Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob
Mae Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob yn emyn gan Thomas William (1761-1844)
- Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob
- eisteddodd gynt i lawr,
- tramwyodd drwy Samaria,
- tramwyed yma nawr;
- ‘roedd syched arno yno
- am gael eu hachub hwy,
- mae syched arno eto
- am achub llawer mwy.
- Mwy, mwy,
- am achub llawer mwy,
- mae syched arno eto
- am achub llawer mwy.
- Goleua’n meddwl ninnau
- I weld dy ddawn, O! Dduw,
- A phwy sy’n galw arnom
- I yfed dyfroedd byw;
- A gadael ein pydewau
- A’n dwfr-lestri’n hun
- I yfed dyfroedd gloywon
- O ffynnon Mab y Dyn.
- Mwy, mwy,
- am achub llawer mwy,
- mae syched arno eto
- am achub llawer mwy.