Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd

Caed ffynnon o ddŵr ac o waed Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd

gan Thomas Lewis, Tal-y-llychau

Adenydd colomen pe cawn

388[1] Cofio'r Dioddef.88. 88. D.

1.WRTH gofio'i riddfannau'n yr ardd,
A'i chwŷs fel defnynnau o waed,
Aredig ar gefn oedd mor hardd,
A'i daro â chleddyf ei Dad,
A'i arwain i Galfari fryn,
A'i hoelio ar groesbren o'i fodd;
Pa dafod all dewi am hyn ?
Pa galon mor galed na thodd ?

Thomas Lewis, Tal-y-llychau

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 388, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930