William Jones (Nofel)/Pennod 1 - Ar ôl
← William Jones (Nofel) | William Jones (Nofel) gan T Rowland Hughes |
Pennod 2 - Diwrnod i'r Brenin → |
WILLIAM JONES
PENNOD I AR ÔL
CANODD y cloc-larwm.
Gorweddai William Jones yn ei wely a'i freuddwyd yn un pêr. Gwelai wraig dyner a hardd yn ysgwyd cloch uwch ei ben ac yn gwenu'n gariadus arno. Deuai aroglau cig moch i fyny o'r gegin, a gwyddai fod y wraig dyner a hardd yn ei alw at ei frecwast. Cafodd gip ohono'i hun yn rhuthro i'w ddillad ac i lawr y grisiau i'r gegin ; yno gloywai tân yn y grât ac wrth ei le ar y bwrdd yr oedd platiad o gig moch ac wyau. Dau wy. Ni fwytasai ef erioed ddau wy i frecwast, ond teimlai heddiw y gallai wneud cyfiawnder â'r wledd o'i flaen.
. . . Yna deffroes, a diflannodd y breuddwyd.
Syllodd i dywyllwch yr ystafell, gan wrando ar sŵn y cloc-larwm yn gwanhau ac yn marw. Chwech o'r gloch. 'Teimlai'n swrth a blinedig, ond rhaid oedd ymysgwyd i fynd at ei waith. Pum munud bach eto, meddai wrtho'i hun: yr oedd hi'n braf ar ei gefn yn ei wely fel hyn. Caeodd ei lygaid i freuddwydio eto am y wraig dyner a hardd ac am y platiad o gig moch a'r ddau wy. A syrthiodd William Jones i gysgu.
Deffroes yn sydyn i weld goleuni'r dydd yn ymwthio Er ystafell. Y nefoedd fawr, yr oedd hi'n siŵr o fod yn ganiad bron. Bron yn ganiad? Yr oedd hi yn ganiad. Clywai gorn y chwarel yn rhuo yn y pellter, a neidiodd o'i wely. Rhuthrodd i godi'r llen oddi ar y ffenestr, ac wrth redeg yn ei ôl i wisgo, llithrodd mat bychan dan ei draed. Saethodd William Jones i gyfeiriad y bwrdd crwn wrth ochr y gwely, a saethodd y bwrdd yntau i gongl yr ystafell, gan daflu'r cloc- larwm a gwydr y dannedd-gosod yn ffyrnig yn erbyn y mur. Dannedd-gosod ei wraig, hefyd.
"Yn enw popeth, be" wyt ti'n drio'i wneud, ddyn?" gofynnodd Leusa Jones o'r gwely.
"Gwneud campa'," meddai yntau rhwng ei ddannedd.
Cafodd fawd ei droed chwith i mewn i dwll yn ei hosan, a rhegodd.
"Go damia!"
Gŵr mwyn a thawel oedd William Jones, uniawn ei ffordd a selog yn y capel. Ni fyddai byth yn rhegi. Teg ag ef ac â darllenydd y stori hon yw gwneud hynny'n berffaith glir ar y dechrau. Rhaid inni gofio inni ddigwydd ei ddal ar foment go anffodus yn ei hanes: dyma'r tro cyntaf erioed iddo fod yn hwyr i'r chwarel a'r tro cyntaf erioed iddo dorri dannedd- gosod ei wraig.
"Be" ddeudist ti ?"
"'Go damia' ddeudis i a 'Go damia' on i'n feddwl. Cyffra o'r gwely 'na, wir, i roi tamad yn fy nhun-bwyd i. Wyddost ti i bod hi wedi'r caniad, a bod dy ddannadd-gosod di yn yíflon ar y llawr 'ma, a bod y dŵr oedd yn y glas . . ?"
"Be!" A chododd Leusa Jones o'i gwely mewn braw.
Rhuthrodd William Jones i lawr y grisiau yn nhraed ei >sanau a mynd ati i dorri bara-ymenyn ar gyfer ei dun-bwyd. Nid oedd yn grefftwr yn hynny hyd yn oed ar ei orau, ond heddiw torrai "wadnau clocsiau' o ryw fath ar frys ffyrnig. Yna trawodd ddarn o gaws yn y tun, ac wedi rhoi ei esgidiau am ei draed, rhedodd i'r drws ac o'r tŷ. Clywodd lais ei wraig yn swnian rhywbeth am ei dannedd-gosod druan, ond nid oedd ganddo amser i dalu sylw i'w chri.
