis am hanner awr, ond er hynny, edrychai llygaid Crad mewn syndod plentyn ar y byd o'i amgylch. Tynerwch melfedaidd y gwyll bob bore a hwyr, golau'r wawr dan lenni'r ffenestr, yr adar to ffwdanus ar frig y tŷ cyferbyn, y patrymau a weai heulwen a chysgod ar fur a tho, gwyrth y lliwiau ar y blodau a roddai Eleri ar fwrdd wrth ei wely, gloywder y croen ar ddwylo Meri, yn enwedig ar ddydd Llun, y diwrnod golchi—gwelai Crad y pethau hyn am y tro cyntaf yn ei fywyd. Hongiai ei oriawr wrth ei chadwyn ar bost y gwely, ond prin yr edrychai arni. Dywedai sûn troed ar y palmant islaw a lle'r heulwen ar fur ei ystafell faint oedd hi o'r gloch, a pha wahaniaeth os oedd ei ddyfaliad bum munud o'i le? Ac yng ngwyll pob hwyr, mor hen, mor elfennol ac anorchfygol o hen, oedd siâp rhywbeth—simdde tŷ Ned Andrew er enghraifft—yn erbyn y nef.
"Rhyfadd fel y mae rhywun yn dysgu sylwi ar betha'," meddai wrth Mr. Rogers un diwrnod, "yn 'sbïo a gwrando fel pe am y tro cynta' 'rioed. 'Wyddwn i ddim fod heulwen yn beth mor ... mor..."
"Mor hardd?"
"Naci. Mor... ddi-lol, mor dawal, mor ... mor ddifalch. Dim ffys o'i gwmpas o."
"Felly y ma' popeth gwir hardd, Crad."
"Sŵn y glaw 'na wedyn. Mi fedra' i wrando arno fo am oria' a chlywad rhyw fiwsig esmwyth, tynar, ynddo fo. Pan on i'n 'sgota yn Afon Gam ers talwm, mi fyddwn i'n arfar ista ar foncyff ryw ugain llath uwchben Pwll Dwfn dim ond i wrando ar lithriad y dŵr. 'Doeddwn i'n dal dim yn fan'no, a mi fydda'r hogia'n chwerthin am fy mhen i, ond wir, 'sgodyn ne' beidio, 'fedrwn i ddim mynd heibio i'r darn hwnnw o'r afon. Yno yr oedd Afon Gam yn fwya' huodl, wchi. A phan fydda' i'n gwrando 'rwan ar sŵn glaw, mi fydda' i'n troi'r weiarles 'na i ffwrdd ac yn teimlo'n reit ddig wrth Dai Llaeth a'i gart, ne' fan Jôs Becar, ne' lais Jane Harris Tŷ Pella'. 'Sylwis i 'rioed arno fo o'r blaen, wchi. Rhyfadd, yntê?"
Gwenodd Mr. Rogers, ac yna, gan godi'i ben i wrando ar fiwsig y glaw, meddai'n dawel,
"Dydd i ddydd a draetha ymadrodd,
A nos i nos a ddengys wybodaeth."
Meddyliai Crad gryn dipyn hefyd am grefydd, er mai pur aneglur oedd ei syniadau ar y pwnc. Ceisiai gofio rhai o ddywediadau Mr. Rogers, gyda'u pwyslais ar "wasanaeth" a "charedigrwydd" a "chymwynasgarwch"; cofiai'n gliriach wasanaeth a charedigrwydd a chymwynasau Mr. Rogers ei hun i deuluoedd yr ardal. A phan ddychmygai Crad Iesu Grist yn rhodio drwy wlad Canaan gan wneuthur daioni, wyneb a llais Mr. Rogers a roddai ef iddo. Câi gysur a mwyn- had yn y darlun, ond ni fentrai ei feddwl lawer ymhellach i dir crefydd.
Paid a'i feirniadu'n llym, ddarllenydd hynaws. Pan ddaeth i lawr o'r Gogledd i Fryn Glo, gŵr digrefydd ydoedd, er y llwyddai Meri i'w lusgo i'r capel weithiau. Nid oedd gweinidog yn Salem y pryd hwnnw, gan mai ymhen rhyw hanner blwydd- yn wedyn y rhoddwyd galwad i Mr. Rogers, a phob tro yr arweinid Crad i'r capel, rhyw frawd yn swnian yn ddefosiynol fel Mr. Lloyd a oedd yn y pulpud. Nogiodd mab Twm Sowldiwr yn llwyr cyn hir, ac wedi'r cwbl, pa reswm a oedd mewn gofyn i wraig tros y ffordd ofalu am y plant ar nos Sul ac yntau'n dyheu am eu gwarchod ? Os oedd Meri'n meddwl ei fod ef yn mynd i eistedd fel hogyn bach yn gwrando ar ryw hen wlanen o ddyn yn malu am Abraham a'i had, yr oedd hi'n gwneud coblyn o gamgymeriad.
Y gwir oedd na thynnodd Mr. Lloyd na'r brodyr yn Siloh ddarluniau a ddenai ddychymyg bachgen Wil Sowidiwr. Eisteddai Duw, un llymach o lawer na Huws y Sgwl, ar orsedd enfawr o aur yn ei wylio ef o fore tan nos ac yn nodio'n awgrymog ar gofnodydd o angel bob tro y gwrthodai fynd i'r Cyfarfod Gweddi neu y dihangai o'r Seiat neu y rhoddai gweir i Ifan, hogyn cegog Isaac Davies. Yr oedd, fe wyddai, ddegau onid cannoedd o farciau duon yn erbyn ei enw ar ddiwedd pob dydd, ond marciau duon neu beidio, nid oedd arno ef eisiau bod yn sant, heb fod byth yn cwffio na dwyn afalau na chwarae knock-doors na dim. Âi ar ei ben i dân a brwmstan, wrth gwrs, ond câi Now Jên Ifans a Now Bwl a llu o rai tebyg yn gwmni yno.
