gan Dafydd ap Gwilym

Dysgais ryw baradwysgainc
A’r dwylo mau ar dâl mainc,
A’r dysgiad, diwgiad dyn,
Eurai dalm ar y delyn.
Llyma’r gain car y fainc fau
O blith oed yn blethiadau,
O deilyngfawl edlingferch,
A brydais i â brwyd serch.


Meddynt ferched y gwledydd
Amdabaf fi, a’m dawn fydd -


“Symlen yn hon naws amlwg,
A symlyn yw’r dyn a’i dwg.”


Solfieais o’m salw ffuaint
Salm rwydd, ys aelaw fy mraint,
Ac erddigan gan y gainc
Garuaidd, medd gwŷr ieuainc.
Coel fuddbwnc frew celfddber,
Cael ym glod, nued cwlm y glêr.
Caniadlais edn caneidlon,
Cerdd a fyn beirdd heirdd yw hon.


Gwae fin a chlyw, mawr yw’r ainc,
Dyddgu hyn o brydyddgainc.
Os byw, hi a’i, clyw is clwyd
Ysbyslef cos beislwyd,
O ddysg Hildr oddis cildant,
Gormodd cerdd, gŵr meddw a’i cant,
Llafurlef tant, llef orlais,
Lleddf ddatbing, llwybr sawtring Sais.
Ni wnaeth pibydd ffraeth o ffrainc
Na phencerdd ryw siffancainc.


Poed anolo fo ei fin
A’i gywyd a’i ddeg ewin
A gano cerdd ogoniant,
Ni cherydd Duw, na cherdd dant,
Gwiw loywglaer ddyn golyglon,
Ac yn cael canu’r gainc hon.