Pennod 5 Y Cychwyn

gan T Rowland Hughes

Pennod 7


𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 6

UNWAITH y torrodd yr ias, cofiodd yr hen weinidog, nid oedd pethau'n anodd iawn wedyn. Rhywfodd, yn y pentref ac yn y chwarel, disgwylid iddo fod yn "wahanol", yn llanc dwys a difrifol, ac, a'i feddwl ar y llyfrau a ddarllenai a'r pregethau a luniai, gorau'n y byd ganddo oedd hynny. Pregethodd ddwywaith wedyn yng ngŵydd ei weinidog, cyflwynwyd ei achos i ystyriaeth y Cyfarfod Dosbarth yn nechrau'r flwyddyn, holwyd ef yn gyhoeddus un nos Fawrth yn y Seiat gan Ifan Hughes, Caer Heli, a hen flaenor caredig o'i eglwys ef, pleidleisiwyd yn unfrydol o'i blaid yn Siloam, trefnwyd cylchdaith iddo o fewn y Dosbarth, ac wedi derbyn. bendith y Cyfarfod Dosbarth a'r Cyfarfod Misol cychwynnodd ar ei "flwyddyn brawf" yn nechrau'r haf. Cyn hir gallai gyfrif ei bregethau ar fwy na bysedd un llaw, a châi, drwy ddylanwad Owen Gruffydd yn fwyaf arbennig, gyhoeddiadau aml, rhai ohonynt tu allan i gylch y Cyfarfod Misol, a chaniatâd parod Richard Davies, y Stiward Gosod, i ddechrau gweithio weithiau ar brynhawn yn lle ar fore Llun. Fel rheol, pymtheg swllt a enillai ar y Sul, ond rhoddid iddo bunt yng Nghaer Heli a lleoedd tebyg, a phum swllt ar hugain mewn rhai eglwysi pell. Cadwai'r rhan fwyaf o'r arian yn ofalus, gan wybod y byddai angen pob dimai arno pan âi i Ysgol Ragbaratoawl y Bala ym Medi'r flwyddyn wedyn.

"Paid di â phoeni am y pres, 'rŵan," oedd siars Dafydd un nos Sul pan gyrhaeddodd Owen adref o Lan Eithin â dim ond chweugain yn lle pymtheg swllt yn ei boced. "Ac Enid yn cadw'i hun yng Nghaer Helia Myrddin wedi dechra' ennill tipyn, 'rydan ni'n medru rhoi ceiniog heibio o'r diwadd, wsti. Mi ofalwn ni y cei di bob chwara' teg, 'r hen ddyn."

Yr oedd Myrddin, wedi gwrthod yn lân gynnig am ysgoloriaeth Ganolraddol newydd yng Nghaer Heli, bellach yn was bach mewn siop, ac er nad enillai ond coron yr wythnos, cynorthwyai'r teulu hefyd drwy gludo adref fanion—asgwrn ham â llawer o gig arno, nwyddau wedi'u gwlychu neu'u hanafu dipyn ar y ffordd i Lan Feurig, ffrwythau a oedd yn debyg of fynd yn ddrwg pe gadewid hwy yn y siop i fwrw'r Sul—a roddai'i feistr, Richard Owen, iddo yn rheolaidd. A chan y perthynai i Fanchester House geffyl a chert, yr oedd y gwas bach ar ben ei ddigon. Diolchai'i fam am hynny. "Dydi Myrddin ddim yn gryf," meddai'n aml, "ac yr ydw' i'n falch yn fy nghalon fod Richard Owen yn mynd â fo allan efo fo yn y gert." "Rhwng trio rhoi anrhegion go lew iddi a threfnu brecwast da," chwanegodd Dafydd wrth Owen, "mi fydd yn rhaid inni wario tipyn ar briodas Elin, ond 'fydd 'na ddim treulia' o bwys ar ôl hynny."

"Be' am y tŷ, Dafydd?"

"Y les yn dwad i ben? Ia." Cymylodd wyneb Dafydd am ennyd, ond siriolodd drachefn ar unwaith. "O, 'dydw' i ddim yn meddwl bod rhaid inni boeni am hynny, wsti. 'Rydan ni wedi edrach ar ôl Tyddyn Cerrig ac mae o'n well tŷ o lawar na phan brynodd 'Nhad a 'Mam o cyn priodi. Maen' nhw'n siŵr o estyn y lês. Mi fùm i'n holi amryw ar y pwnc, a'r farn gyffredin ydi y bydd Meyricke yn cymryd tai'r bobol esgeulus i'w rhentu, ond yn estyn lês y rhai sy mewn cyflwr da." "Hen ddeddf ofnadwy ydi hi, yntê, Dafydd?"

"Dal tŷ ar lês? Ia."

"Meddylia, mewn difri. 'Chydig dros gan mlynadd yn ôl 'doedd 'na ddim ond llethra' creigiog yma, yn dda i ddim nac i neb. Wedyn dyna agor Chwaral y Fron a phobol yn dechra' heigio iddi i ennill tamad. A lle'r oedd y graig noeth o'r blaen, mae pentra' Llan Feurig yn codi, y tai i gyd ar lês. Erbyn hiddiw mae'r hen graig yn fwy o werth na'r tir mwya' ffrwythlon yn y wlad. Dim ond am i daid Oswald Meyricke dorri'i enw wrth ochor enwa'r chwarelwyr oedd yn codi tai arni." "Wrth ochor croes y rhan fwya' ohonyn' nhw."

"Croes mewn mwy nag un ystyr. Ond 'aeth o ddim i'r draffarth hyd yn oed i dorri'i enw, mae'n bur debyg. Tipyn o gyfreithiwr oedd yn gwneud hynny trosto fo, a 'fynta'n mwynhau'i hun yn Neheudir Ffrainc ne' yn yr Eidal ne' rwla."

"Ia, ond paid di â llenwi dy ben efo problema' fel'na, Now bach." Er bod Owen bellach lawer yn dalach na'i frawd, "Now bach" y galwai Dafydd ef o hyd. "A chofia di beidio â chynilo gormod 'rŵan, a byw heb y llyfra' a'r petha' sy arnat ti 'u hangan."

"Diolch, Dafydd, ond . . . ond be' amdanat ti?"

"Fi?"

"Ia. 'Chydig o blesar wyt ti'n gael, yntê?—byth bron yn mynd am dro i Gaer Heli na . . . na . . . "

"Na be'?"

"O, 'wn i ddim, ond . . ."

"Ond byth yn mynd allan i garu, a'r 'gennod dela'n cael 'u bachu o dan fy nhrwyn i?"

"Wel . . . "

Chwarddodd Dafydd. "Mi ddaw rhyw glamp o aeres, yn rholio mewn arian, heibio un o'r dyddia' 'ma, wsti. Ac wedyn nid i'r Bala y byddwn ni'n dy yrru di ond i Oxford ac ar ôl hynny i'r 'Mericia."

Ar y bore Sadwrn cyntaf yn Hydref yr oedd priodas Elin, a mawr fu'r cyffro yn Nhyddyn Cerrig yr wythnos honno. Gan mai Miss Lucy Roberts, yr wniadwraig leol, a ofalai am ddillad y briodferch a'i mam, galwodd ei phrentis, Mary, yn y tŷ droeon a sylwodd amryw mor rhwydd y gwridai hi ac Owen yng ngŵydd eraill. Enid a oedd i fod yn forwyn briodas a disgwylid hi adref o Gaer Heli nos Iau, ond cyrhaeddodd y brêc olaf Lan Feurig hebddi a noswyliodd pawb gan gredu mai'r bore wedyn. y dôi hi. Derbyniwyd llythyr oddi wrthi yn y bore â'r newydd fod ei meistres yn wael iawn ac na fedrai ei gadael, a chytunodd Myfanwy, chwaer Wil, i fod yn forwyn briodas yn ei lle. Cawr o ddyn gwladaidd, afrosgo, oedd y priodfab o hwsmon, yn araf a chynnil ei eiriau, a dwfn iawn ei lais. Edrychai fel hogyn mawr, yswil, a dyfasai'n sydyn yn ŵr, ac er y deuai tros Fyrddin ysfa chwerthin am ben ei draed enfawr, a ymddangosai'n fwy fyth islaw culni hosanaidd coesau'i drowsus, hoffodd pawb ei ddidwylledd syml, elfennol, ar unwaith. Yn y pridd, yn dilyn yr og neu'r aradr efallai, yr oedd y traed hynny hapusaf, a thipyn o dreth arnynt oedd cludo urddas a chyfrifoldeb priodfab i ddieithrwch Llan Feurig. Ceisiai John—rhythai'i lygaid a'i geg ar bwy bynnag a'i galwai'n "Mr. Williams", fel petai'n amser at bwy y cyfeirid—ddianc o'i yswildod drwy wenu a wincio ar bopeth a ddywedid wrtho a chwibanu'n ddi-baid alaw hollol anhyglyw hyd yn oed iddo ef ei hun. Dim ond pan fwytâi neu pan siaradai y peidiai'i wefusau â gwneud cylch chwibanog, a phob tro y deuai Elin i'r gegin gofalai hi am wthio tamaid o gyflaith i'w safn.

Cysgai John yn Nhŷ Pella' y noson honno ac aeth Owen yno gydag ef, yn gwmni iddo: dôi'r gwas priodas, cefnder i'r priodfab, drosodd o Lan Eithin yn y bore. Buont yn siarad—neu'n hytrach bu Owen Gruffydd yn areithio, Owen yn taflu ambell air i mewn, a John yn chwibanu'n fud—tan ohydion, ac ni chododd un ohonynt yn fore iawn drannoeth. Wedi iddo eillio'i wyneb ac ymolchi a chael tamaid o frecwast, brysiodd y priodfab i'r llofft i ymwisgo, a chyn hir, ac yntau'n barod i ymbincio, ymunodd Owen ag ef yno. A'i goler a'i dei yn ei law, eisteddai John yn ei drowsus a'i wasgod wlanen ar ymyl y gwely gan syllu'n ddig ar y fasged wellt agored wrth ei draed.

"Be' sy, John?"

"'Roedd Meistras wedi'i daro fo'n barod ar y gwely imi, a mi fedrwn daeru imi 'i roi o yn y fasgiad."

"Be'?"

"Y crys gwyn hwnnw brynis i ym Mhwllheli. Newydd sbon. Dyma hi'r golar. A'r tei. Ond 'dydi'r tacla'n dda i ddim heb y crys, nac ydyn'?"

Gwyrodd Owen i loffa yn y fasged.

"Fyddwch chi ddim gwell, Now. 'Rydw'i wedi'i gwagio hi bedair gwaith. Dim sôn amdano fo."

"Mae fy nghrysa' i a rhai Taid yn rhy fychan i chi," meddai Owen wedi iddo chwilio'n ofer yn y fasged. "Be' wnewch chi, deudwch?"

"Crys crand oedd o hefyd. Y gora' yn y siop."

"Mi reda' i i'r pentra' os liciwch chi. Ond dim ond Manchester House sy'n cadw crysa', a 'chydig iawn o ddewis sy yno. Rhai gwlanan cartra' bron i gyd."

