William Morgan, Pant, Dowlais (Trysorfa y Plant)

William Morgan, Pant, Dowlais (Trysorfa y Plant)

TRYSORFA Y PLANT. HYDREF, 1895

MR. WILLIAM MORGAN, PANT, DOWLAIS.

MAE Mr. William Morgan yn Gymro diledryw, sydd, trwy ymroddiad a dyfalbarhad, wedi gweithio ei hun i fyny i gylch uchel o ddefnyddioldeb ac anrhydedd Ganwyd ef yn Dowlais, Tach. 16, 1830, ac yno y mae wedi treulio ei holl oes. Mae yn Fethodist o'r Methodistiaid, o ran ei dad a'i fam. Yr oedd ei dad, Mr. Morgan Morgans, blaenor Dowlais, yn frodor o Ystradfellte, ac yn nai, mab brawd, i'r hen bregethwr, Siencyn Morgan, Ystradfellte. Yr oedd ei fam yn ferch i Mr. David Griffith, blaenor arall yn Dowlais, ac wedi dyfod yno o Blaencefn, yn Sir Aberteifi. Tad y Dafydd Griffith yma oedd Theophilus Griffith, yr hwn oedd yn dal y ddwy swydd o Flaenor gyda'r Methodistiaid, a Chlochydd yr eglwys, ac yn byw yn nyddiau Daniel Rowland, Llangeitho. Felly, y mae ein cyfaill, Mr. William Morgan "yn Fethodist o waed."

Cafodd Mr. Morgan fantais ysgol ddyddiol gwell na'r cyffredin yn Dowlais, a chafodd aros ynddi yn hwy nag y caniateid i fechgyn yn gyffredin; a gwnaeth yntau ddefnydd iawn o'i addysg boreuol, fel y prawf ei fywyd dilynol.

Ymgymerodd â'r alwedigaeth o wneyd beddfeini (monumental mason), a dangosodd fedr neillduol at hyn yn fuan. Mae ei glod bellach ar led yn yr alwedigaeth hon, fel y prawf beddrodau Islwyn, Dr. Saunders, ac enwogion eraill.

Pan yn 26ain oed, aeth ei fryd ar photography; gwneyd darluniau o oleuni yn gystal ag o farmor. Aeth i drafferth a thraul i ddysgu y gelfyddyd yn drwyadl; a diau nad oes yr un Cymro yn rhagori arno yn y gwaith hwn. Oddiar hyny, y mae wedi dwyn y ddwy alwedigaeth ymlaen yn gyfochrog a llwyddiannus, gan ranu ei amser rhwng y naill a'r llall.

Yr oedd, er yn llanc, yn fwy o ddarllenwr na'i gyfoedion, a chymerai ran flaenllaw gyda Chymdeithasau Dirwestol a Llenyddol Merthyr a Dowlais; ac mor fore a 1871, byddai yn cyflawni swydd beirniad yn Eisteddfodau Dirwestol Cymrodorion Merthyr Pan ymgymerodd Ieuan Gwyllt a golygiaeth yr Amserau, penodwyd Mr. Morgan yn ohebydd y dosbarth, a pharhaodd yn ohebydd cyson am ddeng mlynedd; a gwyddom ei fod yn un o'r rhai galluocaf oedd yn perthyn i'r staff.

Dewiswyd ef yn flaenor yn Eglwys Libanus, Dowlais, yn 1865; ac y mae wedi para yn ffyddlon i'w swydd; ac nid yn unig yn flaenor i'r eglwys hono, ond yn un o flaenoriaid mwyaf craff, goleuedig, a doniol Dwyrain Morganwg. Y mae hefyd yn blaenori bob amser yn holl symudiadau crefyddol, gwleidiadol, dirwestol, cerddorol, a llenyddol y dref y mae yn byw ynddi. Yr unig bethau y mae ganddo wrthwynebiad iddynt yw y byrddau lleol nid yw yn hoffi y rhai hyn, ac y mae yn cadw allan o honynt.

Y mae wedi arfer bod yn fyw iawn i holl symudiadau y Cyfundeb. Cymerodd ran bwysig yn y symudiad aflwyddiannus o uno y ddwy Athrofa, rai blynyddoedd yn ol; a thybiwn nad ysgrifenodd neb fwy, os cymaint, ar y pwnc: ac y mae ef, fel llawer yn teimlo mor gryf ar y pwnc heddyw ag erioed.

Y mae Mr. Morgan wedi ysgrifenu amryw lyfrau. Yn 1890, cyhoeddodd ei Album o Williams, Pantycelyn, a darluniau lleoedd cysylltiedig â'i hanes; llyfr ennillodd glod i'w awdwr, ac a gafodd gylchrediad helaeth. Yn 1893, cyhoeddodd ei Vaynor Handbook yn rhoddi hanes a darluniau o bersonau a dygwyddiadau cysylltiedig â'r Vaynor, lle gerllaw Dowlais. Yn Mai, 1894, mewn undeb a'r Parch. J. Morgan Jones, cyhoeddwyd y rhan I. o'r Tadau Methodistaidd. Erbyn hyn, y mae y Gyfrol gyntaf o'r gwaith pwysig hwn wedi ei gorphen. Y mae teithio Cymru ar hyd ac ar led gyda'r Camera i wneyd darluniau ar gyfer y gwaith hwn, wedi bod yn llafur blynydd- oedd iddo.

