Y Chwedl (Mynyddog)
- Ar nos Nadolig oer a llaith,
- Ers deugain o flynyddau maith,
- Bu farw Harri Huws;—’roedd ef
- Yn cael ei garu gan bawb trwy’r dref.
- Bu ef i mi yn gyfaill pur.
- A chalon gywir fel y dur,
- A diwrnod tywyll, prudd ei wedd,
- Oedd y dydd rhoed Harri yn ei fedd.
- Gadawodd eneth ysgafn droed
- O’i ol,—yn un ar bymtheg oed;
- ’Roedd iechyd ar ei gruddiau cu,
- A chwarddai serch o’i llygad du.
- Bum i yn dysgu’r eneth hon
- I ddweyd A B yn blentyn llon,
- Ac wrth ei dysgu, credais i
- Y dysgai’r ferch fy ngharu fi;
- Ond ffoledd oedd i’r eneth dirion
- I feddwl caru hen ŵr gwirion.
- Daeth morwr llon i siarad â hi,
- A dygodd fy Elen oddi arnaf fi,
- Ond dd’wedais i air erioed wrth hon
- O’r hyn a deimlais dan fy mron;
- Na gair yn erbyn y morwr chwaith,
- Oblegid hwy fuont am flynyddau maith
- Yn chwareu â’u gilydd fel y mae plant
- Ar ochr y bryn neu lan y nant;
- Ond waeth tewi na siarad, ryw noson ddu
- Aeth y morwr ymaith âg Elen gu!
- Nis gallaf ddirnad byth er hyn
- Pa fodd yr aeth bore’i bywyd gwyn
- O dan fath gwmwl, na pha fodd
- Y daeth amheuaeth ag y todd
- Gymeriad oedd mor bur;
- ’Doedd neb yn meddwl yn y wlad
- Y buasai impyn tyner, mâd,
- Yn dwyn fath ffrwythau sur.
- Agorai’r wawr ei hamrant clau,
- Ac ymaith a fi ar ol y ddau,
- A digwydd wnaethum fynd ’run ffordd,
- Tra curai’m calon megis gordd,
- Dan bwys briwedig fron;
- Mi cefais hwy. Nis gallaf ddweyd
- Pa un ai gofid oedd yn gwneud
- I’m dagrau redeg dros fy ngrudd,
- Ai ynte ryw lawenydd prudd;
- Ond rhedeg wnaethant fel y lli’
- Pan ddaeth y newydd gynta ’i mi
- Fod Mari’n wraig i John.
- II.
- Pan gwrddodd Mari gyda fì,
- Ei dagrau redent fel y lli;
- Hi deimlai’n ddedwydd ar un llaw,
- Ac o’r tu arall, ofn a braw
- A lanwai’i bron. Hi ddwedai’r oll
- Oedd yn ei theimlad yn ddigoll;
- Agorai’i bron, can’s roeddwn i
- Yn gyfaill mebyd iddi hi.
- Datodai glo ei chalon fawr,
- A dwedai’i thywydd imi’n awr,
- A’r fath onestrwydd yn ei phryd
- Nes teimlwn i’m teimladau i gyd
- Yn toddi’n llwyr; a gwenau hon
- A wnaent i minnau wenu’n llon,
- A gweld ei dagrau’n treiglo’n lli
- A sugnent ddagrau ’nghalon i.
- Ond pan yn tynnu tua phen
- Ei chwedl brudd, fy ngeneth wen
- A ddwedai, gyda’i llygad du
- Yn saethu teimlad ar bob tu,—
- “O fel yr ofnwn ŵg fy mam,
- Yr hon a’m gwyliodd ar bob cam:
- A balchder gyda thanllyd serch
- A’i gwnaeth yn ffol uwch ben ei merch.
- “Priodi a wnaethum heb wybod i mam—
- ’Roedd hynny, ’rwy’n addef, yn bechod a cham;
- Ond beth oedd i’w wneud, a pheth ddaethai i’m rhan,
- Pan oedd cariad mor gryf, a minnau mor wan?
- Ni allwn gyfaddef i mam er y byd,
- Ond wedi priodi, ni aethom ynghyd
- I ofyn maddeuant ei mynwes dinam,
- Ond serch wedi’i gloi erbyn hyn oedd gan mam.
