Y Breuddwyd
gan Dafydd ap Gwilym
- Fal yr oeddwn, gwyddwn gel,
- yn dargwsg mewn lle dirgel.
- Gwelais are glais dichlais dydd
- breuddwyd yn ael boreddydd.
- Gwelwn fy mod yn rhodiaw
- a'm llu bytheiais i'm llaw,
- ac i fforest yn gestwng,
- teg blas, nid ty taeog blwng.
- Gollyngwn i yn ddioed,
- debygwn, y cwn i'r coed.
- Clywwn oraiu, lleisiau llid,
- canu'n aml, cwn yn ymlid.
- Ewig wen uwch y llennyrch
- a welwn, carwn y cyrch,
- a rhawt fytheiaid ar hynt
- yn ei hol, iawn eu helynt;
- cyrchu'r allt dros ddiwalltrum,
- a thros ddwy esgair a thrum,
- a thrachefn dros y cefnydd
- ar hynt un helynt a hydd,
- a dyfod wedy dofi,
- a minnau'n ddig, i'm nawdd i;
- dwyffroen noeth, deffro wneuthum,
- wr glwth, yn y bwth y bum.
- Cefais hynafwraig gyfiawn,
- pan oedd ddydd, yn ddedwydd iawn.
- addef a wneuthum iddi,
- goel nos, fal y gwelwn i:
- "Rho Duw, wraig gall, pei gallud
- rhyw derfyn ar hyn o hud,
- ni chyfflybwn, gwn ganclwyf,
- neb a thi. Anogaith wyf."
- "Da o beth, diobeithiwr,
- yw dy freyddwyd, od wyd wr.
- Y cwn heb gel a welud
- i'th law, pei gwypud iaith lud,
- da hwylwyr diau helynt,
- dy lateion eon ynt.
- A'r ewig wen, unbennes
- a garud di, hoen geirw tes,
- diau yw hyn, y daw hi
- i'th nawdd, a Duw i'th noddi."