"Ia... 'Faint ydi hi o'r gloch?"

"Mae hi wedi naw, John."

"Rargian Dafydd, 'ydi hi? A ninna' i fod yn y capal erbyn deg."

"Cyn deg, dipyn."

"Ia, yntê?" A chododd John fel petai am gychwyn y munud hwnnw yn ei drowsus a'i wasgod wlanen. Eisteddodd ar ymyl y gwely drachefn mewn anobaith. Roedd o'n grys crand, hefyd," meddai'n llwm.

"Wel," ebe Owen, 'does dim amdani ond gwisgo'r crys gwlanan oedd gynnoch chi ddoe."

"Nac oes, gwlei."

Daeth Owen Gruffydd i'r drws. "Barod?" gofynnodd.

Eglurwyd y sefyllfa iddo a chwarddodd yntau.

"Twt, be' ydi'r ffwdan ?" meddai. "Tsiêt, John, tsiêt. Dyna oedd gin' i'n priodi." A brysiodd ymaith i nôl un o'i lofft ei hun.

Yr oedd y gwas priodas yn aros amdanynt wrth y capel, ac wedi iddynt gymell Owen i fynd gyda hwy yno am ennyd, cerddodd y priodfab a'i was, y cyntaf â thyngedfennol sang, i'r Sêt Fawr. Ysgydwodd y Parch. Ebenezer Morris law â hwy ac yna eisteddodd ef wrth y bwrdd a'r ddau ddieithryn ar y Sêt i aros nes dôi'r briodferch a'i morwyn a Dafydd. Gwelai Owen, fel y ciliai i'r sedd gyntaf at ei daid a'i fam, y câi John beth trafferth i gadw conglau'r tsiêt rhag ymwthio tros ymyl ei wasgod, yn enwedig pan blygai ymlaen dipyn, ond ar wahân i hynny ymddangosai'r priodfab yn bur gartrefol, a dechreuasai chwibanu'n ddi-sŵn eto. Ymhen ennyd gwyrodd y gweinidog ymlaen i sibrwd rhywbeth am "certificate". Nodiodd a gwenodd John yn gyfeillgar arno, ond gan ei ddal ei hun yn syth yn erbyn cefn y Sêt Fawr. Sibrydodd Ebenezer Morris eilwaith dipyn yn uwch, a chododd Owen i gyflwyno'r neges i glust chwith John.

"Y stifficet. Ar gyfar y Cofrestrydd."

Aeth wyneb coch y priodfab yn gochach a, tsiêt neu beidio, troes i hisian yn ffyrnig: "Yr hen grys goblyn 'na. Ym mhocad fy nghôt arall i."

Safodd y gweinidog a phawb arall tra deuai Elin a Myfanwy a Dafydd i mewn i'r capel. Sleifiodd Owen allan drwy'r festri a rhuthrodd i Dyddyn Cerrig, lle, yn ffodus, y gadawsent y fasged ar eu ffordd o Dŷ Pella'. Daeth o hyd i'r dystysgrif a rhedodd bob cam yn ei ôl i'r capel. Fel y camai'n dawel heibio i'r Sêt Fawr, edrychai'r pâr ifanc fel pe baent newydd ffraeo a phenderfynu na siaradent air â'i gilydd am weddill eu hoes. Ond cafwyd hwyl wrth y bwrdd brecwast, a chan fod Mary'n un o'r gwahoddedigion, yr oedd Owen yn hapus iawn. Wedi'r bwyta, areithiodd Owen Gruffydd a'r gwas priodas yn huawdl a doniol, a dywedodd John mor falch ydoedd o gael bod yno ac o'u gweld i gyd yn edrych mor dda a'r diwrnod yn un mor braf, er nad oedd o'n licio sŵn yr hen wynt 'na yntôl. Trefnwyd gosgordd, ac Owen a Mary yn eu plith, i hebrwng y pâr ifanc at y brêc a'u cludai i Gaer Heli, lle bwriadent dreulio'u prynhawn mêl yn gweld y siopau a phrynu llestri ar y Maes cyn dychwelyd i Lŷn, tafiwyd ychwaneg o reis i esgidiau'r priodfab ac i lawr ei wddf, hongiwyd pâr enfawr o esgidiau hoelion-mawr tu ôl i'r brêc, a rhoddwyd "Hwrê!" uchel i John a'i wraig fel y cychwynnai'r cerbyd. Yna aeth Owen i ddanfon Mary adref. Dim ond gwaith tri munud a oedd i'r tŷ, ond gan iddynt ddewis y llwybr a arweiniai i fyny'r Clogwyn i olwg Bryn Llwyd a chrwydro'n ôl yn araf i lawr ochr y Fron, cymerodd y daith deirawr y prynhawn hwnnw.

Yr oedd Owen i bregethu yn eglwys Ifan Hughes yng Nghaer Heli y bore a'r hwyr drannoeth, ac fel y paratoai i gychwyn am y brêc ar ôl te,

""Ei di â'r wya' 'ma efo chdi?" gofynnodd ei fam.

"I bwy?"

"I Enid, i'w rhoi nhw i'w meistras. Maen' nhw'n ffres, newydd ddŵad o'r Hafod."

"Wel . . . O'r gora', 'Mam."

Ond ni chafodd gyfle i weld Enid y noson honno. Tynnai at saith o'r gloch pan gyrhaeddodd ei lety yn y dref a chan fod ei westeiwr, Ysgrifennydd yr eglwys, yn ŵr siaradus, trawai cloc gerllaw wyth cyn iddo feddwl am gychwyn, ac erbyn hynny clywai sŵn llestri'r swper yn y gegin. Ni ddaeth Enid i'r capel yn y bore, a phenderfynodd Owen golli'r Ysgol Sul a mynd i "Fin-y-don", y plas o dŷ yr oedd Enid yn gweini ynddo, yn y prynhawn. Yr oedd hwnnw dros hanner milltir tu allan i'r dref, ar lechwedd uwch y môr, ac fel y cerddai drwy'r gerddi hardd tua'i ddrws urddasol, teimlai gywilydd o'r blwch o wyau yn ei law.. Morwyn tua'r un oed ag Enid a atebodd y drws.

"Pnawn da. Brawd Enid ydw' i."

"O . . . y . . . " Gwridodd y ferch at ei chlustiau. "Isio gweld Meistras yr ydach chi, mae'n debyg."

"Na, yr ydw' i'n dallt . . . "

"O, dyma Mistar." Troes yn ei hôl i alw, "Brawd Enid,

Syr."

"Y drawing room, Beti. Mi ddo' i yno mewn munud."

Arweiniwyd Owen i mewn i ystafell fawr gyfoethog a wynebai'r môr. Eisteddodd yn bryderus ar fin ei gadair a'r blwch wyau ar ei lin. Ni fuasai erioed mewn ystafell mor llawn o addurniadau. Ymhlith myrdd o bethau eraill, yr oedd ynddi lwynog a dylluan a physgodyn enfawr a chloc euraid, pob un yn sancteiddrwydd di-lwch ei gâs gwydr; potaid mawr o redyn ar y bwrdd ac un arall mwy wrth y ffenestr; lluniau'r teulu, pob copa walltog a moel ohonynt, ac orielau o weinidogion barfog ar y muriau; ac ar y silff-ben-tân a'r mân fyrddau a'r seld, anrhegion o Landudno a Llandrindod a Threfriw a phob llan a thref arall of ffasiynol goffadwriaeth. Coch oedd y lliain pom-pomaidd ar y bwrdd, addurnai'r un deunydd y silff-ben-tân, ac ohono ef hefyd y lluniwyd ardderchowgrwydd swrth y llenni a hongiai o boptu'r ffenestr. Ond yr oedd "hangings" o lace ar y ffenestr ei hun, ac ar bob cadair gorweddai'r antimacasars yn ddi-grych fel pe na bai neb erioed wedi'u hamharchu drwy feiddio gorffwys ar un ohonynt.

Daeth y dyn y cawsai Owen gip arno yn y cyntedd i mewn. Gŵr bychan, boliog, ydoedd, a geisiai ond a fethai gerdded yn urddasol: gan fod ei goesau byr yn glòs wrth ei gilydd, cerddai fel siswrn.

"Y . . . pnawn da."

"Pnawn da, Mr. Davies." A chododd Owen i ysgwyd llaw ag ef.

""Steddwch."

"Diolch."

"Wel?" Teimlai Owen fel petai o flaen y Stiward yn y chwarel, wedi'i ddal yn sleifio'n hwyr i'r gwaith.

"Sut mae Mrs. Davies?"

"Cystal â'r disgwyl, ac ystyriad bod 'i chalon hi mor beth'ma, yntê?"

"Mi wnaeth 'Mam imi ddŵad â'r wya' 'ma iddi hi." Ac estynnodd y blwch i'r dyn bach.

"W . . . wya'?"

"Rhai ffres. O ffarm ar y mynydd 'cw."

"D . . . diolch."

wenu braidd yn ffôl.

Daliodd hwy'n ffwndrus yn ei law, gan

"Mae'n biti, ond ydi?"

"Ydi, wir, Mr. Davies."

"Hogan glên. Heb 'i gwell am deisan 'fala'. Tipyn of sioc."

Ni wyddai Owen beth i'w ddweud. Edrychodd, mor drist ag y gallai, ar y ffan fawr las yn y grât ac yna ar y llwynog yn ei gâs gwydr.

"Anifal hardd, Mr. Davies."

"Ydi, ond ydi?" Taflodd olwg cyflym tua'r drws ac yna gostyngodd ei lais. "Yr on i'n mynd am dro un diwrnod, gwn dan fy mraich, ar ochor y Wyddfa . . . ”

"O'n wir!"

Hwyliodd dynes dal, drwynfain, wedi'i gwisgo bron at ei gên mewn sidan du, i mewn drwy'r drws. "Ar yr Eifl yr oeddach chi y tro dwytha' y clywis i'r stori."

"Y . . . brawd Enid ydi o, Patricia."

"Felly 'roedd Beti'n dweud." Troes lygaid llym ar Owen. wrth chwanegu, "Roeddan ni'n disgwyl un ohonoch chi yma cyn hyn. Y gnawas fach! . . . Be' ydi'r parsal 'na sy gynnoch chi, Alfred?"

"Y . . . wya', Patricia, wya'."

Pwy bynnag oedd y wraig, meddyliodd Owen, yr oedd ar y dyn bach ei hofn.

"Wya'?"

"Ia, y dyn ifanc 'ma wedi dŵad â nhw . . . I chi, Patricia," chwanegodd yn eiddgar.

Hon, felly, oedd Mrs. Davies. A'r "hogan glên", a'r "gnawas fach", oedd—Enid?

"Mae . . . mae arna' i ofn nad ydw' i ddim yn dallt," dechreuodd Owen.

"Ydach chi wedi'i gweld hi ar ôl dydd Iau?" gofynnodd y wraig, heb brin agor ei gwefusau tenau.

"Enid?"

"Pwy arall?"

"Naddo. 'Roeddan ni'n 'i disgwyl hi adra' nos Iau, ond 'ddaeth hi ddim. Mi gawsom air bora Gwenar yn dweud bod 'i meistres yn wael iawn . . . "

"O! 'Ydach chi'n clywad, Alfred? . . . 'Does gynnoch chi ddim syniad ym mh'le y mae hi, felly?"

