Y Blotyn Du
gan Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans)
- Nid oes gennym hawl ar y sêr,
- Na'r lleuad hiraethus chwaith,
- Na'r cwmwl o aur a ymylch
- Yng nghanol y glesni maith.
- Nid oes gennym hawl ar ddim byd
- Ond ar yr hen ddaear wyw;
- A honno sy'n anrhefn i gyd
- Ynghanol gogoniant Duw.