Yr oedd y stryd yn wag: ef oedd yr olaf un. Brysiodd ymlaen, gan wisgo'i goler a chau botymau ei wasgod. Daria, petai o wedi codi pan glywodd sŵn y cloc-larwm, yn lle mynd i freuddwydio'n ffôl. Pam y breuddwydiodd o am y wraig honno a'r cig moch a'r wyau, tybed? Hy, am fod Leusa yn gorwedd yn ei gwely bob bore yn lle codi i'w gychwyn i'r gwaith. Ugeiniau o weithiau y ffraeasant ar y pwnc, a phob tro torrai Leusa i grio ac i gwynfan am wendid ei chalon. Byth er pan soniodd gwraig y drws nesaf fod wyneb-go binc yn arwydd o galon wan, yr oedd Leusa'n berffaith sicr fod ei chalon hi ar ddiffygio. Ac ers tro bellach poenid hi gan fil a myrdd o afiechydon eraill.
"Ar ôl, heddiw, William Jones?"
Nodiodd, gan wenu, a brysiodd ymlaen. Nid oedd ganddo amser i aros hefo rhyw greadur fel Now Portar. Ond brasgamodd Now wrth ei ochr, gan ddweud ei fod yntau hefyd yn hwyr i'w waith yn yr orsaf. Rhyw ddyn yn yfed ac yn rhegi ac yn curo'i wraig yn ei ddiod oedd Now Pritchard, ac ni bu erioed fawr ddim cyfathrach rhyngddynt. Ond heddiw rhoddai'r ffaith eu bod eu dau ar ôl yr hawl i Now Portar edrych arno fel cyfaill.
"Y ddynas 'cw, William Jones. Dim symud arni yn y bora. Mi fydda' i'n siŵr o gael y sac un o'r dyddia' 'ma. Bydda', myn cythral i! Be' ma' gwraig yn dda os na fedar hi godi dyn at 'i waith yn y bora, 'nte?" Troes i lawr tua'r orsaf, a brysiodd y chwarelwr ymlaen yn fân ac yn fuan.
Yr oedd hi'n fore braf o Orffennaf, ond ni sylwai William Jones ar ogoniant y dolydd a'r mynyddoedd, dim ond ar y ffordd a ddringai o'i flaen. Beth a ddywedai'r Stiward, tybed ? Yr oedd Tom Owen, chwarae teg iddo, yn ŵr pur resymol a chyfeillgar, a rhoddai, y mae'n debyg, faddeuant llawn iddo am y trosedd hwn. Ond yr oedd un neu ddau o farcwyr cerrig a fuasai'n falch o gyfle i ddangos eu hawdurdod. Tom Owen, er hynny, oedd yr unig un a fyddai'n debyg o fod o gwmpas y Bonc Hir.
Cyrhaeddodd waelod y llwybr igam-ogam ar y llethr o dan y chwarel, a buan yr oedd yn sychu'r chwys oddi ar ei dalcen wrth geisio cyflymu hyd-ddo. Piti am ddannedd- gosod Leusa, hefyd, ond arni hi yr oedd y bai, yn gadael rhyw hen fatiau hyd y lle i gyd. Yr oedd Huws y Deintydd yn un go ddeheuig, meddent hwy, ac ni fyddai fawr o dro yn eu trwsio iddi. Gobeithio hynny, beth bynnag, neu ni fyddai diwedd ar y tafodi a gâi pan âi adref gyda'r nos. Yr oedd Leusa yn ei helfen yn dweud y drefn, a gwingasai William Jones o dan chwip ei thafod gannoedd o weithiau drwy'r blynyddoedd. Hi a'i dannedd-gosod! meddai wrtho'i hun ; yr oedd hi'n hen bryd i rywbeth fel 'na ddigwydd.
Troes o'r llwybr a hanner-rhedeg hyd wastad y Bonc Hir. Y nefoedd, Tom Owen, y Stiward
"Bora da, William Jones."
"Y... Bora da, Mr. Owen."
"Bora braf."
"Y... Ydi, wir, bora braf iawn. Y tro cynta' yn fy mywyd, Mr. Owen, ac 'rydw" i'n gweithio yn y chwaral ers yn agos i ddeugian mlynadd."
"Peidiwch â phoeni, William Jones. Mae rhyw anffawd yn digwydd i bawb yn 'u tro. Be' fu?"
"Y cloc-larwm 'cw ddaru stopio yn y nos, ac fe gysgodd y wraig a finna" tan ganiad."
"Diar annwl ! Ond "dydi hi ddim ond wyth 'rŵan ! Rhaid eich bod chi wedi rhuthro."