"Nac oes, wir. 'Oes . . . 'oes rhywbeth wedi digwydd?"

"Digwydd! 'Dydach chi ddim wedi deud wrtho fo, Alfred?"

""Roeddwn i'n mynd i . . . "

Croesodd Mrs. Davies at y lle tân a thynnu wrth raff euraid. Canodd cloch yn rhywle.

"Ia, Alfred?"

"Roeddwn i'n mynd i . . . "

Daeth y forwyn i'r drws.

"O, Beti, cymerwch y parsel 'na o ddwylo'ch meistr—cyn iddo fo'i ollwng o. Wya' sy ynddo fo. Mi gewch ferwi un i Mr. Davies i de."

"Aci chitha', Mistras?"

"Na, dim i mi."

"O'r gora', Mistras."

Wedi i'r eneth fynd, eisteddodd Mrs. Davies yn fygythiol of anystwyth ar fin y gadair gyferbyn ag Owen.

"Wn i ddim ym mh'le y câi hi le gwell," meddai. "Wyth bunt y flwyddyn a bwyd da. A dyma'r diolch, y feudan fach anonest."

"Peidiwch chi ag egseitio 'rŵan, Patricia."

"Be' mae Enid wedi'i wneud?" gofynnodd Owen, a'i amynedd yn dechrau pallu.

"Deudwch chi, Alfred," meddai'r wraig, gan dynnu llaw finderus tros ei thalcen. "Mi aeth allan yn syth ar ôl cinio ddydd Iau," eglurodd Alfred. "Doedd hi ddim i fod i fynd, ond 'ddaru ni mo'i cholli hi tan amsar swpar. 'Ddeudodd Beti, y forwyn arall, ddim gair."

"Naddo, ac yr ydw' i wedi rhoi wsnos o notis iddi hi," meddai'r wraig yn chwyrn.

"Roedd hi wedi mynd â'i basgiad a'i phopath efo hi." Arhosodd Alfred ennyd cyn torri'r newydd mawr. "A deuddag sofran o bureau Mrs. Davies."

"Ydach chi . . . 'Ydach chi'n siŵr o hynny?"

"Siŵr? Ydan!" meddai'r wraig. "Wydda' neb arall fod yr arian yn y bureau. 'Roeddwn i wedi'u codi nhw y diwrnod cynt i dalu i Mr. Preis y bildar ac wedi bod yn ddigon. ffôl i'w cyfri nhw pan oedd hi'n llnau fy rŵm i."

"Wrth gwrs, 'ddaru chi ddim meddwl, Patricia," cysurodd ei gŵr hi.

"Naddo, ond mi ddylswn fod wedi ystyriad, a hitha'n un mor benchwiban."

""Oeddach chi wedi cloi'r bureau, Mrs. Davies?"

"Own, debyg iawn, a'r drôr fach lle'r oedd yr arian. Ond be' oedd hynny i meiledi? 'Roedd hi wedi dwyn chisel of sied y gardnar—mi welodd y gardnar hi'n sleifio o'r sied—a chlo gwantan, mae'n amlwg, oedd i'r bureau."

Cododd Owen. "Mae'n ddrwg iawn gin' i am hyn," meddai, "a mi ddo' i ne' 'mrawd yma 'fory ne' drennydd i'ch gweld chi ynglŷn â'r arian. 'Oes gynnoch chi ryw syniad ym mh'le mae Enid?"

"Dim syniad na diddordab," ebe'r wraig, gan godi a hwylio'n urddasol tua'r drws.

Yr oedd Alfred yn fwy boneddigaidd ac aeth gydag Owen i lawr i'r ffordd.

"Ynglŷn â'r llwynog 'na," meddai cyn troi'n ei ôl i'r tŷ. "Y wraig oedd yn iawn. Mi gofis i wedyn pan soniodd hi am y peth. Ia, ar yr Eifl, nid ar y Wyddfa, yr on i pan saethis i o."

Y bore wedyn, cyn dal y brêc tuag adref, galwodd Owen yng ngorsaf Caer Heli a chafodd fod Herbert hefyd ar goll er dydd. Iau. Codasai ef a'i gariad docynnau i Lundain y prynhawn hwnnw.

Er bod ei iechyd yn dadfeilio, gwrthodai Owen Gruffydd yn lân adael Tŷ Pella' ac ymgartrefu gyda'r teulu yn Nhyddyn Cerrig. Buasai'n cwyno efo cur yn ei ben a chamdreuliad a diffyg anadl ers wythnosau lawer, ond yn ofer y dadleuai ac yr ymbiliai Dafydd ac Owen a'u mam ag ef. Yna, un bore Sul oer a llaith yn Rhagfyr, fe'i llusgodd ei hun i Lan Eithin, ond wedi iddo gyrraedd yno yr oedd yn falch o gael gorwedd yn llipa ac mewn poenau ar y soffa yn y tŷ-capel, ac felly y bu drwy'r dydd. Pa fodd y cwympodd y cedyrn! meddai wrtho'i hun yn sur wrth deithio yn y brêc drannoeth i Gaer Heli ac wedyn. mewn un arall oddi yno i Lan Feurig. Y noson honno y llwyddodd Dafydd i'w ddenu i Dyddyn Cerrig.

"O'r gora'," meddai'n anfoddog. Yna'n herfeiddiol: "Ond dim ond am 'chydig ddyddia', cofia. Dim ond nes bydda' i dipyn yn well. 'Wyt ti'n dallt?"

"Ydw', Taid."

Cafwyd y meddyg ato a gyrrodd hwnnw ef yn syth i'w wely gyda'r gorchymyn i'w gadw yno, rhwng blancedi, a'i fwydo ar rual tenau yn unig hyd oni alwai ef drachefn. Ond dyn claf anhydrin iawn oedd Owen Gruffydd. Yfodd gegaid o'r ffisig a ddygasai Myrddin o dŷ'r meddyg, chwarddodd yn goeglyd, a rhoes y botel yn ôl i'r bachgen.

"Hwda, tywallt hwn'na drwy'r ffenast' i'r ardd. Os ffisig, ffisig amdani, a hwnnw'n rhy chwerw i'w lyncu bron, nid rhyw lemonêd o ddiod fel'na."

"Ond, Taid . . . "

"A dywad wrth dy fam am wneud jygaid o ddŵr camomil a thipyn o de sunsur imi."

"Ond mi fydd Doctor Williams . . . "

"Paid di â dadla' efo dy daid, 'rŵan, a 'fynta' mor sål."

A phan alwodd Doctor Williams yr hwyr drannoeth, yr oedd yr hen wrthryfelwr yn y gadair freichiau wrth dân y gegin yn darllen yn uchel i Owen ddarn o "Breuddwyd Pabydd" Emrys ap Iwan allan o hen rifyn o'r 'Geninen.'

"Ddeudis i ddim wrthat ti am aros yn dy wely?" meddai'r meddyg yn chwyrn.

"Do, ond yr ydw i'n teimlo'n well o lawar erbyn hyn, Doctor. Y ffisig 'na, mae'n debyg."

"Hm . . . m. Ar dy ben yn y nefoedd y byddi di."

"Yn y nefoedd?"

"Ia, a 'does ar yr un ohonoch chi isio mynd i fan'no, er cymaint ydach chi'n frolio ar y lle . . . 'Oes gin' ti gur yn dy ben?"

"Oes; ond mae o'n well heno."

"Poen yn dy gefn?"

"Oes, wir, dipyn."

"Camdreuliad?"

"Yn ddrwg iawn, a dim archwaeth at fwyd."

"Ac yn methu cysgu?"

"Ches i ddim winc neithiwr nac echnos."

"Hm . . . m. Ond yn gysglyd yn y dydd?"

"Pendympian, ar fy ngwaetha'."

Gofynnai'r meddyg y cwestiynau'n ddiog a difater, ond gwelai Owen eu bod yn chwalu ystyfnigrwydd yr hen ŵr ac yn deffro peth edmygedd ynddo.

"Pam wyt ti'n anadlu mor drwm?"

"Rhwbath sy'n gwasgu ar fy mrest i. Be' sy'n bod arna' i, Doctor?"

"Y kidneys."


"Y?"

"Drwg ar y kidneys."

"Yr un fath â'r hen Garlo, Owen."

"A rhaid iti gael cnesrwydd y gwely, creda di fi ne' beidio. Dillad gwlanan amdanat, gorwadd rhwng blancedi, potal-ddŵr- poeth. Cnesrwydd, cnesrwydd. Ond 'faint gwell ydw' i o siarad efo penci fel fo, yntê, Owen? Tyd di ne' dy frawd draw pan fydd o isio chwanag o'r ffisig."

"O'r gora', Doctor."

"A . . . lle mae dy fam?"

"Dyma fi, Doctor." A brysiodd Emily Ellis o'r gegin fach ac aeth gyda'r meddyg i'r drws.

"Mi wnes i'n iawn efo'r hen Garlo, felly," meddai Owen Gruffydd wedi iddynt fynd. "Mi gedwis i'r hen gyfaill yn gynnas nos a dydd—digon o hen ddillad o'i gwmpas o a thanllwyth yn y gråt. Do, mi wnes fy ngora' iddo fo, yr ydw' i'n meddwl . . . Be' ddeudodd o, Emily?"

"Rhoi tafod imi am adael i chi godi," meddai hithau wrth ddyfod yn ôl i'r gegin.

"Ia, dŵad â phobol erill i drwbwl yr ydach chi," ebe Dafydd, a gyfarfuasai'r meddyg wrth y drws. "Wyddwn i ddim y medrai'r Doctor Bach fod mor gas. 'Rwan, yn ôl i'r gwely 'na, Owen Gruffydd."

"O'r gora', Dafydd . . . o'r gora', machgan i."

Swniai'i lais yn wan iawn, a phan safodd, yr oedd yn bur ansad ar ei draed. ""Roni i fod ym Mryn Llwyd y Sul nesa'. Mi gei di fynd yn fy lle i, Owen. Pryd y methais i gadw cyhoeddiad o'r blaen, 'wn i ddim, wir."

Yn y gwely, daeth lludded mawr trosto a chydag ef iselder ysbryd.

"Wnei di ddim gadael imi fynd i'r Wyrcws, na wnei Dafydd?"

"Rargian fawr, 'rydach chi'n mynd yn rêl stwnsiwr yn eich hen ddyddia"."

"Mi ddylwn fod wedi aros yn hwy yn y chwaral, wsti, yn lle trio bod yn annibynnol. Ond dyna fo, 'fedrwn i ddim diodda'r John Humphries hwnnw, y cena' digydwybod iddo fo. Mae'n debyg y basa' fo a Jones-Parry yn licio clywad bod Owen. Gruffydd yn y Wyrcws. Basan', y ddau ohonyn' nhw."

"Twt, mi fydd o'n gymaint o lanc ag erioed cyn diwadd yr wsnos, Now, 'gei di weld," meddai Dafydd. "Ond 'dydi o ddim yn mynd yn 'i ôl i Dŷ Pella', mae hynny'n siŵr."