Pennodwyd ef yn Uwch Gwnstabl Merthyr Tydfil, am 1890, ac ail benodwyd ef am 1891. Yn mis Mawrth, 1894, dyrchafwyd ef i'r fainc ynadol. Ar yr achlysur hwn, gwnaed tysteb iddo o dros gant a deg o bunnoedd. Defnyddiwyd cyfran o'r dysteb i wneyd darluniau costus o Mr. a Mrs. Morgan, a chyfranwyd y gweddill iddo mewn aur.

Unwyd ef mewn glân briodas â Miss Lewis, merch Mr. T. Lewis, contractor, yn 1859, ac y mae Mrs. Morgan mor enwog ag yntau yn ei chylch priodol ei hun. Y mae iddynt dri o blant -dau fab ac un ferch. Mae yr hynaf, Dr. T. L. Morgan, M.B., Edinburgh, yn dal apwyntiad meddygol yn nglofa Mr. D. A. Thomas, A.S., yn y Rhondda; a Cadifor Morgan yn Edinburgh, yn paratoi i'r alwedigaeth Feddygol.

HEN WYLIAU DIRWESTOL CYMRU.

EMN ysgrif ddoniol o eiddo y Parch. David Phillips, Abertawy, a ymddangosodd yn Cronicl Dirwestol Cymru, am Mai, 1892, y mae yn adrodd ei adgofion am "Wyliau a Gorymdeithiau Dirwestol y dyddiau gynt," ac ymhlith pethau eraill ceir yr hanes a ganlyn ganddo :- Dygwyddai rhyw bethau chwareus weithiau, ond hollol ddiniwed, yn y cyfarfodydd cyhoeddus hyn a barai gryn ddifyr- wch ar y pryd, yr hyn hefyd a dröai allan yn hwylusdod i'r cyfarfod ac yn llwyddiant i'r achos Mae yn gofus genym yn awr am ddygwyddiad felly mewn gŵyl ddirwestol yn Hermon, Dowlais, pryd yr oedd amryw o'r enwogion wedi cydgyfarfod, ac yn eu plith y diweddar Barch, Daniel Davies, Abertawy, y pryd hwnw. Yr oedd nifer o honynt ynghyd ar y llwyfan cyfleus & godwyd yno i'r perwyl, a chapel mawr Hermon yn orlawn, ond yr oriel yn gwbl gysegredig i'r corau dirwestol, y rhai a lanwent yr holl le. Yr oedd y canu yn arbenig o swynol, ac felly yn enwedig gan Gôr Rhif 2 Dowlais. Trefn y cyfarfod oedd ryw bwt bach byr a byw o araeth, ac yna canu darn gan un o'r corau, ac felly y naill yn canlyn y llall yn hyd y cyfarfod. Tra yr oedd Cor Rhif 2 yn canu rhyw ddarn dewisedig gyda'r fath feistrolaeth a chwaeth oedd yn nodweddiadol o honynt hwy, treiddiai rhywbeth byw fel gwefr drwy yr holl gynnull- eidfa, a theimlai pawb y swyn. Yna cododd y Parch. Daniel Davies, a dywedodd fod canu ardderchog y corau iddo ef yn swynol iawn; ac yn ol yr hyn a deimlai efe, tybiai ei fod felly i'r holl gynnulleidfa, ac am ddim a wyddom ni, gallai fod y cantorion mor fedrus mewn areithio ag oeddynt mewn canu. Felly, gyda chaniatad y gadair, ei fod ef yn dymuno cynnyg fod un ac arall o aelodau y corau yn anrhegu y cyfarfod âg araeth ar Ddirwest, yn ogystal a chanu Dirwest. Yna rhodd- odd y gadair y cyfarfod yn agored i'r perwyl. Cododd un o Gor Rhif 2-Mr. William Morgan, Pant,-a dywedai :-" Mr. Cadeirydd, Yr wyf yn cofio i mi ddarllen rhyw dro yn Macaulay's History of England sylw fel hyn:- Pe byddai i bobwyr Llundain droi yn gerddorion, a cherddorion Llundain droi yn bobwyr, y tebygolrwydd fuasai y cawsem ni waeth bara, ac hefyd waeth canu.' Felly ei fod yntau yn meddwl mai gwell fyddai i ninnau yma o bob ochr aros yn yr alwedigaeth y'n galwyd iddi; hyny yw, y ffordd debycaf i sicrhau canu da ac areithio da, Let the cobbler stick to his last.' Ond er mwyn cael prawf ar gynnygiad Mr. Davies, yr wyf yn tybio y dylai boneddwr o safle a dylanwad Mr. Davies yn gyntaf roddi i ni esiampl. Gan hyny, yr wyf yn dymuno cynnyg fod i Mr. Davies, Abertawe, ganu tôn." Derbyniwyd y sylw gyda banllefau uchel a hirion o gymeradwyaeth. Yna aethpwyd ymlaen yn hwylus hyd ddiwedd y cyfarfod. Nid rhaid i ni ddywedyd na ddarfu i Mr. Davies ufuddhau ar y pryd drwy ganu tôn, ac ni chlywsom ddarfod iddo wneyd un amser ar ol hyny.

Nodiadau

golygu
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.