"Do. Mi ddois i heb frecwast na dim. Mae'n ddrwg gin i, Mr. Owen."
"Rydw i'n clywad stori'r cloc-larwm wedi stopio bron bob bora, William Jones, a phur anamal y bydda' i yn rhoi rhithyn o goel arni hi. Ond mi wn i fod pob gair ohoni yn wir y tro yma, Peidiwch â phoeni am y peth o gwbwl. Ond mi faswn i'n eich cynghori chi i ddibynnu, fel finna', ar y wraig yn lle ar y cloc-larwm. Welis i neb fel Mrs. Owen acw am ddeffro yn y bora. I'r eiliad. I'r eiliad bob gafael. . . Ydi, wir, mae hi yn ddiwrnod braf. Wel, bora da 'rŵan."
"Bora da, Mr. Owen, a diolch yn fawr i chi."
Prysurodd ar hyd y bonc, heibio i wynebau agored y waliau lle'r oedd dynion yn hollti a naddu'r llechi. "Dyma fo eto, Huw!" gwaeddodd Dic Trombôn. "Yr un fath bob bora, yn sleifio at 'i waith, wel di! Does dim modd achub hen bechaduriaid fel hyn, wsti!" A chwarddodd ef a'i bartner, Huw Lewis, yn uchel. Yr oedd Dic yn nodedig am ei gyfrwystra wrth sleifio i'r chwarel ymhell wedi'r caniad.
Cyrhaeddodd ei wal o'r diwedd a brysiodd iddi, gan dynnu ei gôt i'w hongian ar y darn o haearn a gurwyd i mewn i'r mur. Eisteddodd ar ei flocyn a dechreuodd hollti clwt o garreg. Aeth ei bartner, Bob Gruffydd, ymlaen â'i naddu wrth y drafel heb yngan gair. Gŵr hynod dawedog oedd ef.
"Be' ddigwyddodd hiddiw, William?" gofynnodd cyn hir.
"Y cloc-larwm, fachgan. Mi stopiodd yn y nos, ac 'roedd hi'n ganiad ar Leusa a finna" yn deffro.
Araf o gorff a meddwl oedd Robert Gruffydd. Cymerodd hanner munud cyfan i dreulio'r newydd cyn cael ei gynhyrfu i fynegi barn.
"Wedi anghofio'i weindio fo, William."
"Na, stopio ohono'i hun ddaru o."
"Taw, fachgan!"
Aeth hanner munud arall o dawelwch heibio cyn i Robert Gruffydd lwyddo i ymbalfalu am ei gwestiwn nesaf.
"Pryd daru o stopio, William?"
"Rhwng un a dau."
"O."
Naddodd ddwy lechen arall cyn troi at ei bartner eto.
"Be' wyt ti'n feddwl wrth 'rhwng un a dau'?"
"Y?"
"Pan mae cloc yn stopio mae'i wynab o'n dangos pryd y mae o'n stopio. Os ydi o'n stopio am ugian munud i ddau, yna mae 'i wynab o'n deud . . ."
"Hannar awr wedi un."
"Y?"
"Hannar awr wedi un y daru o stopio."
"O"
'Teimlai William Jones braidd yn anghysurus. Tybed a oedd Bob Gruffydd yn amau'r stori am y cloc yn stopio? Aeth y gŵr hwnnw ymlaen â'i naddu, ond ymhen ennyd arhosodd yn sydyn.
"Isio gwneud i ffwrdd â'r tacla' sy," meddai'n sur.
"Be?"
"Yr hen glocia'-larwm na. Mae gin i un yn y tŷ acw yn rhwla, ond 'dydw' i 'rioed wedi 'i ddefnyddio fo. Mae Jane acw yn deffro fel cloc bob bora. Ydi, fel cloc. Ddaru hi 'rioed fethu, fachgan, ha' na gaea'. Isio gwneud i ffwrdd â'r tacla' i gyd sy."