"Y?" Cododd Owen Gruffydd ar ei eistedd yn y gwely. "Rwan, o dan y dillad 'na," gorchmynnodd Dafydd. "Rydach chi wedi bosio digon ar hyd eich oes, ac mae'n hen bryd i rywun ddechra' giaffrio tipyn arnoch chi bellach. Mi fu 'Mam a finna'n siarad efo'r Doctor. A dyma'r ordors. 'Ydach chi'n gwrando?"

"Ydw', Dafydd."

"Mae'n rhaid i chi adael Tŷ Pella' a dŵad i fyw yma atom ni. 'Wn i ddim pam yr ydach chi wedi mynnu talu rhent yn fan'no drwy'r blynyddoedd."

"Yr hen aelwyd, Dafydd, yr hen aelwyd. A, Doctor ne' beidio, yr ydw' i'n mynd yn f'ôl i'r hen gartra'." Ond grym arferiad yn fwy na dim arall a'i gwnâi'n anhyblyg: nid oedd penderfyniad yn y geiriau.

"Gwrandwch, Taid, 'dydi afiechyd ddim yn beth i chwara' ag o. Yma yr ydach chi i fod o hyn allan. Mae'n Sadwrn Cyfri ddydd Sadwrn nesa', ac mi yrrwn ni'r gair allan 'fory a thrennydd a dydd Gwenar. Am y dodrafn."

Cronnodd y dagrau yn llygaid yr hen ŵr a brathodd ei wefus isaf yn ei ing. "O'r gora', Dafydd," sibrydodd ymhen ennyd, a lludded enfawr yn ei lais.

Cludwyd llawer o bethau Tŷ Pella' i Dyddyn Cerrig yn ystod y dyddiau canlynol, a phrin, meddyliai Dafydd ac Owen fel yr ufuddhaent i orchmynion eu mam a'u taid, y byddai dim o werth ar ôl yno erbyn y Sadwrn.

"Gwerthu'r jygia' copar!" meddai Emily Ellis mewn braw. "Mae rheini i ddŵad yma. A'r rowlin-pin wydr. A'r llong mewn potal. A'r cloc bach sy ar y silff-ben-tân. A'r cloc i gadw'r tywydd."

"A gwely'r llofft gefn," meddai Owen Gruffydd yn gadarn.

"Ond, Taid . . . "

""Waeth iti hyn'na na chwanag, Dafydd. 'Dydw' i ddim yn licio'r gwely 'ma ac mi gewch 'i dynnu o i lawr pan. fynnoch chi, fo a'i hen fatras flocs wirion. Os ydach chi isio petha' i'w gwerthu, gwerthwch hwn, da chi. A'r cloc wyth niwrnod na sy gynnoch chi ar waelod y grisia', fel cnul drwy'r nos."

"Mi stopiwn ni'r cloc heno, Taid. Ond nid ar y fatras na'r cloc y mae'r bai am na fedrwch chi gysgu. Fe ddeudodd y Doctor . . . "

"Waeth gin' i be' ddeudodd o. Mewn gwely plu yr ydw' i wedi cysgu ar hyd fy oes, a 'dydw' i ddim yn bwriadu newid 'rŵan. Tyd â'r gadair siglo hefyd. Mae hi'n well cadair o lawar na hon'na sy gynnoch chi yn y gegin. O, a chofia am fy nghwpan mwstash i. Be' am y llestri gleision, Emily?"

"Ia, mi fasa'n biti i'r rheini fynd, a 'Mam druan yn meddwl. y byd ohonyn' nhw."

"I hanrhag briodas hi o'r Hafod. Yno yr oedd hi'n gweini."

"Nid y garthen goch a du gafodd hi o'r Hafod?

Mi glywis i hi'n deud . . . "

"Wel, ia, hogan, chdi sy'n iawn. Ia, y garthen ddaeth o'r Hafod. 'I Modryb Betsan roes y llestri iddi hi. Mi gei di'r garthen, Emily. A be' am y lliain bwrdd gora', hwnnw a'r lace arno fo?"

"O, mi liciwn i gael hwnnw, 'Nhad. Gwaith Modryb

Grace druan, ac os oedd rhywun yn medru croshio, Modryb Grace oedd honno . . . "

Felly y cynyddai rhestr y 'cadwedig', nes bod Tŷ Pella' yn hanner gwag cyn bore Sadwrn. Saith bunt a deuddeg swllt. oedd cyfanswm yr arian a gyfrifodd Dafydd ac Owen ar ddiwedd y dydd, er i ambell un fel Elias Thomas fynnu talu mwy na'r gofyn am y pethau a brynent hwy.

Er na ddywedai Dafydd ddim, gwyddai Owen fod ei frawd yn bryderus iawn ei feddwl. Gwaethygu ers rhai misoedd a wnaethai'r graig y gweithiai ef a George Hobley arni; cawsai fenthyg arian gan Richard Owen, Manchester House, tuag at dalu am anonestrwydd Enid; ac efallai y byddai gwaeledd Owen Gruffydd yn un hir a chostus. Ond amheuai Owen mai amdano ef a'i ddyfodol y pryderai Dafydd fwyaf, ac un hwyr yn nechrau'r flwyddyn, ar y ffordd o'r chwarel, pan ddigwyddodd rhywbeth am y Bala lithro i'r sgwrs,

"Dydw' i ddim yn meddwl yr a' i i'r Ysgol Ragbaratoawl, Dafydd," meddai.

"Y?"

"Mae'r cwrs yn cymryd tair blynadd, ac efalla' mai 'chydig o Sulia' gawn i, i ennill tipyn at fy nghadw yno."

"Pam hynny? Os pregethi di gystal yn fan'no ag wyt ti'n wneud yma..

"Un ydw' i yn Llan Feurig a'r cylch. Rhwng yr Ysgol a'r Coleg, mi faswn yn un o drigain ne' chwanag yn y Bala."

"Ac yn gystal pregethwr ag un ohonyn' nhw."

"Chdi sy'n dweud hynny, Dafydd. A hyd yn oed 'tai'r peth yn wir, nid y pregethwr gora' sy'n caely cyhoeddiada' amla', wsti."

"Be' . . . be' wyt ti'n feddwl 'i wneud, 'ta'?"

"Dal ymlaen yn y chwaral, debyg iawn. Mi fydda' i'n eistedd arholiad Ymgeiswyr am y Weinidogaeth ym mis Mai ac wedyn mi af i ati i 'studio ar gyfar cael fy nerbyn i'r Coleg."

"Tipyn o orchast fydd hynny, Now bach. 'Oes dim isio Groeg a Lladin a phetha' felly?"

"Oes, ond yr ydw' i'n siŵr y ca' i help Mr. Morris y gweinidog ne' rywun."

"Cei, debyg iawn, ond . . . Go daria'r hogan 'na!" "Pwy?"

"Enid. "Taswn i heb fod wedi gorfod benthyg yr arian 'na gan Richard Owen i dalu am 'i thricia' hi a'i Herbert, mi faswn yn mynnu dy gael di i'r Bala fis Medi nesa' . . . Wel, mi gawn ni weld sut y try petha' allan erbyn yr ha', yntê, 'r hen ddyn? Efalla' y bydd hi'n o lew arno' ni erbyn hynny."

"Efalla', Dafydd, ond . . ."

"Mae George a finna'n dechra' cael llechi breision eto, ac yr ydw' i'n disgwyl y gwnawn ni gyflog go lew y mis yma. O, mi ddown ni drwyddi'n iawn, 'gei di weld. Y peth pwysig ydi i ti ddal ymlaen i 'studio fel yr wyt ti, ond heb boeni dy ben am y dyfodol, yntê?"

"Ia . Be' sy wedi dwad ohoni hi, tybad?"

"Enid? Dyn a ŵyr. 'Fydd y deuddag punt 'na ddim yn para'n hir, ac wedyn . . . " Ysgydwodd Dafydd ei ben. "Mi fu Twm Jos yn siarad efo mi awr ginio hiddiw."

"O?"

""Roedd o ar ôl Enid byth a hefyd cyn iddi fynd i weini i Gaer Heli, ond 'wyddwn i ddim 'i fod o mor ffond ohoni, fachgan. 'Wyddost ti be' mae o am wneud Sadwrn Cyfri nesa'? Mynd i Lundain i chwilio amdani, dal y trên cynta' o Gaer Heli bora Sadwrn a cholli stem ddydd Llun."

"Ond 'fydd gynno fo ddim syniad ym mh'le i ddechra' . . . "

"Na fydd. Nid lle fel Llan Feurig ydi Llundain, Twm,' ddeudis i wrtho fo. 'Mae 'na rwbath yn deud wrtha' i 'i bod. hi mewn trwbwl yno, Dafydd,' medda' fo. 'Os ydi hi mewn trwbwl, Twm,' meddwn inna', 'mae hi'n siŵr o fynd i un o'r capeli Cymraeg, ac yr ydw' i wedi sgwennu at bob gweinidog." Ond mae o'n benderfynol o fynd . . . Hylô, Mary, chwaer Huw, ydi 'nacw, dywad?"

"Y . . . ia."

"Mae hi'n hogan fach ddel, ond ydi? Ac yn un o'r 'gennod clenia' yn y lle 'ma. Piti na faswn i rai blynyddoedd yn 'fengach, yntê? Ond dyna fo, siawns sâl fasa' gin' i efalla' ac amball hogyn tal, golygus, fel chdi o gwmpas."

"Efalla', wir, Dafydd."

Bu Owen Gruffydd yn gorwedd drwy'r rhan fwyaf o fis Ionawr, a chan fod tân yn ei lofft bob gyda'r nos, treuliai Owen lawer o amser yno uwch ei lyfrau ac yn gwrando ar ddoethineb a phrofiadau a chynghorion ei daid. A thrwy lawer o'r nost wedyn, gan na chysgai ef ond ychydig, a thrwy'r dydd dilynol, cnoai'r hen ŵr ei gil uwch sgwrs neu ddadl y noson gynt, a châi'r Ymgeisydd am y Weinidogaeth ffrwyth ei fyfyrdod pan âi i fyny'r grisiau ar ôl bwyta'i swper-chwarel. Yr Actau oedd y maes llafur, ac astudiai Owen y llyfr yn drwyadl a chydwybodol, a'i feddwl beunydd ar yr arholiad a oedd o'i flaen. Ond gallai Owen Gruffydd fforddio esgeuluso arholiad a chwestiynau pendant, a gadael i'w ddychymyg grwydro'n rhydd ac eofn.

"Sôn yr oeddan ni neithiwr, yntê? . . . " fyddai'i gyfarchiad fel rheol, cyn tywallt ei feddyliau mewn huodledd mawr er gwaethaf siars y Doctor i orffwys yn dawel. Pethau i'w torri oedd rheolau i Owen Gruffydd ac ni chymerai sylw o rybudd na cherydd neb. Ar gyngor ei fam a Dafydd, cadwodd Owen draw o'r llofft am ddwy noson yng nghanol y mis, ac uchel oedd protest y claf.

"Lle mae o?" gwaeddodd yr ail noson. "Be' ydw' i wedi'i wneud iddo fo?"

