Wrth orsedd y Jehofa mawr

Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr Wrth orsedd y Jehofa mawr

gan Isaac Watts


wedi'i gyfieithu gan John Hughes, Aberhonddu
Yn awr, mewn gorfoleddus gân
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

21[1] Galwad i Glodfori Duw
M. H.

1 WRTH orsedd y Jehofa mawr
Plyged trigolion byd i lawr;
Gwybydded pawb mai Ef sy Dduw,
Yr Hwn sy'n lladd a gwneud yn fyw.

2 Â'i ddwyfol nerth, fe'n gwnaeth ei Hun
O bridd y ddaear ar ei lun ;
Er in, fel defaid, grwydro'n ffôl,
I'w gorlan, Ef a'n dug yn ôl.

3 I'th byrth â diolch-gân ni awn,
Cyfodi'n llef i'r nef a wnawn;
Doed pobloedd o bob iaith sy'n bod
I lenwi'r pyrth â llafar glod.

4 D'arglwyddiaeth Di sy dros y byd,
Tragwyddol yw dy gariad drud;
Saif dy wirionedd heb osgoi,
Pan beidio'r haul a'r lloer â throi.


—Isaac Watts (1674–1748)
Cyfieithiad — Parch John Hughes, Aberhonddu (1776—1843)

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 21, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930