Y Deildy
gan Dafydd ap Gwilym
- Heirdd feirdd, f’eurddyn diledryw,
- Hawddamor, hoen goror gwiw,
- I fun lwys a’m cynhwysai
- Mewn bedw a chyll, mentyll Mai,
- Llathr daerfalch wuch llethr derfyn
- Lle da i hoffi lliw dyn,
- Gwir ddodrefn o’r gaer ddidryf,
- Gwell yw ystafell os tyf.
- O daw meinwar fy nghariad
- I dŷ dail a wnaeth Duw Dad,
- Dyhuddiant fydd y gwŷdd gwiw,
- Dihuddygl o dŷ heddiw.
- Nid gwaith gormodd dan gronglwyd,
- Nid gwaeth deiliadaeth Duw lwyd.
- Unair wyf i â’m cyfoed,
- Yno y cawn yn y coed
- Clywed siarad gan adar,
- Clerwyr coed, claerwawr a’u câr,
- Cywyddau, gweau gwiail,
- Cywion priodolion dail,
- Cenedl â dychwedl dichwerw,
- Cywion cerddorion caer dderw.
- Dewi yn hy a’i dawnha,
- Dwylo Mai a’i hadeila,
- A’i linyn yw’r gog lonydd,
- A’i yagwir y woes gwŷdd,
- A’i dywydd yw hirddydd haf,
- A’i ais yw goglais gwiwglaf,
- Ac allor serch yw’r gelli
- Yn gall, a’i fwyall wyf fi.
- Ni chaf yn nechrau blwyddyn
- Yn hwy y tŷ no hyd hyn.
- Pell i’m bryd roddi gobrau
- I wrach o hen gilfach gau,
- Ni cheisiaf, adroddaf drais,
- Wrth adail a wrthodais.