"Rydach chi'n siarad gormod pan mae Owen yma, 'Nhad, ac mae'r Doctor . . . "

"Siarad! Siarad! Y kidneys ddeudodd o, nid fy nhafod i."

"Ia, ond yr ydach chi i fod i swatio'n dawal a pheidio ag egseitio."

"Be' mae'r Doctor bach 'na yn feddwl ydw' i? Dol?"

"Mae Doctor Williams yn gwbod be' sy ora' i chi."

"Ne' ddyn mewn wax-works?"

"Rwan, 'Nhad."

"Ne'r dummy 'na sy yn ffenast'-ddillad Manchester House?"

"Mi geiff Owen ddŵad i ista' efo chi nos 'fory tra bydda' i a Dafydd yn y capal. Ond dim ond os byhafiwch chi heno."

"Ddeuda' i ddim gair arall o 'mhen. Ddim gair." Yswatiodd yn y dillad gan sorri. "Ddim gair.

'A fo doeth, efô a dau:
Annoeth ni reol enau.'

Ia, fel y tau dafad o flaen y rhai a'i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau.' Rhowch yr adnod yna ar garrag fy medd i."

"Rwan, 'Nhad." A dau lyfr dan ei fraich, aeth Owen i fyny i'r llofft y noson ganlynol, gan fwriadu eistedd yno i ddarllen yn dawel.

"Sut ydach chi'n teimlo heno, Taid?" " Sôn yr oeddan ni y noson o'r blaen, yntê? . . . "

"Mae gynnoch chi liw reit dda, wir."

" . . . cyn iti wrando ar orchymyn y Pharo bach 'na . . . "

"Rydw i'n dallt bod Doctor Williams yn bur hapus yn eich cylch chi pnawn 'ma"

" . . . am yr Apostol pan oedd o yn Rhufain. Mi fùm i'n edrach ar rai o'r esboniada' 'na . . . "

"Mi wyddoch be' ddeudodd y Doctor. 'Dydach chi ddim i roi'ch breichia' allan o'r dillad i ddarllan. 'Tai o'n gwbod . . . "

"Mi liciwn i wneud pregath amdano fo yn Rhufain, yn aros 'i brawf a dim yn digwydd. 'A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a'r oedd yn dyfod i mewn ato'—dyna'r testun. Pregath fach dawal, yn tynnu darlun yn lle athrawiaethu. Dim gweiddi, dim bloeddio, a'r gynulleidfa'n edrach yn hurt, yn methu credu mai Owen Meurig sy yn y pulpud. Mae'n debyg . . . "

"Rwan, 'dydach chi ddim i fod i siarad llawar, Taid. Yr ydw' i wedi cael ordors . . . "

"Mae'n debyg 'i fod o mewn oedran erbyn hynny, ac fel pob dyn mewn tipyn o oed, yn gadael i'w feddwl lithro'n ôl dros y blynyddoedd wrth sgwrsio efo'r rhai oedd yn galw i'w weld o. Dinas Tarsus, yn hogyn; Jerwsalem, yn ddyn ifanc; y ffordd i Ddamascus a'r weledigaeth fawr a newidiodd 'i fywyd a'i feddylia' fo i gyd—'roedd o'n 'u gweld nhw'n glir ac yn sôn yn amal amdanyn' nhw yn ystod y ddwy flynadd 'na yn Rhufain. Paul, Apostol Iesu Grist, yn edrach yn ôl ar Saul o Darsus, y dyn ifanc cefnog, dysgedig, balch a chreulon, ac yn ysgwyd 'i ben gan wenu'n drist wrth gofio cymaint o lanc oedd o cyn i'r goleuni o'r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, dywynnu ar 'i lwybyr o . . . "

"Rhaid i chi beidio â siarad chwanag, Taid. Ne' fi fydd yn 'i chael hi pan ddaw 'Mam a Dafydd adra'."

"Mi faswn i'n cael ymgom rhwng y ddau, yr ydw i'n meddwl."

"Pa ddau?"

"Paul a Saul, debyg iawn. 'Roedd yr hen bregethwyr yn hoff o roi ymgom felly mewn pregath. "Tawn i'n cael f'amsar drosodd eto, mi rown i fwy o le i'r hen Apostol yn fy mhregetha' er mwyn i bobol 'i weld o a sylweddoli mor fawr oedd o, mor rhyfeddol o ddewr i ddechra'. Paid â rhuo fel y gwnes i, Owen, 'machgan i . . . "

"Rydach chi'n siŵr o flino, Taid, a phan ddaw 'Mam yn ôl . . . "

"Mi fûm i'n taranu gormod yn erbyn pechoda'r hen fyd 'ma, wsti. 'Chydig o les wnaeth hynny, am wni. Rho ddarlun o'r Gwaredwr a'r Apostol iddyn' nhw, mor fyw ag y medri di, a gad i'r darlunia' siarad drostyn' 'u hunain. Mae sefyll yn y pulpud a lladd ar bobol a phechoda' fel y gwnawn i, wsti, yn

cymryd yn ganiataol fod gen' ti hawl i hynny, dy fod di yn sant a'r gwrandawyr yn dacla' pechadurus. Am wn i na fasa'r Arglwydd Iesu yn barod inni roi uwchben pob pulpud yr adnod, 'Pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad: ac wele blanc yn dy lygad dy hun?""

"Ond yr oedd Iesu Grist yn 'i rhoi hi i'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion, Taid."

"Oedd, o ran hynny fachgan, oedd," atebodd yr hwn ŵr gan sirioli, fel petai'n ymgysuro yn y ffaith. "Ac yn fendigedig o ffyrnig weithia'. 'O seirff, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?" medda' fo, yntê? Mi liciwn i fod yno, wrth y Deml, pan oedd o'n 'u fflangellu nhw â geiria'." Cododd ar ei eistedd yn y gwely a chau ei ddwrn ar dywyllwch y ffenestr gyferbyn ag ef. Yna daeth o hyd i rywbeth tebyg i'r daran o lais a'i gwnaethai'n enwog ym. mhulpudau Môn ac Arfon gynt. "Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr: canys yr ydych yn degymu y mintys a'r anis a'r cwmin . . ."

""Rwan, Taid."

". . . ac a adawsoch heibio y pethau trymach o'r gyfraith, BARN a THRUGAREDD a FFYDD." Cododd ei lais yn floedd ar y geiriau olaf, ond nid oedd ynddo'r nerth bellach; craciodd, a thawodd yr hen ŵr yn flinedig, a'r chwys yn berlau ar ei dalcen. Diolchai Owen nad oedd Tyddyn Cerrig ar fin y ffordd ac nad oedd gan ei daid y llais a fu iddo unwaith, neu fe ruthrai'r cymdogion i'w drysau wedi dychrynu am eu bywyd. Diolchai hefyd fod y llofft yng nghefn y tŷ a bod y ffenestr ynghau. Sychodd y chwys ymaith oddi ar wyneb y claf, rhoes iddo lymaid i'w yfed, ac yna eisteddodd wrth y tân i ddarllen. Ond daeth curo ar ddrws y tŷ, a brysiodd i lawr i'w ateb.

"Fi sy yma. Digwydd pasio hyd y ffordd 'na."

"O . . . O, dowch i mewn, Doctor."

"Rhwbath o'i le?"

"Wel . . . ym . . . na . . . Taid yn . . . yn . . . pregethu . . . " Ond yr oedd y Doctor hanner y ffordd i fyny'r grisiau cyn i Owen ddod o hyd i eiriau.

"Hm . . . m," meddai wrth deimlo pyls yr hen ŵr. "Ron i'n ofni 'i fod o'n cael ffitia': maen' nhw'n digwydd yn yr afiechyd sy arno fo. Ond 'sterics ydi hyn, 'sterics, strancia' a dim arall . . . Dangos dy dafod. Hm . . . m, un go fawr ydi hi, yntê? Rho hwn yn dy geg." A gwthiodd thermometer i enau'r claf. Gwelai Owen y gwrthryfel yn dân yn llygaid ei daid, ond â'r rhimyn gwydr dan ei dafod, ni allai Owen Gruffydd ond tewi.

"Os bydd o'n gweiddi eto, rho glustan iddo fo. Clustan iawn, wsti. Yr unig ffordd pan maen' nhw'n cael 'sterics."

Yna cymerodd y thermometer a brysiodd o'r llofft cyn i'r claf fedru yngan gair. Wedi iddynt gyrraedd y drws ffrynt, rhoes y Doctor bwniad chwareus yn ystlys Owen, ac yna i ffwrdd ag ef yn fân ac yn fuan i'r nos.

Cafodd Owen Gruffydd godi i'r llofft am dipyn bob dydd yr wythnos wedyn, a chyn diwedd y mis yr oedd yn ei gadair-siglo wrth dân y gegin bob prynhawn a phob hwyr. Yng nghysur a chwmnïaeth Tyddyn Cerrig, diolchai'r hen ŵr iddo adael Tŷ Pella' pan wnaethai, ac er bod ei ynni chwyrn yn dychwelyd ac yntau'n dyheu am gael ailddechrau pregethu, llithrai'r dyddiau heibio'n gyflym wrth iddo loffa yn ei lyfrau am eglurhad ar rai o'r cwestiynau a godai ym meddwl Owen. Yr Ysbryd Glân oedd y Pwnc yn yr arholiad, a newidiai'r cyfarchiad "Sôn yr oeddan ni neithiwr, yntê?" i "Mae John Owen yn 'i lyfr ar yr Ysbryd Glân yn bendant o'r farn . . . " neu "Yn ôl Hodge yn y 'Bannau', yr on i yn llygad fy lle neithiwr." Bron bob nos defnyddiai Emily Ellis y frawddeg, "Rhoswch i'r hogyn gael tamad, wir, 'Nhad."

Un gyda'r nos, pan gyrhaeddodd Dafydd ac Owen adref o'r chwarel, gwelent fod pryder ar wynebau'u mam a'u taid.

"Hylô," ebe Dafydd. "Ydach chi'ch dau wedi bod yn ffraeo ne' rwbath?"

"Rydw' i wedi bod yn ffraeo," atebodd Owen Gruffydd, "ond nid efo dy fam. 'Welist ti o ar y ffordd 'na?"

"Pwy?"

"Mi ddeudis i be' ydi be' wrtho fo. O, do. Dŵad i fa- 'ma efo'i golar ffwr a'i bren-mesur a'i hen Saesnag mawr."

"Am bwy yn y byd ydach chi'n siarad?"

"Mi ddangosis i'r drws iddo fo yn fuan iawn. 'Mistar noti n,' meddwn i. 'Only me here on my own head.""

"Dyn dros stad Meyricke, Dafydd," eglurodd y fam. "Mae o'n mynd o gwmpas y pentra' i weld y tai."

""Roedd o isio mynd drwy'r tŷ yma," meddai Owen Gruffydd, "ac mi fynnodd ddŵad i mewn i'r gegin. Ond mi gydiais i yn fy ffon. There's the door for you to go through him,' meddwn i wrtho fo. 'Roedd yn blesar'i weld o'n 'i heglu hi am 'i fywyd."