- “Hi allodd gau y drws a’i gloi
- Ar ol ei merch, a medrodd droi
- Clust fyddar at fy ymbil taer,
- A dweyd yng ngolen’r lleuad glaer,—
- ‘Gan iti fynnu’th ffordd bob cam,
- A chroesi ’wyllys gref dy fam,
- Dôs gydag ef, yr hoeden ffôl,
- A phaid a dychwel byth yn ol.’”
- Fe wylai Mari’n hidl fan hon,
- Agorodd holl argaeau’i bron,
- A d’wedai,—“’Nawr, fy nghyfaill pur,
- Cyn darfod adrodd chwedl fy nghur,
- A wnewch chwi addaw’r funud hon
- I gloi y chwedl yn eich bron
- O wydd pob dyn trwy’r byd;
- Er imi dynnu arnaf gam,
- Ac er im’ ddigio mynwes mam,
- Fy mam oedd hi o hyd.
- “Aeth heibio flwyddyn gron, fy ffrynd,
- A holl dafodau’r lle yn mynd
- Yn gyflym gyda’m hanes prudd,
- A mam rhy falch o ddydd i ddydd
- I geisio clirio’i geneth wen,
- A cheisiai gadw i fyny’i phen
- Drwy fynd i’r eglwys yn ei du,
- Fel pe buasai’i geneth gu
- Yn gorwedd yn ei thawel fedd,
- Lle gorffwys pawb mewn hûn a hedd.”
- Un noson oer, mewn gaeaf du,
- Eisteddwn ar fy aelwyd gu,
- Gan wylio’r marwor mawn a choed
- Yn syrthio’n lludw wrth fy nhroed,
- Yn ddrych o ddynion llon eu gwedd
- Yn goleu i ddiffodd yn y bedd.
- Fy meddwl grwydrai’n rhydd a ffol.
- Pan yn ddisymwth o’m tu ol
- ’Roedd sŵn cerddediad!—pan y trois,
- Mi glywn fy enw mewn acen gyffrous,
- A phwy oedd yno ger fy mron
- Ond Mari a’i baban ar ei bron!
- Ei llygaid gloewon, gleision, mawr,
- A safent yn ei phen yn awr;—
- Edrychai i’r tywyllwch prudd
- Fel pe buasai’n gweld ynghudd
- Ysbrydion ei mwynderau gynt
- Yn gwibio o’i chylch ar gyflym hynt!
- Dechreuai ddweyd ei chŵyn a’i chais
- Mewn math o anaearol lais,
- A theimlwn fel pe buasai ddelw o faen
- Yn sefyll,—yn edrych,—a siarad o’m blaen.
- “Mi eis at ddrws fy mam yr ail waith,
- Ac eilwaith trodd fi ffwrdd;
- Yr unrhyw galed, oeraidd iaith,
- Oedd yno yn fy nghwrdd.
- “Mi ddaliais hyn fel arwr glew,
- Can’s ’roedd fy nghalon fel y rhew,
- Ond pan y gwgodd f’anwyl fam
- Wrth wel’d fy maban baeh dinam,
- Aeth cleddyf trwy fy mron yn syth—
- Mae’r archoll hwnnw yno byth.
- “Ac am fy ngŵr—fy anwyl John,
- ’Roedd ef ar wyllt bellderau’r donn;
- Un dydd wrth fynd am dro o’r dref,
- Ni gawsom ffrae, a ffwrdd ag ef.
- Nis gallswn weithio yn fy myw,
- Na phlygu’m glin o flaen fy Nuw;
- ’Doedd dim ond troi yr adeg hon
- A’m baban tyner ar fy mron
- At mam;—ond honno, er fy nghur,
- Oedd fel y garreg yn y mur.
- Fy Nuw a ŵyr fel snddais i
- O dan ei geiriau cerrig hi;
- A’r oll o’m serch yr adeg hon
- Oedd yn fy maban ar fy mron.”
- Fe beidiai Mari lefaru yn awr,
- A minnau yn edrych yn syn ar y llawr;
- Ac fel mewn eiliad—’roedd fy ffrynd
- A’i baban serchus wedi mynd!
- Deallais wedyn iddi droi
- Ei gwyneb tua Llundain bell,
- Pan nad oedd mam na neb i roi
- I’w mab a hithau gynnes gell.
- O! pwy all ddweyd na meddwl chwaith
- Ei theimlad ar y brif-ffordd faith,
- Heb ddillad cynnes am ei chefn,
- A’i chalon FU’n llawn serch drachefn,
- Gan chwerw drallod, honno wnaed
- Mor oer a’r brif-ffordd dan ei thraed.