Efallai y teimlai dieithryn fod y sylw hwn yn un go anghyffredin, ond "Bob Gwneud-i-ffwrdd" oedd llysenw Robert Gruffydd yn y chwarel. "Gwneud i ffwrdd â phethau oedd ei uchel swydd mewn bywyd - yn ei sgwrs feunyddiol, yn nhrafodaethau'r caban-bwyta, yn y capel. Etholwyd ef unwaith ar bwyllgor Eisteddfod Siloh, a threuliodd noswaith gyfan yn cynnig gwneud i ffwrdd â Chadeirydd, gwneud i ffwrdd â gwobrau, gwneud i ffwrdd â'r "hen ganu 'na," gwneud i ffwrdd â sylwadau'r beirniaid. Yn wir, pe cawsai Robert Gruffydd ei ffordd, prin y byddai dim ar ôl. Troes aelodau'r pwyllgor tuag adref heb fedru dewis na thestun na beirniad na dim, wedi gwastraffu oriau i geisio darbwyllo'r gwrthryfelwr ystyfnig. Cynhaliwyd pwyllgor arall yn slei bach ymhen rhai dyddiau, ac uchel fu ymddiheuriad yr ysgrifennydd i Robert Gruffydd am iddo anghofio'i wahodd ef yno. Cadwodd Robert Gruffydd draw o bob pwyllgor ar ôl hynny. Dim amser, meddai ef, ac yr oedd hi'n hen bryd gwneud i ffwrdd â'r cwbl i gyd.
Wrth ruthro i'r chwarel ni chawsai William Jones amser i feddwl am ddigwyddiadau anffodus y bore, ond yn awr, yn nhawelwch y wal, teimlai'n anniddig iawn. I beth y mae gwraig yn dda os na fedr hi gychwyn dyn at ei waith ?—dyna gwestiwn Now Portar. "Neb fel Mrs. Owen acw am ddeffro yn y bora," meddai Tom Owen, y Stiward. "Fel cloc," meddai Bob Gruffydd am ei wraig. Trawodd ddau gŷn yn ei boced, a chododd oddi ar y blocyn.
"Mi bicia' i draw i'r efail am funud," meddai. ""Fydd Sac y Go" ddim chwinciad yn rhoi min ar y cynion 'ma imi."
Ymhell cyn iddo gyrraedd yr efail, clywai chwerthin dwfn Sac y Gof fel taranau mewn ogof. Ni chredai neb, heb ei glywed â'i glustiau ei hunan, fod yn bosibl i'r fath ddyfnderoedd o sŵn ddianc drwy'r genau dynol. Yr oedd Saceus yn gawr o ddyn llydan, tew, a chrynai trwch ar drwch o gnawd trosto i gyd bob tro y chwarddai. Safai yn awr wrth yr eingion yn gwrando ar un o storïau Dic Trombôn.
"Dyma iti un arall, Sac," meddai Dic, gan nodio tuag at William Jones. "Wyth o'r gloch arno fo'n dŵad at 'i waith bora 'ma. Wedi bod ar 'i sbri neithiwr, wsti, a mynd adra wedi'i dal hi! O, glywist ti'r stori honno am y bôi hwnnw o'r enw Jac Sir Fôn yn Chwaral y Coed?"
"Naddo, am wn i."
"Wel, mae gynnyn' nhw weiar rôp yn hongian o dop Chwaral y Coed i'r gwaelod, fel y gwyddost ti, a'r pwcedi mawr hynny yn cario rwbel i lawr hyd-ddi. 'Roedd hi ar fin canu pump, fachgan, un nos Wenar, a dyma Jac yn neidio i mewn i un o'r pwcedi i gael reid i'r gwaelod er mwyn i gwadnu hi adra i Sir Fôn. Diawl, pan oedd y bwcad hannar y ffordd i lawr, dyma'r corn yn canu!" Daeth pwl o chwerthin dros Dic a methai fynd ymlaen â'i stori. Edrychodd llygaid mawr Sac yn hurt arno: ni welsai ef eto ddim byd anarferol o ddigrif.
""Wel?" meddai Sac, braidd yn sarrug.
"Fe stopiodd y weiar rôp, a dyna lle'r oedd yr hen gono yn y bwcad i fyny yn yr awyr yn trio tynnu sylw'r dynion yn y chwaral." Y tro hwn dechreuodd y plygiadau o gnawd ar gorff Sac y Gof gynhyrfu ac ysgwyd, ac agorodd ei enau anferth i ryddhau sŵn fel rhuadau tarw. Diawch, dyna rai rhyfedd oedd yn yr hen fyd 'ma, meddai William Jones wrtho'i hun ac wrth fegin fawr yr efail.
"Be' ddigwyddodd iddo fo, Dic?" gofynnodd Sac wedi i'w gnawd a'i lais ymdawelu am ennyd.
"Diawl, 'roedd hi'n nos Wenar Cyfri', a neb yn gweithio ddydd Sadwrn. Yn y bwcad y buo fo drwy'r nos a thrwy'r Sadwrn a'r Sul, yn sgrechian 'i ben i ffwrdd a neb yn 'i glywad
Ymunodd William Jones yn dawel yn rhyferthwy'r chwerthin er bod dannedd-gosod Sac yn ei atgofio am rai Leusa. Gobeithio'r annwyl y gallai Huws y Deintydd eu trwsio iddi.
