Y Frwydyr (Mynyddog)
- Clywch, clywch
- Y fyddin yn dod i’r gâd,
- Uwch, uwch
- Y cenir i gledd ein gwlad;
- Calon a chleddyf i gyd yn ddur,
- Rhyddid yn rhoi
- Gelynion i ffoi
- O flaen ein gwŷr.
- Clywch y tabwrdd yn awr
- Yn adseinio sydd,
- Clywch floedd fychan a mawr
- Wedi cael y dydd;
- Mae gwawr eto’n dod yn y dwyrain dir,
- Daw haul ar ein gwlad
- Mewn hwyl a mwynhad,
- Cawn heddwch cyn hir.