- ’Roedd pob anadliad roddai hon
- Yn sugno ochenaid ddofn o’r bron,
- A phob cam roddai ’n tynnu gwaed
- O’i thyner flin ddolurus draed.
- O gam i gam, o awr i awr
- Cyrhaeddyd wnaeth i’r ddinas fawr;
- Ac ar y palmant caled, oer,
- Llewygu wnaeth yng ngolau’r lloer.
- Yr oedd hi’n nos, ac nid oedd neb
- A sychai chwŷs ei dwyrudd wleb
- Heblaw y gwynt, ac ni wnai ef
- Ond chwiban heibio hyd y dref.
- Ond pan oreurai’r wawr y ne’
- Daeth rhyw Samaritan i’r lle,
- A chodai hi fel delw wen,
- A rhoddai bwys ei thyner ben
- Ar fron tosturi,—a’r baban bach
- A gysgai hûn ddiniwaid iach,
- Ar hyd y nos flinderus faith
- Ar fron mor oer a’r garreg laith.
- Aeth ef a’r ddau yn ol i’w dŷ,
- A’i wraig drugarog, serchus, gu,
- A’u hymgeleddai gyda serch
- A chydymdeimlad calon merch,
- Gwreichionen olaf bywyd brau
- Gyneuai’n ol dan law y ddau.
- Deffroai Mari gyda hyn
- I gael ei hun mewn gwely gwyn,
- A gwên trugaredd uwch ei phen
- Yn edrych ar ei dwyrudd wen.
- Nid oedd gan ŵr a gwraig y tŷ
- (Lle dodwyd Mari),—blentyn cu,
- A gall mai dyna’r rheswm pam
- Y carai’r rheiny gael y fam,
- Er mwyn cael gwylio’i baban bach
- Yn tyfu’n llencyn gwridog, iach.
- Dechreuai’r bychan chwareu’n rhydd,
- A rhosyn iechyd ar ei rudd,
- A gweithiai’r fam â chalon rwydd
- Wrth weld ei gobaith yn ei gwydd
- Yn tyfu’n hogyn gwyneb crwn,
- A’i serch ymglymai o gylch hwn.
- Awn heibio i flynyddau maith,—
- Fe dyfai’r llanc,—gwnai’r fam y gwaith,
- Ac ni fu’r blwyddau meithion hyn
- Heb ambell smotyn hafaidd, gwyn.
- Edrycha’i llanc yn hoew a chryf,
- A’i natur fywiog, hoenus, hŷf,
- A godai awydd yn ei fron
- I fynd yn forwr nwyfus, llon;
- Dychmygai nad oedd unrhyw ddôr
- Yn agor iddo ond y môr.
- Fe deimlai’i fam, a theimlai’n flin,
- Ond ni ddaeth gair dros drothwy’i min,
- A’r bore ddaeth i’r llanc dinam
- I rwygo’i hun oddiwrth ei fam.
- III.
- Y storm a aeth heibio, a’r dwylaw wnaent gwrdd
- I gyfarch eu gilydd yn llon ar y bwrdd;
- “Mae’r cyfan yn fyw,” ebe’r Capten yn llon,
- A diolch a gweddi yn llanw ei fron:
- “Na!—arhoswch; pa le y mae William ddinam,
- Y llencyn oedd newydd roi ffarwel i’w fam?”
- Ond dwedai rhyw un âg ochenaid ddofn, ddofn,
- “Nid ydwyf yn sicr, ond y mae arnaf ofn
- Fod drwg wedi digwydd, pan ruai y gwynt,
- Gan luchio a thaflu y llong ar ei hynt,”
- ’Roedd William yn mrigyn yr hwylbren, hir, praff,
- Yn ceisio ategu yr hwyl gyda rhaff;
- Fe ruthrai y gwynt, ac mewn eiliad neu ddwy
- ’Roedd y llanc wedi myned na welwyd ef mwy.
- Y tu ol i’r llestr, draw, draw ar y donn,
- Yn ymladd am fywyd, ’roedd llanc a fu’n llon,
- A’i obaith a’i nerth ar ddiffygio yn llwyr,
- A’r t’w’llwch yn dechreu cau amrant yr hwyr;
- Ar hyn, dacw gwch yn nesau ato ef,
- A’i hwyliau fel edyn rhyw angel o’r nef;
- A phan yr oedd William yn suddo i lawr,
- Wele forwr yn estyn ei ddeheu law fawr
- I safn y dyfnderau, glafoerllyd, di rol,
- Gan godi y bachgen i fywyd yn ol.