Ymhen tipyn yr oedd Sac y Gof yn ddigon sobr i roi min ar y ddau gŷn.
"Mynd i gysgu'n ôl ddaru chi, William Jones?" gofynnodd.
"Naci, wir, Sac.. Yr hen gloc-larwm 'cw ddaru stopio. Rhwng un a dau. Hannar awr wedi un."
"Sarah 'cw ydi'r cloc-larwm gora" yn y wlad 'ma," oedd sylw Sac, gan ddangos ei ddannedd-gosod mewn gwên fawr, ddoeth. "Neb tebyg iddi hi am ddeffro yn y bora."
'Troes William Jones yn ôl i'w wal yn araf. Beth oedd yn bod ar bawb heddiw? Owen y Stiward, a Bob Gruffydd, a Sac y Gof - pob un yn canmol ei wraig. Ac eto, fe wyddai pawb fod Sarah, gwraig Sac, yn ei charpiau bron hyd y pen- tref a'i gŵr yn gwario'i amser a'i arian yn y Bwl. A dyma fo, William Jones, yn mynd â'i gyflog i gyd adref bob wythnos, ac yn rhedeg ar neges drosti, ac yn helpu yn y tŷ, ac yn...
Daeth llais Bob Gruffydd ato o geg y wal.
"Rydw' i'n mynd i lawr i'r twll am dipyn, William."
"O'r gora", Bob."
Yr oedd yn dda ganddo gael y wal iddo'i hun. Teimlai hi'n anodd heddiw i siarad â phobl, a'i feddwl o hyd yn mynnu dianc yn ôl i helynt y bore. Roedd Leusa'n mynd o ddrwg i waeth, nid oedd dim dwywaith am hynny, yn gorwedd yn ei gwely bob bore, yn paratoi bwyd rywsut-rywsut, yn treulio oriau yn nhŷ Ifan ei brawd, yn mynd i'r sinema bob nos Lun a nos Iau, ac yn dal bws i Gaernarfon bron bob prynhawn Sadwrn.
"Stori dda oedd hon'na am y bôi ^na o Sir Fôn, ynte, William Jones?" Dic Trombôn a oedd yn taro i mewn i'r wal ar ei ffordd i'r twll.
"Ia, wir, un dda iawn, Dic."
"Ddaliodd Tom Owen chi bora ma?"
"Y. . . Do, fachgan, ond ddeudodd o ddim."
"William Jones?"
"Ia, DIC."
"Os byddwch chi'n hwyr eto..." Gostyngodd Dic ei lais a thaflodd olwg slei tua cheg y wal. "Os byddwch chi'n hwyr eto, dowch i fyny drwy'r coed hyd ochor y llwybyr a thros y doman i gefn y walia" 'ma. ^Wêl neb mohonoch chi." Poerodd Dic cyn chwanegu, "Ches i 'rioed mo fy nal, William Jones."
"Diolch, Dic, ond 'dydw' i ddim yn debyg . . ."
"Wyddoch chi ddim. Mae hi'n job go anodd codi amball fora ac mi fydd Betsan 'cw yn gorfod fy nhynnu i o'r gwely. Mae hi'n un go dda yn y bora, chwara" teg iddi, ond fe fydd gin i ben fel meipan weithia" ar ôl dŵr-golchi yr hen dafarn 'na. Llusgo'r dillad oddi arna'i y bydd Betsan a chydio yn fy nhraed i'm cael i o'r gwely. Diawch,'rydw' i'n cofio un bora..." Ond aeth y Stiward heibio, a brysiodd Dic ymaith tua'r twll.
Cerrig da, cerrig rhywiog, meddai William Jones wrtho'i hun, gan geisio rhoi ei holl sylw ar yr hollti. Yr oedd hi'n braf cael min go dda ar y cŷn a gweld y clwt o garreg yn troi'n grawiau tenau, hwylus, o dan ei ddwylo medrus. Oedd, yr oedd yn rhaid i Leusa newid ei ffyrdd a rhoi'r gorau i'w chiamocs, neu .. .. Neu beth? Ni wyddai William Jones. Ni fedrai roi cweir i'w wraig: nid un felly oedd ef. Un go sâl am ffraeo oedd o hefyd, a phetai'n bygwth ei daflu ei hun i'r Pwll Dwfn, ni wnâi Leusa ond chwerthin am ei ben a chynnig dod gydag ef i wylio'r oruchwyliaeth. Yr oedd y broblem yn un go anodd. Anodd iawn.