Ochneidiodd y fam, gan edrych yn bryderus ar Ddafydd. "Y lês yn dwad i ben ddiwadd Mawrth," meddai hi. "Ron i'n clywad yn y siop fod 'na bedwar o ddynion fel hwn'na hyd y pentra'."

"Hy!" ffrwydrodd Owen Gruffydd. "Yn dŵad i weld bod y tai'n deilwng i'r Meyricke 'na gymryd meddiant ohonyn' nhw."

"Ond dowch at y bwrdd, hogia'," meddai'r fam. "Mae o'n siŵr o alw eto, a mi liciwn'i glirio'r llestri cyn iddo fo ddŵad."

"Roeddach chi ar fai yn ymddwyn fel'na ato fo, Taid," ebe Dafydd. "Dydi'r dyn ddim ond yn gwneud 'i ddyletswydd."

"Waeth gin' i be' mae o'n wneud. 'Does ganddyn' nhw ddim hawl i yrru rhyw glamp o Sais fel'na i dai pobol. Nid pawb fedar 'i atab o yn Saesnag yr un fath â fi. Meddylia, mewn difri, am rywun fel Margiad Jones, mam yr Huw Jones bach 'na y mae Owen yn gweithio efo fo."

""Dydw' i ddim yn meddwl fod rhaid inni bryderu, 'Mam,"


meddai Dafydd. "Ar ôl gweld cyflwr y tŷ, maen' nhw'n siŵr o estyn y lês."

"Gobeithio, wir. 'Rydan ni wedi gwario llawar arno fo drwy'r blynyddoedd. Gwneud rhwbath i'r tŷ yr oedd dy dad druan bron bob pnawn Sadwrn—plastro tipyn yn y fan yma, rhoi coedyn yn y fan acw, taro llechan newydd ar y to, trwsio a pheintio byth a hefyd. Ac mi roth werth arian o betha' yn yr ardd 'na. Un felly hefyd oedd William Williams, oedd yma o'n blaen ni, yr hen greadur. Fo gododd y gegin fach a'r sied yn y cefn. O b'le 'r oedd o'n cael pres i hynny, dyn a ŵyr, a 'fynta'n ddim ond pwyswr yn y chwaral. Ac yr wyt titha', chwara' teg iti, wedi bod yn hynod ofalus o'r hen dŷ." Yr oedd Emily Ellis wrthi'n clirio'r bwrdd pan ddaeth curo ar y drws.

"Dyna fo," meddai Owen Gruffydd, a'i holl gorff yn tynhau.

"Rydw i'n 'nabod 'i hen gnoc o."

""Rwan, Taid," ebe Dafydd, "rhaid i chi gadw'n dawal y tro yma, cofiwch. Dos i atab y drws, Now bach."

Dyn ifanc tal, hardd yr olwg, a locsyn trwsiadus bob ochr i'w wyneb, oedd y dieithryn.

"I'm from the Meyricke Estate Office," meddai wrth Ddafydd wedi iddo ddod i mewn i'r gegin. "I take it you have no objection to my inspecting the property. I'll start with this room if you don't mind."

"Very good," ebe Dafydd.

Yr oedd gan y dyn nodlyfr bychan yn ei law, ac ar ôl cerdded o gwmpas y gegin gan guro ar y parwydydd ac yn arbennig ar bren eu godreon, codi'r ffendar, ac agor y drysau a'r ffenestr, ysgrifennodd amryw o nodiadau ynddo.

"I'm afraid you want a new cord in this window," meddai.

"And the skirting-board is a bit loose over there, isn't it? I suppose you know that the hearthstone is cracked? . . . But

I'll be sending you a list of the things that want attending to . . . "

"Be' mae o'n ddeud, Dafydd?" gofynnodd yr hen ŵr, gan wyro ymlaen yn ffyrnig.

"O, dim byd o bwys, Taid."

"Cracio? Be' sy wedi cracio?".

"Carrag yr aelwyd. Mae'n rhaid i'r dyn . . . "

"Mi fydd 'na grac mwy yn 'i benglog o mewn munud os nad eiff o o' 'ma. Estyn y ffon 'na imi, Emily." Cododd a rhythu'n wyllt ar y dieithryn, a'i wefusau'n crynu.

""Rwan, 'Nhad."

Ond nid oedd modd ei atal. Pwyntiodd â llaw grynedig at y dyn ac yna, a'i lais yn floedd a lanwai'r tŷ, "Gwrandewch y gair hwn, gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd, yn ysigo yr anghenog, yn dywedyd wrth eu meistriaid, Dygwch, ac yfwn..?"

Ond camodd Owen rhyngddo a'r Sais ac arweiniodd ei daid yn ôl i'w gadair.

"My grandfather is a bit upset," eglurodd Dafydd.

"Q . . . quite. Q . . . quite." Yr oedd ei wyneb fel y galchen, ond ceisiai wenu. "And now," meddai braidd yn frysiog, "c . . . could I t . . . trouble you for a c . . . candle to in . . . inspect the other rooms?"

Arhosodd Owen gyda'i fam a'i daid yn y gegin, a gwrandawai'r tri, ar bigau'r drain, ar bob symudiad mewn ystafell ar ôl ystafell. Pan aeth y dieithryn eilwaith drwy'r gegin ar ei ffordd allan, ni ddywedodd neb air wrtho, ac ni chymerodd yntau sylw ohonynt. Syllai Owen Grufiydd yn ffyrnig i'r tân, a safai'i ferch wrth ei ochr, a'i dwylo anesmwyth yn gwasgu'i barclod.

"Yes indeed, the house is in a good state of repair," meddai'r dyn cyn ffarwelio â Dafydd.

"Yes. Do you think . . . do you think they will . . . lengthen the lease?"

"I'm afraid we've decided against that. And exceptions are out of the question. Absolutely. Or we shall never know where to draw the line, shall we?"

Gwyliai Owen ei daid a'i fam, yr hen ŵr yn awr a'i ben i fyny mewn astudrwydd chwyrn, a hithau'n llonydd fel delw fynor. Clywent y geiriau cyflym, mursennaidd, ond nis deallent.

"Of course, the state of the house will be taken into consideration. And I shall certainly recommend that your rent be a . . . um . . . reasonable one."

Gwelai Owen ei fam a'i daid yn gwingo fel petai rhywun newydd glecian chwip uwch eu pennau gwyddent yn dda ystyr y gair "rhent."

Yna, yng nghanol Chwefror, daeth y tywydd caled.

"Diolchwch mai yn y tŷ wrth y tân yr oeddach chi heno, "Nhad," meddai Emily Ellis un nos Sul pan ddaeth hi adref o Siloam. "Ron i bron â rhynnu yn y capal 'na."

Bore drannoeth, cerddodd Dafydd ac Owen i'w gwaith yn wyneb rhewynt mileinig a chwipiai ddagrau o'u llygaid, ac uwch- ben, gorweddai caenen o eira ar gopa a chlogwyni'r Fron, gan gyrraedd i lawr hyd odreon tomennydd uchaf y chwarel.

Yn y bonc chwythai dynion i'w dwylo, curent a lapient eu breichiau am eu cyrff, a stampient eu traed mewn ymgais i gynhesu cyn dechrau gweithio.

"Be' wnawn ni, Lias Tomos?" gofynnodd Huw Jones.

"Swatio yn y wal, yntê? Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Naci'n wir, Huw," ebe'r hen flaenor. "Mynd i'r Twll tra medrwn ni."

"Ond . . ."

"Chydig o gerrig sy gynno' ni wrth gefn yn y wal. Ac os deil hi i chwipio rhewi fel hyn, mi fydd yr hen ddŵr 'na sy'n rhedag i lawr y fargen fel plancad trosti cyn hir, mae arna' i ofn. Na, mi awn ni'n tri i'r Twll a thrio saethu pnawn 'ma."

"Pnawn 'ma, Lias Tomos? Yr argian, 'fedrwn ni byth."

"Mi wnawn ein gora', Huw, mi wnawn ein gora'," meddai'i bartner yn dawel.

"Mynd i'r Twll mae Dafydd a George Hobley hefyd," ebe Owen, gan chwifio'i law ar y ddau fel yr aent heibio drwy'r bonc.

"Ac maen' nhw'n gwneud yn ddoeth, yr ydw' i'n meddwl.

'Dydw'i ddim yn licio'r cymyla' acw uwch y Clogwyn. Maen' nhw'n llawn eira."

""Fydda' ddim yn well i chi aros yn y wal, Lias Tomos?" awgrymodd Owen. "Mi fydd yn gnesach i chi yma nag yn y Twll."

"Na, mi fydda' i'n symud mwy yn y Twll, Owen. Ac mi fydd angan inni guro'n o ddyfal hiddiw."

"Y dwbwl-hand amdani, Lias Tomos, meddai Huw Jones, gan deimlo cyhyrau'i fraich.

"Ffeit, hogia'!" gwaeddodd Robin Ifans, a ddigwyddai basio ceg y wal, braidd yn hwyr i'w waith. "Huw Jones a Lias Tomos! . . . 'Ga'i ddal dy gôt di, Huw?"

I'r Twll â hwy, i dyllu yng ngwaelod y fargen. Curai Huw Jones ac Owen bob yn ail, â morthwyl "dwbwl-hand" bob un, a throai Elias Thomas yr ebill rhwng bob trawiad. Cymerai yntau forthwyl pan flinent hwy, troai un o'r lleill iddo ef, a châi'r trydydd orffwyso. Ond gan wybod bod troi i ddau yn waith a oedd bron mor galed â tharo, gofalai Owen fod yr hen flaenor yn cymryd "pum munud bach" yn weddol aml. Yr oedd ei egni'n rhyfeddol, meddyliodd, ond grym ewyllys oedd. dwy ran o dair ohono, ac wrth wrando ar ei anadl cyflym a'i frest wichlyd, gwyddai fod yr ymdrech yn fawr. Er hynny, doeth fu peidio â'i adael yn y wal yn eistedd drwy'r bore oer ar y blocyn-hollti neu wrth y drafael: buasai wedi rhynnu yno.

Erbyn canol dydd yr oedd y twll dros chwe throedfedd o ddyfnder, a throes y tri tua'r caban-bwyta gan deimlo'n bur fodlon ar eu llafur.

"Rhyw ddwy droedfadd eto, Lias Tomos," ebe Huw Jones. "Ne' dair, Huw. Mae'r graig yn dipyn meddalach 'rŵan, ond ydi?"

"Ydi. O, mi saethwn ni am dri wedi'r cwbwl. Gwnawn. O, gwnawn." A sgwariodd y dyn bach wrth nesu at y caban. Yno yr oedd y rhan fwyaf o ddynion y gwaliau yn ymwthio at y tân i gynhesu, ac wrth weld eu hwynebau llwydlas. diolchai'r tri thyllwr mai i ymlafnio ar y graig yr aethent hwy. Ni synnent glywed i Ifan Ifans a dau arall o'r gweithwyr hynaf droi adref yng nghanol y bore.

"Nefoedd, mewn pwll glo y liciwn i weithio, hogia'," meddai Robin Ifans, gan dynnu'i glocsiau i dwymo'i draed. "Mae 'na bwll dyfnach na phwll glo yn d'aros di, Robin," oedd barn Huw Jones mewn fflach sydyn, annisgwyl. Ond ni chwarddodd neb, dim ond syllu'n geg-agored arno: prin y credent mai o'i enau ef y daethai'r geiriau.

