Y Ffeiriau Hynotaf yn Ddeuddeg Sir Cymru

Y Ffeiriau Hynotaf yn Ddeuddeg Sir Cymru

gan Owen Davies Thomas (Owain Cyfelach), Pontarddulais

Y FFEIRIAU HYNOTAF

YN DDEUDDEG SIR CYMRU;[1]

Yn cynnwys hysbysiad o'r dyddiau a'u cedwir: y pethau goreu yn mhob un o honynt: merched yn mhob Sir:
a pha le mae'r ceffylau, gwartheg, defaid, gwlanenni, a brethynoedd goreu i'w cael.
—Cenir ar y dôn "Dolau Gwerddon."—Pris Ceiniog.

Gawrandewch yn bwyllog oll heb ballu,
Cewch glywed " Ddyddiau Ffeiriau Cymru;"
Rhyw awch alar y rhai â chwaled,
"Briwiau Gwyliau yr Hen Frytaniaid,"

Canaf yma am hynotta Ffeiriau yn hen leoedd Gwalia;
Y merched glanaf, glenydd, gweithoedd,
Sydd i'w canfod yn ein Siroedd,

Mia glywais fod yr amcan
Droi ein " Ffeiriau" yn hollol wyrgam;
Duw'n gwaredo rhag penboethder
Droi " Gwyl Ddewi" yn "Wyl Mercher,"

Mae er Ddewi dda mae'n hysbys,
Yr hwn oedd Batrwn Saint ein. Ynys,
Ddeuddeg cant o flynyddoedd hirion,
Cyn dyfodiad neb amheuon,

Os daw gofyn pwy a'i canodd,
Dyn yn fanol'a drafaeliodd,
Yn rhoi o arwydd ar ei eiriau
Y gwir heb goll yn oreu y gallai.
—D.T., (Owain Cyfelach.)


SIR FON.
Yn Sir Fon mae Ffair Beaumaris
Ar drydydd-ar-ddeg o Chwefror ddengys;
Ceffylau teg—rhan fwyaf wynion,
Defaid lawer—rhai yn llwydion.

Gwaith y merched fwya' o'r flwyddyn
Yw parattoi yr yd a'r enllyn;
Rhai gwlanenni maent yn nyddu
I gynnesu eu gwyr y Cymry.


CAERNARFON.
Y nesa i hon mae Ffair Gaernarfon,
Ar bedwerydd o Fawrth greulon;
Gyrfa fawr o bob 'nifeiliaid,—
Ceffylau, gwartheg, geifr, defaid.

Y merched hyn sydd rhyfedd wynedd,
Llygaid llon, llawn gwir amynedd;
Yfant "enwyn" lawer oddeutu
Yr Wyddfa, mynydd uwcha' Cymru.

SIR FEIRIONYDD.
Yn Swydd Feirionydd, hardd-deg fryniau,
Y goreu ffair sydd dre' Dolgellau;
Mewn caws a ymenyn os gwnewch ennill,
Treiwch unfed-ar-hugain Ebrill.

Oddeutu'r Arran ar Ardidwy
Mae'r defaid cigog brasa' Nghymru.
Bara ceirch sydd yn mhob annedd,
Caws, ymenyn, llaeth ddigonedd.

Pobl fywiog, ddigon llawen,
Merched lleiaf a'u cenfigen;
Y gwyr am ddarllen ac am ganu,
Y Cymreigyddion goreu yn Nghymru.

SIR. DDINBYCH.
Tref Ddinbych yw'r bedwerydd,
Canaf am ei ffeiriau beunydd;
Pob dydd Mawrth pob mis arferodd,
Hon ei chadw er Hen Oesoedd.

Mae'r amla" ddynion, goreu eu doniau,
Heb lwon geirwon ar eu geiriau;
Gwneud gweuoedd culion geirwon gwlanog
O lan Rhaiadr i Lyn Ceiriog.

SIR FLINT
Tref y Flint sydd nesa' o'r cyfan
I allu byw ar stock ei hunan;
A'i Ffair a gynhelir heb un mwstwr
Ar y nawfed dydd o Chwefror.

Er bod y gwenith goreu yma,
Bara Myncorn haidd sydd amla';
Ymenyn, llaeth, sydd yn helaetha',
A phrinder caws sydd yno fwya".

Pobl weddol, ddeddfol ddiddig,
Mwynwych odiaeth, tyngu ychydig;
Nid yw'r merched hyn trwy'r flwyddyn
Yn nyddu fawr wlanenni a brethyn.