Aeth i lawr i'r twll rhag ofn bod ar Bob Gruffydd eisiau help llaw. Cafodd ef wrthi'n hollti plyg mawr i'w wneud yn bileri hwylus ar gyfer y wagen, a chydiodd William Jones yntau mewn morthwyl brashollt a chŷn bach. Gweithiodd fel un ar frys gwyllt, a chododd Robert Gruffydd ei aeliau wrth edrych arno. Beth a oedd yn bod ar y dyn? Er hynny, ni ddywedodd air.
'Troes y ddau i'r caban-ymochel pan ganodd y corn un ar ddeg.
"A diawl, i ffwrdd â fo i'r Sowth, hogia'!" Dic Trombôn a oedd wrthi. Pan welodd Bob Gruffydd a'i bartner, gofynnodd, "Glywsoch chi am Now John?"
"Clywad be'?" oedd ateb Robert Gruffydd mewn tôn a awgrymai yr hoffai "wneud i ffwrdd" â thaclau cegog fel Dic 'Trombôn.
"Amdano fo'n i gwadnu hi i'r Sowth?"
"Naddo."
Gan y swniai Robert Gruffydd yn sarrug, troes Dic i adrodd y stori wrth William Jones.
"Mi aeth adra echnos fel arfar," meddai, "a ffeindio bod y wraig wedi mynd am swae i Gnarfon. Roedd hi'n galifantio i rwla o hyd, o hyd, a 'doedd dim iws i Now godi'i gloch. Fel glaw ar gefn chwadan, William Jones. Dim swpar-chwaral, dim ond platiad o frôn a photal o bicyls. Wel, mi ddaeth hi adra tua chwech, gwneud tamad iddi hi 'i hun, a pharatoi i fynd allan wedyn. "I b'le 'rwyt ti'n mynd, Maggie Jane?" medda" Now. "I'r pictiwrs, medda' hitha' yn reit siort. "Os ei di i'r pictiwrs 'na heno, 'nginath i," medda' Now, "'mi fydda' i'n deud gwd-bei wrthat ti a'th hen lol i gyd." "O, medda" hitha", i b'le yr ei di, mi liciwn i gal gwbod?" I'r Sowth at Wil, fy nghefndar,' medda' Now. "Hy! medda" Maggie Jane, gan daflu 'i phen a martsio allan o'r tŷ. Dyma Now yn mynd i fyny i'r llofft ac yn pacio'i fag, ac i ffwrdd â fo i'r Sowth hefo'r trên wyth bora ddoe. Ia, wir, 'tawn i'n llwgu."
Sut y cafodd Dic fanylion dramatig y stori, ni wyddai neb, ond adroddai hwy gyda sicrwydd un â chanddo gwmwl o dystion at ei alwad. Gwenodd William Jones, gan ysgwyd ei ben yn freuddwydiol. Diawch, dyna bobol oedd yn yr hen fyd yma, onid e? Wrth gwrs, un ryfedd oedd Maggie Jane, gwraig Now John Ifans, dynes flêr, annosbarthus, gegog, ac nid syn fod Now yn dianc i'r Sowth. Na, nid oedd Leusa mor ddrwg â hynny, yn galifantio fel ffŵl ac yn. . ._ Wel, nac oedd, gobeithio, nid oedd hi fel Maggie Jane Ifans! Rhewodd y wên ar wyneb William Jones wrth iddo sylweddoli bod y meddyliau hyn yn ei ben.
"Sut mae Meri, dy chwaer, tua'r Sowth 'na ?"' gofynnodd Bob Gruffydd iddo wedi iddynt ddychwelyd at eu gwaith.
"Go lew, wir, Bob, ond fod Crad allan o waith o hyd, fel y gwyddost ti."
"Plyg yn agor fel 'menyn ydi hwn, William."
"Ia, Pam oeddat ti'n gofyn ?"
"Gofyn be?"
"Am Meri, fy chwaer."
"O, dim ond digwydd meddwl amdani pan oedd Dic Jones yn deud y stori'na." _ Aeth ymlaen i drin y plyg, ond arhosodd ymhen ennyd.
"Rhyw le rhyfadd, sy tua'r Sowth 'na," meddai. "'Fûm i 'rioed yno, ond maen' nhw'n deud 'u bod nhw'n byw ardraws 'i gilydd yno, ddwsina' ym mhob tŷ, fachgan. Mae gin y wraig 'cw gnithar wedi priodi coliar yn y Rhondda 'na, ac, yn ôl yr hyn ydw' i'n glywad, 'fedar hi yn 'i byw ddallt gair maen' nhw'n drio'i ddeud wrthi hi. Hogan glên ofnadwy, hefyd."