Pan dyfodd a dechrau gweithio yn y chwarel, ni thywyllai Crad ddrws y capel. Yn yr haf crwydrai hyd lannau Afon Gam ar y Sul, gan wrando ar yr adar a chwibanu arnynt, ond yn y gaeaf yr oedd y diwrnod yn angladdol o hir a dyheai am fore Llun. Galwai'r gweinidog a'r brodyr i'w weld weithiau, ond ei yrru ymhellach i dir gwrthgiliad a wnâi ffuantwch yr hen gybydd Isaac Davies a huodledd gwag Wmffra Roberts a'r ffug o grynedigrwydd llywaeth a wisgai Mr. Lloyd. Ac eto yr oedd rhywbeth yn ei natur a'i gwnâi'n anniddig, yn arbennig pan wrandawai ar ambell hen grefyddwr yn sgwrsio yn y caban neu pan ddigwyddai, ar noson dywyll o aeaf, oedi ennyd wrth un o'r capeli a chlywed dyhead rhyw emyn yn nhawelwch yr hwyr. Ond cadwodd mab Wil Sowldiwr y pethau hyn yn ei galon, gan ddewis bod yn gwffiwr ac yn bysgodwr ac yn "gymeriad." A phan ddaeth i lawr i'r Sowth, cytunai â Shinc a rhai tebyg mai "dope" oedd crefydd, a gwrthododd yn lân fynd i wrando ar y gweinidog newydd yn Salem. Gwelai ef ar y stryd a chlywai am ei waith da mewn llawer cylch yn yr ardal, ond dyna fo, yr oedd y dyn yn cael ei dalu am ei waith, onid oedd? A phan anwyd Wili John, cafodd Crad esgus eto i fagu'r baban bob nos Sul, a throai glust fyddar i bob teyrnged a dalai Meri i Mr. Rogers. Felly y bu pethau am flynyddoedd—er na ddaeth baban arall i'w siglo nes i Wili John, yn hogyn rhwng saith ac wyth oed, ddwyn ei dad at grefydd. Na, nid edliw iddo gyfeiliorni ei ffyrdd a wnaeth Wili John ond ystrancio'n ffyrnig un nos Sul am nad âi ei dad gydag ef i'r capel. Rhoes glusten i'r creadur gwirion, ond ni wnaeth hynny ond gyrru'r gwrthryfelwr yn fwy ystyfnig fyth. Bu'n rhaid i Grad ildio, a cherddodd Wili John yn dalog yn llaw ei dad i'r oedfa. A thrannoeth, pan alwodd Mr. Rogers yn y tŷ, ni ddihangodd Crad i'r cefn neu i'r llofft o'i ffordd.
Yn awr yn ei wely, taflai ei ben wrth gofio'r amgylchiad, a gwenai wrth feddwl amdano ef, mab Wil Sowidiwr, yn gapelwr selog. Gwyddai fod sail i gyhuddiadau Shinc a'i gymrodyr; gwelai hefyd mai rhyw sefydliad i'w cadw'n orbarchus a diwyd ar y Sul oedd y capel i'r mwyafrif; a chlywsai am y penderfyniadau dibwys a basiai Sasiwn ac Undeb tra oedd Bryn Glo a lleoedd tebyg yn suddo'n ddyfnach i dlodi ac anobaith. Er hynny, rhaid bod rhywbeth gwirioneddol fawr yn Iesu Grist a'i efengyl i ysbrydoli gŵr fel Mr. Rogers i aros yng nghanol cyni'r cwm ac ymroi fel y gwnâi i wneuthur daioni.
Oedd, yr oedd yn rhaid bod rhywbeth nerthol yn cadw Mr. Rogers yn nhlodi Bryn Glo.
"William!" meddai un hwyrddydd.
"Ia, Crad?"
"Oes 'na Feibil yma, dywad?"
"Diar annwl, oes, dau neu dri. Pam?"
"Meddwl y liciwn i ddarllan tipyn arno fo, fachgan, os medri di ddŵad ag un i fyny ar y slei."
"Ar y slei?”
“Ia, rhag ofn iddyn' nhw wneud hwyl am fy mhen i.”
“Pwy?"
"Pawb-Shinc a Ned Andrews a Thwm Edwards a a ... Wili John.”
"Mi gei di f'un i. Mj a' i i'w nôl o 'rŵan."
Ac wedi iddo'i gael, cuddiodd Crad ef o dan ei obennydd. Ond darllenai lawer arno'n ddistaw bach, gan ddechrau deall paham y treuliai'r Hen Gron, y clocsiwr yn Llan-y-graig, gymaint o'i amser uwch ei ddalennau. Yna, un noson, daeth Wili John i mewn i'r llofft yn o sydyn a darganfod ei dad yn darllen ei Feibl. Gwenodd.
"Odych chi'n moyn thriller, Dada? Ma' un grêt 'da fi."
“Mae gin i un, 'ngwas i," meddai Crad yn dawel.
Ni ddeallai Wili John-ar y pryd.