- Am oriau bu’n hollol ddideimlad fan hon,
- Ond rhith weledigaeth oedd fel ger ei fron;
- Fe welai ei fam yn sylldremio o’r lan,
- A chlywai’i hochenaid yn esgyn yn wan;
- A gwelai ofidiau gordrymion a phrudd
- Yn tynnu eu herydr ar hyd ei dwy rudd;
- A gwelai ei gartref yn ymyl y nant,
- A’r pentref, a’r felin, a’r ysgol, a’r plant,
- Ac yntau ei hunan yn chwareu’n ddinam—
- A deigryn yn treiglo o lygad ei fam.
- Gofynnai’n ei freuddwyd,—“Mam, pam yr ydych chwi
- Yn wylo eich dagrau cariadus yn lli?”
- A hithau yn ateb fel hyn yn y fan,—
- “’Rwy’n cofio fy machgen yn faban bach gwan,
- Ac wedyn yn tyfu mewn nerth ac mewn oed
- I neidio a chwareu o amgylch fy nhroed.”
- Ar hyn daeth rhyw niwl dros ei feddwl yn chwim,
- A’i fam a ddiflannodd fel cysgod yn ddim;
- A gwelai len arall yn lledu o’i flaen,
- A breuddwyd mewn breuddwyd yn agor o’i flaen.
- Ymhellach yn ol, fe welai ei fam
- Yn suo a hwian ei baban dinam,
- Ar hyn, dyna rywun yn cnocio yn hy,
- A morwr cryf, barfog, yn dyfod i’r tŷ,
- A safai cyn dechreu llefaru;
- Nid hir y bu yno cyn gweled ei wraig,
- A deigryn a safai ar rudd oedd fel craig,
- Ymgrymai i roddi ei gusan i hon,
- A’r cwbl a ddwedodd a’i ben ar ei bron,—
- “Fy Mari, O fy Mari!”
- Ond William ddeffroai yn raddol ar hyn,
- A bywyd ail wridai ei wyneb gwyn, gwyn,
- A gwybu yn fuan mai morwr cryf, llon,
- A’i cipiodd mor wyrthiol o afael y donn;
- ’Roedd hwnnw ac ereill yn dianc o Ffrainc,
- Pan oedd yr hen Boni yn llywydd y fainc.
- A phan y daeth William i fywyd yn ol,
- ’Roedd y wawr yn ymgodi a’r haul yn ei chôl,
- Gan chwalu y t’w’llwch a’r caddug ar daen,
- A bryniau hen Gymru ’n ymgodi o’i flaen.
- Edrychai’n fyfyriol ymlaen tua’r tir,
- A’i freuddwyd yn gwibio trwy’i feddwl mor glir,
- A syllai bob ’nail ar y morwr hardd, cryf,
- Yr hwn a achubodd ei fywyd mor hŷf;
- A chofiai ei freuddwyd, ei gartref, a’r dyn
- Yn curo y drws, ac yn agor ei hun,
- Ac nis gall anghofio y dyn yn ei fyw,
- Wrth weled y morwr yn gweithio y llyw.
- “Paham yr edrychwch i’m gwyneb o hyd?”
- Gofynnai y morwr, tra gwrol ei bryd;
- “Myfyrio yr oeddwn ar freuddwyd tra ffôl,”
- Medd William, gan syllu i’r glannau yn ol,
- “Lle gwelais fy hunan yn blentyn di-nam,
- Yn chwareu o amgylch i liniau ei fam;—
- Lle clywais i rywun yn curo yn hŷ’,
- A morwr o rywle yn dyfod i’r tŷ,
- A synnu yr oeddwn, mor debyg i chwi
- Oedd hwnnw a welais yn dod i’n tŷ ni.”
- “Dywedwch i mi,” ebe’r morwr yn awr,
- Gan syllu drwy bellder goleuni y wawr,
- “A oes gan eich mam lygad glas yn ei phen
- Sy’n ganmil disgleiriach na glesni y nen?
- Oes ganddi hi ruddiau, dywedwch yn rhwydd,
- A wrident yr eira pe bae yn eu gwydd?
- Oes ganddi hi wallt fel y nos ar ei phen
- Yn disgyn fel cwmwl ar hyd ei grudd wen?
- Ond gall, o ran hynny, fod main gennych chwi
- Yn ateb i’r darlun a dynnir gen i,
- A mi heb ei gweled mewn llan nac mewn llys,
- Ond,—welsoch chwi fodrwy ryw dro ar ei bŷs,
- A math o lun calon mewn perlau yn hon,
- A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron?”