"Rhaid imi roi hyn'na i lawr yn fy llyfr," ebe Robin ym mhen ennyd. "Mae gin' i lyfr ar gyfar dywediada' mawr y chwaral, a 'does 'na affliw o ddim gan Huw Jones ynddo fo." Saethwyd am dri o'r gloch, a phan ddychwelodd y tri o'r caban-ymochel, yr oedd cynhaeaf da o blygion ar lawr y fargen. "Rhaid inni gael slediad o gerrig i'r wal cyn mynd adra"," meddai Elias Thomas, gan ddechrau cafnu'r plyg uchaf i'w dorri'n bileri hwylus ar gyfer y wagen. Nid oedd hynny'n hawdd, a'r rhew wedi sychu a chrebachu'r graig, ond yr oedd yr hen flaenor yn chwarelwr medrus, ac ymhell cyn caniad, gwthiai Owen a Huw Jones yslediad trwm o glytiau o'r Twll i'w trin drannoeth yn y wal.

Ar y ffordd tuag adref, sylwodd Owen mai araf oedd camau Elias Thomas, fel petai'r hen wr wedi ymlâdd yn llwyr. Ond er hynny, yr oedd ar ei liniau yn y Sêt Fawr y noson honno, a'i lais mwyn, tawel, yn diolch i Dduw am Ei ofal tyner a thadol dros blant dynion ym mhob man. Pan ddaethant allan o'r Cyfarfod Gweddi, yr oedd cawod drom o eira'n chwyrlio ar flaen y gwynt.

Syrthiodd yr eira drwy'r nos, ac araf fu'r daith drwy'r pentref ac i fyny'r Lôn Serth y bore wedyn. Codasai'r rhewynt eto, ac yr oedd wyneb yr eira'n crensian dan draed.

"Gobeithio bod yr hen Lias wedi aros gartra' hiddiw," meddai Owen wrth Huw Jones a Dafydd pan orffwysent ennyd yng nghysgod craig fechan hanner y ffordd i fyny'r llwybr.

"Dim peryg'!" ebe Huw Jones. "Mi ddôi'r hen frawd ar 'i ddwy ffon petai raid. Dacw fo ar y gwaelod."

Yn y bonc, a'r eira i fyny tros olwynion y gwagenni, gwyddent ar unwaith mai yn eu gwaliau y byddent y diwrnod hwnnw. Hyd yn oed pe treulient oriau—heb ddimai goch yn dâl am eu llafur—i rawio'r eira oddi ar lawr eu bargeinion, ni fyddent fymryn callach, a'r rheiliau o'r Twll i'r bonc wedi'u cuddio'n lân.

Chwibanai'r rhewynt drwy'r bonc, gan gipio nodwyddau'r lluwch rhewedig oddi ar lawr a mur a tho a'u hyrddio'n ffyrnig i'w hwynebau. Yr oeddynt yn falch o gyrraedd gwal Dafydd a George Hobley a throi iddi am loches.

"Hen fabi, yntê, Now?" meddai George Hobley, gan nodio at Huw Jones.

"Pam, George?"

"Yn crio fel'na. Isio'i fam, wsti." Ond yr oedd y dagrau'n llawn gwaeth ar ei ruddiau yntau.

"Dim ond y clytia' yma sy gynnoch chi, Dafydd?" gofynnodd. Owen i'w frawd, gan edrych ar y cerrig yn y wal.

"Ia, fachgan. 'Roedd George a finna' am saethu bora 'ma."

"Damia," meddai George Hobley, gan ei anghofio 'i hun am ennyd yng ngŵydd y "prygethwr". "Mi gawn ni fynd adra'n gynnar, was. Ac mae Fflorri'r Crown yn un dda drybeilig am danllwyth."

"Cawn, mi gawn fynd adra'n gynnar," ebe Dafydd, braidd yn sur. "A phumpunt yn ein pocad am fynd." "O, yr hen gownt, y llechan tan ddiwadd y mis," atebodd George, gan gofio am y llechen a hongiai tu ôl i far y Crown. "Mi fydd hi'n o dena' arno' ni ddiwadd y mis hefyd os pery'r eira 'ma," meddai Dafydd yn llwm. "Ac mae arna' i ofn . . . " "Tyt. Sut yr oedd yr adnod honno'n mynd ers talwm, Now? 'Digon i'r diwrnod 'i ddrwg 'i hun,' yntê? Ac os ydi'r Beibil yn deud hynny . . . "

"Tyd, Owen, tyd," meddai Huw Jones, gan gychwyn ymaith.

Cyrhaeddodd Elias Thomas cyn hir, ac wedi iddynt guro'u breichiau am eu cyrff i gynhesu, dechreuodd y tri chwarelwr ar eu gwaith. A hwythau ar eu heistedd, heb symud fawr, ac wyneb eang y wal yn agored i'r tywydd, yr oedd eu traed bron â fferru cyn pen hanner awr. Gwelai Owen y cŷn yn llithro weithiau o law Elias Thomas, a'r hen flaenor yn ailgydio ynddo mor ddisylw ag y gallai, heb ddywedyd gair. Ond Huw Jones oedd y cyntaf i godi.

"Yr argian, mae hi'n annioddefol hiddiw, ond ydi?" meddai, gan wasgu'i ddwylo dan ei geseiliau a dawnsio o gwmpas congl y wal. "Y diwrnod oera' ers oesoedd. Ne' ydw' i'n gofio, beth bynnag. 'Dydach chi ddim bron â rhewi, deudwch, Lias Thomas?"

"Ydw', wir, fachgan. Ac mae'r clytia' 'ma'n anodd 'u trin, yn rhyw fan blicio fel ar dywydd poeth."

"Wedi'u sychu gan y rhew, wchi."

"Ia, ac yn 'cau'n glir â hollti'n deg. Dyna ti'r clwt dwytha' 'na holltis i. Mi ddylai hwn'na ildio pum crawan, chwech efalla', i'r fodfadd. Ond dim ond tair ges i bob tro, ac mi fùm i'n ffodus i gael cymaint â hynny o'i groen o. Mae'r cerrig gora' yn sâl hiddiw, ac am y rhai gwael, mae'r rheini'n . . . " "Ddigon gwael i rywun fod ar 'i draed y nos efo nhw, chwadal Robin Ifans."

"Ydyn', fachgan. Neu, fel y clywis i un hen frawd yn deud, 'fel bara ceirch.' Go anodd fydd gwneud cyflog y mis yma, mae arna' i ofn. 'Wn i ddim pryd y cawn ni fynd i fras-hollti'r plygion eraill a dŵad â'r cerrig o'r Twll." Llithrodd y cŷn eto i'r llawr, a chaeodd ac agorodd yr hen ŵr ei law chwith yn gyflym droeon. "Mae'r cŷn 'na fel petai o'n serio 'nghnawd i un funud, a'r eiliad nesa' 'dydi o ddim yn fy llaw i." Cododd oddi ar ei flocyn. "Mi a' i at dân y caban am funud i roi clwt neu ddau ar fy llaw. Gobeithio bod rhywun wedi cynna' siwin o dân yno, yntê?"

""Oes gynnoch chi gŵyr crydd?"

"Oes, tamad yn fy mhocad, diolch, Huw. Mae'r hen sgorion 'ma'n boenus iawn hiddiw."

"Mi ddyla'r hen Lias roi'r gora' i'r chwaral, wsti," meddai Huw Jones wedi iddo fynd. "Does 'na ddim synnwyr yn y peth, Owen. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag."

"Ond mae'n rhaid i rywun fyw, Huw Jones, a . . .

"Oes, o ran hynny, ond oes?"

"A hyd nes daw blwydd-dâl i'r hen weithwyr . . ."

"Ia, hyd nes daw . . . y . . . hwnnw, Owen . . . Ia. Ia, 'nen' Tad. Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag." A phoerodd Huw Jones yn gall i'r domen rwbel cyn eistedd eto wrth ei drafael.

"Mae 'na rai o'r gwleidyddwyr 'ma'n dechra' sôn am hynny, medda Taid."

"Hen bryd iddyn' nhw hefyd."

"Un ohonyn' nhw'n awgrymu chweugian yr wsnos."

"Y?"

"Chweugian yr wsnos."

"I bwy?"

"I'r hen weithwyr."

"Am be'?"

"Wel, am . . . am 'u bod nhw'n hen."

"Am ddim?"

"Ia, at 'u cynnal."

"Chweugian yr wsnos am ddim?"

"Ia."

Bu orig o ddistawrwydd syn, a'r dyn bach yn amheus iawn ei feddwl ac yn craffu ar wyneb Owen rhag ofn bod pefriad yn ei lygaid.

"I hen hen hen withiwrs, efalla'," meddai ymhen ennyd. "Tros 'u pedwar ugian, wsti."

"Naci, tros bump a thrigian oedd o'n awgrymu, yn ôl Taid."

"Mae'r hen ŵr, dy daid, wedi bod yn tynnu dy goes di, fachgan," meddai Huw Jones, gan chwerthin yn ei ddwrn. "Un ar y naw ydi Owen Gruffydd . . . Brenin mawr, mae'r rhew 'ma'n gafal ym mhob asgwrn mewn dyn, ond ydi?"

Yr oedd wyneb yr hen Elias Thomas yn welwlas pan ddychwelodd yn nannedd y rhewynt a'r lluwch i gysgod oer y wal. Ond cydiodd ar unwaith yn ei forthwyl a'i gŷn ac aeth ati i hollti. Gwisgai ddarn o ledr, rhan o hen esgid wedi'i thorri ar ffurf maneg a thyllau ynddi ar gyfer y bys cyntaf a'r bys bach, ar gledr ei law chwith.

"Mi ges fenthyg hon gan Benja Williams," meddai. "Mae o'n mynd adra'. Dim cerrig."

""Oes 'na rywun wedi mentro cyn bellad â'r Twll, Lias Tomos?" gofynnodd Huw Jones iddo.

"Oes, Benja Williams yn un. Y rhew yn loyw ar wynab y graig, medda' fo, a phibella' hirion, trwchus, yn hongian o'r top. Y lluwch yn doman yn erbyn bargeinion y pen yma, a'n un ni yn 'u plith nhw."

Araf y treiglai'r amser heibio yn yr oerni: araf hefyd ac ysbeidiol oedd y gwaith a wnâi'r dwylo anystwyth. Teimlai Owen cyn hir fod blaenau bysedd a bawd ei law chwith, a ddaliai'r grawen ar y drafael, yn gig noeth i gyd, ac yr oedd yn falch o weld Huw Jones yn codi ac o'i glywed yn awgrymu "panad ddeg."

"Ia'n wir, Huw Jones," meddai. "Dowch, Lias Tomos." "O'r gora', Owen. Ond 'wn i ddim ym mh'le y cawn ni ddŵr."

"Pam?"