"Lol ydi hynny, Bob."
"Be"
"Na fedar hi mo'u dallt nhw. Mae Meri, fy chwaer, yn dallt pob gair ac yn licio'r bobol yn arw. Pobol andros o ffeind, medda hi."
Canodd corn hanner dydd cyn hir, a dringodd y ddau yr ysgol haearn i'r bonc, gan frysio i'w wal i nôl eu tuniau-bwyd. Wedi byw heb frecwast, teimlai William Jones yn bur newynog, ond nid edrychai ymlaen at ei ginio o wadnau clocsiau' a mymryn o gaws. Wrth fwrdd y caban-bwyta syllodd yn eiddigus ar y wledd a dynnai Robert Gruffydd o'i dun-bwyd. Un go arw am ei ystumog oedd Bob, a gofalai Jane Gruffydd am damaid blasus iddo bob dydd. Oedd, yr oedd ganddo rywbeth rhwng pob brechdan - cig rhwng rhai, letys rhwng eraill, mêl rhwng eraill, ac fel pe na bai hynny'n ddigon i dynnu dŵr o ddannedd dyn, dyna ddarn mawr o deisen a dwy neu dair o gacenni bychain crynion.
"Daria!"
"Be" sy, William?"
"Wedi anghofio te a siwgwr, fachgan. Dyna be' sy i'w gael am frysio fel ffŵl yn y bora!"
"Paid â phoeni. Mae gin i ddigon inni'n dau. Mi fydd Jane 'cw yn gofalu rhoi tipyn ecstra imi, rhag ofn y bydda" i'n teimlo'n o sychedig amball ddiwrnod. Hwda, cymer di'r banad gynta'. A dyma fo'r siwgwr."
Yr oedd ar William Jones gywilydd o'i frechdanau afrwydd, a cheisiai eu cuddio rhag llygaid mawr, dwys, ei bartner. Ond, ar ganol brechdan-gig flasus, peidiodd dannedd Robert Gruffydd â chnoi, a rhythodd ar y frechdan a godai William Jones i'w geg. Ond ni ddywedodd ddim.
"Ga' i fenthyg cloc-larwm gin ti heno, Bob?"' gofynnodd William Jones ymhen ennyd.
"Cei, 'neno'r Tad. Be' wnei di, dŵad heibio i'r tŷ acw ar dy ffordd adra heno?"
"O'r gora", Bob."
Gorffennodd William Jones hynny o fwyd a oedd ganddo yn fuan iawn, ac yna ceisiodd gadw ei lygaid i ffwrdd oddi wrth frechdanau ei bartner.
"Wn i ddim be' ddeudith Jane wrtha'i heno," meddai Robert Gruffydd, gan ddechrau taro dwy frechdan a dwy gacen yn ôl yn ei dun-bwyd.
"Pam, Bob?"
"Mi fydd hi'n deud y drefn yn ofnadwy bob tro y bydda' i'n mynd â bwyd yn ôl adra, wsti. Ond wir, 'fedra' i ddim bwyta chwanag hiddiw. Y tywydd poeth 'ma, mae'n debyg."
'Trefnodd y brechdanau a'r cacenni yn ofalus yn y tun, ac yna cododd ei olwg, fel petai rhyw ysbrydiaeth sydyn wedi ei daro.
"Fedri di mo'u bwyta nhw imi, William?"
"Na, 'rydw' i wedi gneud yn reit dda, fachgan."
"Mi dafla' i nhw i'r adar rhag i Jane gael dim i'w ddweud."
"Wel, os mai dyna wyt ti am wneud hefo nhw, Bob, "falla" y medra' i fwyta rhai ohonyn" nhw iti."
Diawch, yr oeddynt yn flasus hefyd, a bwytaodd William Jones y cwbl, bron heb sylweddoli ei fod yn gwneud hynny. Un dda am gacen oedd Jane Gruffydd, meddai wrtho'i hun.
"Y dentist gora' yn yr holl sir, 'ngwas i. Mi elli fentro mynd at Huws i dynnu'r whôl blydi lot. A does neb tebyg iddo fo am ddannadd-gosod." Huw Lewis, partner Dic 'Trombôn, oedd yn defnyddio'i lais uchel, treiddgar, ym mhen arall y caban. Agorodd William Jones ei glustiau. Nid oedd ganddo ddim i'w ddweud wrth ryw hen geg fel Huw Lewis, ond teimlai'n ddiolchgar iddo am gyhoeddi'r newydd da o lawenydd mawr.