- “Mae gan fy mam lygaid fel glesni y nen,
- A gwallt sydd fel hanner y nos ar ei phen,
- Mae harddwch yn byw ar ei gwefus a’i gên,
- Ac ysbryd serchawgrwydd yn dawnsio’n ei gwên;
- Ac hefyd, wrth feddwl, mae adgof gen i
- Am fodrwy ’run fath a’r un hon ddwedsoch chwi,
- A math o lun calon mewn perlau yn hon,
- A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron!”
- “Ai breuddwyd yw hyn?” ebe’r morwr yn rhydd,
- A’i deimlad a’i galon yn neidio i’w rudd,
- “Ai’m mab a achubais o afael y donn?
- Ai delw fy Mari yw’r llygad byw, llon,
- A welaf o’m blaen? ’Rwyf yn diolch i’r Nef,
- Mae Mari yn fyw, a fy machgen yw ef!”
- IV.
- “Roedd annedd fy Mari a minnau a’r ddôr
- A’i gwyneb i waered at lan y môr,
- Ac ni fu dedwyddach dau yn y byd
- Na Mari a minnau tra buom yn nghyd.
- Ryw noson anhapus—mi cofiaf hi byth—
- Daeth ysbryd anghydfod dros drothwy ein nyth,
- A Mari a minnau a gawsom air croes,—
- Y cyntaf a gawsom erioed yn ein hoes.
- “Eis allan yn sydyn, a chauais y ddôr,
- A chrwydro y bum ar hyd erchwyn y môr,
- Yn gwylio y tonnau yn chwareu’n y fan
- Ym mynwes eu gilydd hyd ymyl y lan;
- Dan chwerthin a neidio o amgylch fy nhroed,
- Yn orlawn o fywyd fel plant deuddeg oed.
- Meddyliais mor ffôl y bum i gyda’r fûn
- A garwn yn fwy na fy enaid fy hun;
- Ac eistedd a wnaethum mewn myfyr tra syn,
- A chenais gân fechan yn debyg i hyn,—
- “‘Mari anwyl, wnei di faddeu
- Fy ymadrodd creulon, ffôl,
- Gaf fi yfed gwin dy wenau
- Pan y deuaf yna’n ol?
- Pam y rhaid i gariad cywir
- Fod yn llanw ac yn drai?
- Arnaf fi, fy Mari anwyl,
- Arnaf fi yr oedd y bai.
- “‘Mynnaf brynnu gown o sidan
- Goreu fedd yr hollfyd crwn,
- I’w roi i Mari â’m llaw fy hunan,
- I wneud fyny’r cweryl hwn;
- Gwn y medr Mari faddeu
- Holl ffaeleddau cariad gwir,
- A thrawsffurfio gyda’i gwenau
- Gwmwl du yn awyr glir.’
- “Pan oeddwn yn dychwel a’r gown i fy mûn,
- Gan deimlo yn ddig wrth fy ffoledd fy hun,
- A theimlo y mynnwn i wneuthur fy rhan
- I garu y cweryl o’r tŷ yn y fan;
- Ar hynny! mi deimlwn ryw law nerthol, fawr,
- O’m hol yn fy nhynnu yn llegach i’r llawr,
- A phedwar o forwyr a’m rhwyment mewn brâd,
- Ac ymaith y’m cipiwyd i lawr at y bâd!
- Un cilgwth!—un floedd a drywanai fy mron,
- A dyna ni’n nofio ar wyneb y donn.
- “Llong ryfel angorai draw, draw ar y donn,
- A rhwyfai y morwyr yn union at hon,
- A mi, fel mewn breuddwyd, a gefais fy hun
- (Yn lle bod yn gofyn maddeuant fy mûn)
- Yn nghanol y milwyr, a’r morwyr llawn brad
- Yn hwylio i ryfel yn syth o fy ngwlad.”
- V
- Ryw fore, rhoi’r postman ddau guriad i ddôr
- Y bwthyn bach hwnnw yn ymyl y môr,
- A Mari a glybu, ond teimlai ryw fraw
- Yn mynd at ei chalon, a chrynnai ei llaw,
- A methai gan ofnau a myned ymlaen,
- ’Roedd blwyddau er pan gadd hi lythyr o’r blaen.