"Mae'r pistyll wrth y caban wedi rhewi'n solat, fachgan." "O wel, mi eiff Owen a finna' i'r ffrwd ar gwr y coed," ebe Huw Jones. "Mae honno'n siŵr o fod yn rhedag." Ond erbyn iddynt gyrraedd y caban, cludasai dau arall ddŵr o'r ffrwd, a safai un ohonynt, a lithrasai a syrthio i'r eira, wrth yr ystôf yn ceisio sychu'i ddillad. Codai cwmwl o ager ohono fel mwg.

"Hei, mae Twm Bach yn mynd ar dân," gwaeddodd Robin Ifans wrth ddyfod i mewn i'r caban. "Pwcedaid o ddŵr am 'i ben o ar unwaith, hogia'." Ond yr oedd Twm Bach a phawb arall yn rhy rynllyd i fwynhau direidi, ac amryw ohonynt yn rhy ddigalon hefyd, gan mai yfed cwpanaid cyn troi adref i segura'n anniddig yr oeddynt. Daeth Dafydd at Owen.

"Wel'di, Now bach, dim ond gwaith tan ganol dydd sy gan George a finna'. Gad imi gymryd dy le di efo Huw Jones a Lias Tomos pnawn 'ma."

"Yr argian, i be'?"

"Iti gael mynd adra' i 'studio, debyg iawn."

"Na chei, wir, Dafydd. Mi faswn i'n teimlo'n un go salw 'tawn i'n gadael iti wneud hynny."

"Ond gwranda . . ."

"A llawar o'studio wnawn i wedyn, yntê?"

"'Wela' i mo George a finna'n medru saethu 'fory chwaith. Na thrennydd efalla'. Mae'n well i ti fod gartra'n 'studio na 'mod i yno'n piltran."

"'Wneiff diwrnod ne' ddau o orffwys ddim drwg iti, Dafydd. Ac mae gin' ti isio paratoi'r papur hwnnw ar gyfar y Gymdeithas, ond oes?"

"Oes, ond ..."

"Efalla' mai gartra' y byddwn ni i gyd 'fory. Mae'r awyr uwchben y Clogwyn yn llawn eira, medda Lias Tomos, a phan dymherith hi dipyn, i lawr y daw o. Na'n wir, Dafydd, 'chei di ddim gweithio yn fy lle i. Fe gâi'r arholiad 'ma fynd i'w grogi cyn i hynny ddigwydd."

Tawelodd y gwynt a lliniarodd yr hin yn ystod y prynhawn, a disgynnai plu cyntaf yr eira fel y troai'r chwarelwyr tuag adref am bedwar o'r gloch. Bu'n bwrw eira'n ddi-baid drwy'r hwyr hwnnw a thrwy gydol y nos, a phan gododd Dafydd ac Owen bore drannoeth, gwelent ar unwaith nad oedd gobaith i neb fynd. ar gyfyl y chwarel.

"Wel, mi gei gyfle iawn i 'studio hiddiw, 'r hen ddyn," ebe Dafydd. "Mi a' inna' ati i glirio'r eira o gwmpas y tŷ ac i agor llwybyr i'r ffordd. Mi wneiff 'Mam dân yn y siambar iti, yr ydw i'n siŵr. Paid â dechra' stwnsian efo Taid 'rŵan, pan fydd o wedi codi."

"Yn 'i wely y dyla' fo aros hiddiw, Dafydd."

"Ia, ond os awgryma rhywun hynny iddo fo, mi fydd i lawr y grisia' 'na ar wib."

Diwrnod cyfan, di-fwlch, efo'i lyfrau! Meddyliai Owen yn aml mai mawr oedd braint llanciau mewn ysgol a choleg, yn medru rhoi'u holl amser i ddarllen ac astudio yn lle gorfod cipio awr neu ddwy gyda'r nos, yna llosgi'r lamp yn hwyr, a chodi wedyn ymhell cyn y wawr. Wedi iddo orffen ei frecwast, cludodd ei lyfrau i'r "siambar," lle'r oedd ei fam, ar awgrym Dafydd, wrthi'n cynnau tân. Gan fod gwely yn yr ystafell of hyd—ar gyfer Enid, lle bynnag yr oedd hi, neu ar gyfer Elin a John pe digwyddent hwy ddod i Lan Feurig am dro—cyfyng oedd y lle ynddi. Tynnodd Owen gadair at y tân a thrawodd rai o'i lyfrau ar y llawr wrth ei hochr.

"Ydi Dafydd wedi sôn rhwbath wrthat ti?" gofynnodd ei fam iddo.

"Am be', 'Mam?"

"Mae o i'w weld yn drwblus iawn 'i feddwl. Yr arian 'na ddygodd Enid—os daru hi, hefyd—afiechyd dy daid, talu rhent o'n blaen ni, a 'rŵan, dim gwaith—mi eiff petha'n gyfyng arno' ni fel hyn, mae arna' i ofn. Gobeithio'r annwyl na phery'r tywydd 'ma ddim yn hir, yntê?... Dyna chdi, mi ddaw y tân, ond cofia roi peth arno fo'n o fuan. Rhaid imi fynd i godi Myrddin; 'rydw' i wedi'i alw fo ers meitin, y cena' bach."

Gan gofio mor ddrud oedd y glo, gadawodd Owen i'r tân ddiffodd, a chyn hir cludodd ei lyfrau'n ôl i'r gegin.

"Fedra' i ddim gweithio yn yr hen siambar 'na," meddai wrth ei fam. "Mae'n rhaid imi gael bwrdd i sgwennu." Diwrnod cyfan, di-fwlch, efo'i lyfrau! Aeth y diwrnod yn ddyddiau, yn wythnos, yn bythefnos, yn dair wythnos. Y tywydd oeraf ers pymtheng mlynedd ar hugain, meddai'r Faner, gan adrodd hanesion am bymtheg troedfedd o eira wrth ryw eglwys yng ngogledd Lloegr, am ddynion yn cerdded tros Afon Tafwys ger Pont Llundain, am bentrefi diarffordd yn newynu, am golledion tyddynwyr a bugeiliaid y mynydd-dir. Yn Nhyddyn Cerrig, darfu'r glo yng nghanol yr ail wythnos, a llosgid darnau o goed wedyn—yr ychydig flociau a oedd ar ôl yn y cwt, y ddau blanc y safai'r mangl arnynt, hen gadair ddi-gefn o'r gegin fach, hanner uchaf y pren afalau, y brigau a dorrai Dafydd ac Owen yn fore fore—cyn i Jones y Plisman godi—yng Nghoed-y-Brain, ac ambell focs a ddygai Myrddin o'r siop. Rhaid oedd toddi eira i gael dŵr, a chan na theithiai na brêc na throl o Gaer Heli, aeth y bwyd yn Llan Feurig yn brin hyd yn oed i'r rhai â modd ganddynt. Ond nid oedd modd gan deulu Tyddyn Cerrig, a chynlluniai a dyfeisiai Emily Ellis ar gyfer pryd ar ôl pryd, gan syllu'n ddig ar yr eira tu allan wrth orfod cymysgu tatws wedi'u berwi â'r blawd pan bobai fara, neu roi dim ond esgyrn yn lle cig yn y labscows.

Ac yntau'n mynd allan yn anfynych iawn ac yn methu â theithio ymaith i bregethu, gwnâi Owen tuag wyth awr o waith bron bob dydd, a chyn pen tair wythnos yr oedd yr Actau a llyfr John Owen ar yr Ysbryd Glân ar flaenau'i fysedd. Ond â phryder yn caylu'i feddwl y gweithiai, a chodai'i ben o'i lyfrau'n aml i edrych yn llwm tua'r chwarel. Teimlai'n ddig wrth ei daid, ar y dyddiau pan godai ef, am hel straeon am dywydd caletach filwaith pan oedd o'n hogyn, wrth Fyrddin am weiddi cymaint wrth sôn am y sglefrio ar Afon Feurig, wrth Ddafydd am gymryd arno bod mor ddifater, a hyd yn oed wrth ei fam am bryderu byth a hefyd am fwyd a thân a beth fyddai'r rhent ac ym mh'le'r oedd Enid a myrdd o bethau eraill. Yr oedd y segurdod anorfod—heb bregethu, heb wasanaeth yn y capel ond ar y Sul, heb weld Mary—yn dweud arno, a dyheai'i ddwylo am gydio eto mewn crawen a chyllell—naddu. Nid oedd y diwrnod cyfan, di-fwlch, mor felys fel ffaith ag ydoedd mewn dychymyg.

Dim ond ef a'i fam a oedd yn y gegin un nos Sadwrn, hi'n gweu crafat ac yntau'n darllen yn anniddig.

"I bwy mae'r crafat 'na, 'Mam?"

"I ti. Y gwlân llwyd hwnnw yrrodd Elin imi. Ond 'chei di mo'i wisgo fo tan yr hydref. Na'r 'sana' orffennis i nos Iau."

"Tan yr hydref?"

"I fynd i'r Bala, debyg iawn. Rhaid inni ddechra' hel petha' at 'i gilydd, on' rhaid?"

"Pwy sy'n deud fy mod i'n mynd i'r Bala yn yr hydref?"

"Be' wyt ti'n feddwl ?"

"Dafydd, mae'n debyg?"

"Wel, yr ydan ni i gyd..."

"Yn gwneud camgymeriad 'ta'."

Cododd a chymryd ei gôt fawr oddi ar fachyn tu ôl i'r drws.

"I b'le'r wyt ti'n mynd?"

"I 'Fryn Myfyr', i gael gair efo Mr. Morris y gweinidog. Mae arna' i isio benthyg rhai llyfra' gynno fo."

"Dwyt ti ddim am wneud dim byrbwyll, 'wyt ti?. . .

'Wyt ti, Owen? Aros nes daw Dafydd i mewn, wir. Dyna fo wrth y drws."

"Dafydd, Dafydd byth a hefyd."

Clywent ei sŵn yn curo'r eira oddi ar ei esgidiau tu allan ac yna'r drws cefn yn agor a chau. Pan ddaeth i mewn i'r gegin, gwelai Dafydd ar unwaith fod rhywbeth yn bod.

"Hylô, Now bach, mynd allan?"

"Ia, i 'Fryn Myfyr'. 'Rydw' i am ddechra' ar Ladin a Groeg os ca' i fenthyg llyfra' gan Mr. Morris."

"Dydi o ddim am fynd i'r Bala, medda fo," ebe'r fam yn bryderus.

"O?" Sylwodd Dafydd ar yr olwg herfeiddiol yn llygaid Owen, ond gwyddai mai yn erbyn symbylau tlodi a rheidrwydd y gwingai mewn gwirionedd. "Ac mae o'n gwneud yn iawn, 'Mam."

"Yn . . . yn iawn?"

"'Ydach chi ddim wedi 'i weld o'n gweithio efo'i lyfra' ers pan ydan ni gartra'n segur?"

"Do, ond . . ."

"Mi gân' nhw gadw'u Hysgol Ragbaratoawl, on' chân' nhw, Now bach? Mi wnawn ni o'r gora' hebddi, efo tipyn of amynedd a bwyd llwy... O, gwylia dy hegla' wrth fynd i lawr yr allt 'na, was. 'Dydan ni ddim isio pregethwr coes-bren. yn y teulu, nac oes, 'Mam?"