SIR DREFALDWYN.
Tref Drefaldwyn a'i theg fwynderau,
Ynghylch coed a thiroedd goreu,
Yr eilfed ddydd-ar-hugain Hydref,
Fair a'r Lun a Sadwrn mawredd.

Cwmpas Dyfi a Chedewyn
Dau le hyfryd dolydd Hafren;
O Llanidloes i Fachynlleth
Defaid lawer, gweuoedd odiaeth.

Pobl lân, foneddig hefyd,
Nemawr un yn tyngu'n ynfyd,
Yn myn'd i'r Llanau'n aml lawnion,
Heb fawr awydd dynu'n groesion.
 
RADNOR.
Tref Faesyfed yw'r un nesa',
Y pedwerydd-ar-ddeg Awst amla';
Seisnigaidd iawn yw'r bobl hwythau,
A digon mwynion yn mhob mannau.
 
Rhan o waith y merched cywrain
Yw nyddu peth er rhaid eu hunain;
Trin y gwlân i fyn'd i'r farchnad,
A gwau hosanau oddeutu Rhaiad,

SIR FRECHEINIOG.
Wrth ochr hon mae Tref Frecheiniog
Sydd a'i ffair yn hwylus hynod;
Yn Aberhonddu y cyntaf Fercher,
Ar ol Gwyl Ddewi y mae eu harfer,

Gwna'r merched hyn yn gofus gyfan
Bob gwaith ty i mewn ac allan;
Gwau hosannau trwy'r holl flwyddyn
O Llanfair i Abergwesyn,

SIR ABERTEIFI.
Nesa' 'nawr Tref Aberteifi,
A'i ffair ar bummed Ebrill heini';
Gwau hosanau'r haf mae'r merched rheini
At ffair Rhôs gan lawer hyswi.


SIR BEMFRO.
Mae Tref Bemfro nesaf i hyny,
O foch ac yd y llawna' yn Nghymru;
Yr eilfed Iau o Ebrill wlawiog
Maent :yn cadw hon yn ddewrog.

CAERFYRDDIN,
Tref Gaerfyrddyn nesaf i hyny,
Henaf ffair: yw hon yn Nghymru;
Awst y ddeuddegfed ei pennodir,
A thrwy gwledydd a'i canmolir,

Gwaith y merched hyn yn union,
'Nyddiau têg, gwlanneni breision,
Ac yn eu blaen yn:gwau'r hosanau
O Gaio hyd Gilcwm yn Myddfai.

SIR FORGANWG.
Nesaf i hon mae Glan Forganwg,
A'r tai o galch yn wynion amlwg;
Yn Llangyfelach tyrfa aml
Ar Wyl Ddewi sydd ymgynnal.

Mi a glywais echdoe'r borêu
Pan yn myned trwy'y.pentre'
Fod rhyw son a bod rhyw drydar
I'w chyfnewid 'nawr ar wasgar,

Altro'r dydd, ac altro'r gwyliau
A sefydlwyd gynt mor foreu,
Gan St, Dewi y chweched ganrif,
Byddai gwaith penboethder dirhif.

Gochel fostio'n fynych, fynych
Y gweithredoedd goreu wnelych,
Rhag cael dannod. iti Rhydost
Y gweithredoedd gwnaetha' wnaethost.

Troi ein ffair, ansefydlu teulu ac
Yw'r pechodau gwaethaf wneli
Ond y weithred gyda'r bryntaf
Yw troi hen Sant O'i Wyl-nos cyntaf.

Llangyfelach lan tra fyddi.
Cynnal ffair ar Wyl St. Ddewi;
Cenwch, bobl, wrth eich pleser.
Lon Llangyfelach fel eich arfer.

—P. D.T, a'i cânt, ( Owain Cyfelach.)





Morris a Watkins, Argraffwyr, Stamp-Office, Abertawy.

Nodiadau

golygu
  1. Cyn adrefnu llywodraeth leol, 1974 bu 13 sir yng Nghymru, ond bu amwysedd a dadlau os oedd Sir Fynwy yng Nghymru neu yn Lloegr yn ystod y 19g. Ee: enw gwreiddiol Prifysgol Cymru Caerdydd oedd Prifysgol De Cymru a Mynwy. Gweler OME:Mynwy yng Nghymru (Cymru Cyf X Rhif 57)
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.