- Hi gafodd y llythyr ar drothwy y ddôr,
- A gwelai ei fod wedi dod dros y môr;
- Llawysgrif pwy ydoedd? O ba wlad y daeth?
- Ai William sy’n glaf, neu a oes newydd gwaeth?
- Agorodd y sêl, a darllennodd—ond och!
- ’Roedd gwaed y cynhyrfiad yn rhewi ar ei boch;
- Y capten a’i gyrrodd i ddweyd fel y bu—
- Fod storm wedi codi, fod corwynt a’i ru
- Bron wedi achosi llongddrylliad tra erch,
- Ac hefyd fod William, canolbwynt ei serch,
- Yng nghanol y ddrycin, a’r storm, wedi cwrdd
- A damwain, a syrthio i’r môr dros y bwrdd.
- Fe dorrodd y newydd ar deimlad y fam
- Fel taranfollt erchyll, a’i chalon rodd lam;
- Mor hynod ddisymwth bu’r ergyd i hon,
- Nes clodd y fath newydd ei dagrau’n ei bron;
- Ni wyddai p’le i droi, na pha beth i’w wneud,
- Ond teimlai lais distaw’n ei mynwes yn dweyd,—
- “Feallai fod gobaith, feallai i’th Dduw
- Ofalu am William, a’i fod ef yn fyw.”
- Hi syrthiodd ar ei gliniau
- A chodai fyny ei llef,
- Trwy’r storm o orthrymderau,
- At un sydd yn y nef;
- Ond ofnai fod ei gweddi
- Yn gofyn gan yr Iôr
- Am achub un oedd wedi
- Ei gladdu yn y môr.
- Daeth eilwaith adlais distaw
- O fewn i’w mynwes wyw,
- I ddweyd er hyn y gallai
- Fod William eto’n fyw;
- A’r adlais hwnnw roddodd
- Ail nerth i’w gweddi gref,
- Nes gyrrodd mewn ochenaid
- Ei chalon tua’r nef.
- VI.
- Ust! ust! dyna gnoc! pwy sy’n curo mor hy?
- O diolch—a William yn dyfod i’r tŷ!
- Pwy draetha’u teimladau pan syrthiodd y ddau
- Ar yddfau eu gilydd i gyd lawenhau?
- Dechreuai William ddweyd yn awr
- Ei hanes prudd, pan syrthiodd lawr,
- Ac fel ’r achubwyd ef mor hŷf
- Gan law ddieithr morwr cryf;
- “O na chawn ei weled,” atebai y fam,
- “Y morwr achubodd fy mhlentyn rhag cam,
- Cai ddiolch fy nghalon am achub o’r lli.
- Yr hwn sy’n anwylach na mywyd i mi.”
- “Myfi yw y gŵr,” ebe llais yn y ddôr,
- “Achubodd y bachgen rhag marw’n y môr,”—
- “Fy Nuw!”—ebe Mari, pan welodd y dyn,
- A syrthiodd i freichiau ei phriod ei hun.
- Dechreuwyd a holi ac adrodd mor hŷ,
- A’r tri yn cydwylo wrth ddweyd sut y fu,
- Y tad yn rhoi darlun o droion y daith,
- A’r fam yn rhoi darlun o’i phryder tra maith.
- ’Mhen awr, fe ddaeth cenad i’r bwthyn dinam
- At Mari yn dweyd fel bu farw ei mam;
- Y clefyd ddadglodd gloion rhydlyd ei serch,
- A phwnc ei myfyrdod oedd Mari ei merch,
- “Rwy’n maddeu i Mari fy merch,” ebe hi,
- A deigr edifeirwch yn treiglo yn lli;
- A neidiodd o’i gwely, ac allan yr aeth,
- A chodi ei dwylaw i’r nefoedd a wnaeth,
- Ar drothwy y drws lle cilgwthiodd ei merch,
- Am roi ei deheulaw lle rhoddodd ei serch;
- Gweddiodd yn daer am faddeuant yr Iôr,
- Ac yno bu farw ar drothwy y ddôr.
- Bu’r morwr a Mari am flwyddau hir, hir,
- Yn byw mewn dedwyddwch dan awyr serch clir,
- A William a dyfodd yn addurn i’w wlad,
- Yn eilun ei fam, ac yn bopeth ei dad.
- Y sexton ar hynny eisteddodd i lawr,
- A’r tân oedd yn llosgi yn isel yn awr;
- Aeth pawb tuag adref ’rol cael y fath wledd,
- Aeth yntau i’r fynwent i dorri y bedd.