Llithrodd y prynhawn heibio yn weddol gyflym, a theimlai William Jones yn ganmil llonnach nag a wnaethai yn y bore. Yr oedd Huw Lewis yn siŵr o fod yn gwybod am beth y siaradai. Crwydrodd draw i wal y gŵr hwnnw.
"Hylo, William Jones, dowch i mewn," meddai Huw. "Gwnewch eich hun yn gartrefol. 'Steddwch yn y gadair freichia' 'na wrth y tân." Un digrif oedd Huw Joli.
"Dy glywad di'n sôn am Huws Dentist."
"Y dannadd yn poeni, William Jones?"
"Ia, fachgan. 'I tynnu nhw i gyd fydd ora' imi, mae arna' ofn—rhai top, beth bynnag-ond un peth ydi medru tynnu dannadd a pheth arall ydi medru trwsio ... y ... gwneud plât o ddannadd-gosod, yntê?"
"Neb tebyg i Huws, William Jones. Mi gafodd y wraig cw y set ddela' welsoch chi 'rioed gynno fo. Dim trwbwl yntôl hefo nhw. Dannadd champion, William Jones. Deudwch wrtho fo 'mod i wedi'ch gyrru chi yno. 'Rydan ni'n rêl chums, ydach chi'n dallt."
Yn y Bwl gyda'r nos yr oedd Huws a Huw Lewis yn chums, wrth gwrs, ac am bob cwsmer a enillid iddo gan ddeiliaid y dafarn, fe dalai'r deintydd beint, ac weithiau ddau neu dri.
"Tynnu'r whôl lot faswn i, 'tawn i'n eich lle chi, William Jones," meddai Huw yn ddwys, gan ei weld ei hun yn cael o leiaf dri pheint. "Dyna wnaeth y wraig 'cw, a 'dydi hi ddim wedi cael traffarth o gwbwl hefo nhw."
Galwodd William Jones yn nhŷ Robert Gruffydd ar ei ffordd adref o'r gwaith. Cyn gynted ag yr agorodd ei gŵr y drws, brysiodd Jane Gruffydd i'r gegin fach a dychwelodd hefo platiad mawr o datws a chig a moron a'i daro ar y bwrdd.
"William 'ma isio cael benthyg y cloc-larwm," meddai Robert Gruffydd wrthi.
"Diar annwl, â chroeso."
"'I un o wedi cael damwain."
"Na, stopio ddaru o," cywirodd William Jones yn frysiog.
"Hannar awr wedi un."
"Tewch! Mi a' i'w nôl o rŵan." Ac i ffwrdd â hi i'r llofft. Aeth ei gŵr hefyd allan i'r cefn i olchi ei ddwylo.
Edrychodd William Jones o amgylch y gegin. Glendid a chysur ym mhobman, sglein ar bopeth, lliain glân ar y bwrdd.
Â'r platiad bwyd 'na!
Daeth Alun, hogyn hynaf Robert a Jane Gruffydd, i mewn o'r gegin fach, a phin dur rhwng ei wefusau. Yr oedd ef yn yr Ysgol Ganolraddol ac yn cael hwyl arni yno, yn ôl ei dad.
"Lot o dasg heno, Alun?"
"Inglish a Welsh, William Jones."
"O. Be' di'r Welsh ?"
"Gneud sentences hefo geiria'."
"O. Pa eiria', fachgan?"
"Hefo adjectives."
"O." A nodiodd William Jones yn gall.
"Dyma fo," meddai Jane Gruffydd, yn dychwelyd hefo'r
cloc-larwm. "Un bach da ydi o hefyd."
"Diolch yn fawr. Dim ond nes ca' i amsar i brynu un. Wel, da boch chi 'rŵan."
"Mi faswn i'n gofyn i chi gymryd tamad hefo Bob ond 'mod i'n gwbod bod y wraig yn eich disgwyl chi," meddai Jane Gruffydd wrth ei hebrwng at y drws.
"Y wraig," meddai William Jones wrtho'i hun. Rhyfedd fod pobl yn sôn am Leusa fel "y wraig" yn lle ei galw wrth ei henw. Rhyfedd iawn, wedi meddwl am y peth. Am "Jane" a "Jane 'cw" y soniai ef, William Jones, wrth Bob pan ddôi rhywbeth am Jane Gruffydd i mewn i'r sgwrs. Ond dyna fo, ni fu Leusa erioed yn un gyfeillgar iawn hefo neb. Diawch, gobeithio bod Huws y Deintydd wedi llwyddo i drwsio'r dannedd yna.