Y Gelfyddyd Gwta/Rhagair

Cynnwys Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Talfyriadau

RHAGAIR

Y MAE'N debig fod llenyddiaeth ein cyfnod ni, ar ei goreu, yn tueddu at grynoder a chynildeb ymhob gwlad. Diau fod a wnêl chwaeth rywbeth â hynny, a chwaen, efallai, lawn cymaint. Ni ddiainc dim rhag amgylchiadau a dyfeisiau mechanegol y cyfnod. Onid aeth Llundain i'r llundai, ac oni ddaw campau'r rhai a ŵyr o'r awyr? Pa faint fydd effaith y pethau hyn ar ieithoedd a llyfrau, ar y nofel a'r ddrama? Gall celfydd fel Charlie Chaplin adrodd ystori, a dodi ynddi "feirniadaeth ar fywyd," hyd yn oed, ag ystum ac ysgogiad, ac nid syndod fyddai glywed y Saeson—a'r Cymry o ganlyniad— cyn hir yn clarabowio drwy eu trwynau. Yn y dyddiau hynny, fel y dywedodd Gwenddydd gynt wrth Fyrddin, "Gwyn ei fyd y genau yn rhwydd gyfeistrin a lefaro trigair o'r iaith gysefin," bid honno yr iaith y bo. Eto, nid pethau cwbl newydd yw cynildeb a chrynoder chwaith.

Gwendid mawr prydyddiaeth ymhob iaith, ond odid, yw'r geiriau llanw a ddodir i mewn ynddi i gwpla'r mesur, i wneuthur cynghanedd neu i gadw odl. Mewn prydyddiaeth Gymraeg, y mae'r gwendid hwnnw 'n amlycach nac mewn odid iaith arall, oblegid bod y mesurau a'r gynghanedd mor gaeth a chywrain. Gynt hefyd, ystyrid mai yn y geiriau llanw yr oedd y farddoniaeth, ac y mae llawer o brydyddion eto fel pe baent yn credu 'r un peth. Nid bai'r mesurau a'r gynghanedd yn unig yw hyn, canys ni ddichon bod dim yn gwteuach a chynilach na gwaith goreu meistriaid pennaf y gynghanedd. O'r Pedwar Mesur ar Hugain, diau mai 'r Englyn yw'r rhyddaf oddiwrth eiriau na bo'u heisiau i fynegi 'r meddwl. Y rheswm am hynny yw na ellir bod yn anghryno iawn mewn deg sillaf ar hugain. Gwnaed llawer o englynion da yn y ganrif ddiweddaf, er bod agos bob peth a berthyn i grefft yr epigramwr yn groes i'w defod hi; ond eto, ni ddeil englynion goreu 'r ganrif i'w cymharu ag eiddo'r canrifoedd cynt. Ni cheir arnynt mo'r graen oedd ar waith ein tadau. Na 'r craffter. Na'r cywirdeb. Crefft Gymreig yw englyna, a bu agos iddi fynd i ganlyn yr hen grefftau gwych ereill, a giliodd o sŵn y peiriant. Nid heb achos y soniai "Syr Meurig Grynswth" am ei "beiriant englynu."

Nid rhaid yma ymdroi i holi ynghylch tarddiad yr Englyn. Fe wyddid cyn ein cyfnod ni fod rhyw gysylltiad rhyngddo ef, yn gystal a mesurau Cymraeg ereill, â mydryddiaeth Ladin. Prin y gallai fod yn amgen, yn wir. Pe ceid hanner dwsin o enghreifftiau tebig i'r pennill Lladin a gaed ar bared yn Pompei ("Balnea vina Venus, &c.[1]), odid na phrofai hynny darddiad yr Englyn, a hyd yn oed y Gynghanedd, yn weddol eglur. Ond o ba le bynnag y daeth yr Englyn, da fu ei ddyfod, canys dysgodd gynildeb i brydyddion lawer, ac ynddo ef y ceir rhai o'r pethau goreu yn Gymraeg.

Clywais ofyn yn ddiweddar, gan ddyn synhwyrol a meddylgar hefyd, pa gamp sydd ar bennill o un math, a phaham na wnâi iaith rydd gyffredin y tro i bob dyn at fynegi ei feddwl. Yn wyneb rhodres cymaint o'r hyn a sgrifennir am lenyddiaeth ym mhob iaith, y mae gennyf i lawer o gydymdeimlad â'm cyfaill a ofynnodd y cwestiwn i mi. Y mae 'n lled sicr fod beirdd a llenorion goreu'r gwledydd wedi gwneuthur eu gweithiau heb ddychmygu erioed am y pethau rhyfedd a ddywed yr esbonwyr a'r beirniaid amdanynt. Eto, pam y mynasant hwy arfer iaith fesuredig o gwbl? Ni wyddis, ond y mae'n fwy na thebig fod a wnelai hynny rywbeth â datblygiad iaith a thwf meddwl i ddechreu. Diau fod dyn yn eithaf crefftwr â'i ddwylaw cyn ystwytho o'i dafod i siarad erioed. Tybir yn wir mai datblygiad iaith a barodd iddo golli'r medr llaw a llygad a enillodd, nes gallu ohono mewn amseroedd cyn cof ysgythru lluniau mor gymesur â dim a geir heddiw tan law 'r lluniedyddion goreu. Pan ddaeth iaith hithau yn ei thro, nid anhebig i ddyn ei darostwng hithau i'w nwyd grefft. Sonia un o'r beirdd Groeg am hoelio geiriau 'n gadarn wrth ei gilydd, ac y mae termau crefft yn bethau cyffredin yn y sôn am gelfyddyd prydyddiaeth ym mhob iaith. Felly, y mae rhyw reidrwydd wrth wraidd mydr, yr un rheidrwydd ag y sydd tan fôn pob crefft. Fe ellir dywedyd mewn iaith rydd beth a ddywedir mewn mydr. Y mae 'n wir hefyd mai gwell fyddai pe na ddywedid yn y naill fodd na'r llall lawer iawn o'r hyn a ddywedir ym mhob un o'r ddau. Eto, y mae rhai pethau a ddywedwyd y byddai 'r rhan fwyaf o ddynion yn barod i gytuno mai iawn oedd eu dywedyd, mewn rhyw fodd neu gilydd. Ac am y modd. Pe dywedai dyn: "Y mae dynion y bo 'u tueddiadau yn cydfynd â'i gilydd yn naturiol yn ymgasglu at ei gilydd," ni allai neb ei gyhuddo o ddywedyd peth ofer, nac o'i ddywedyd yn wael iawn ychwaith; ond pan ddywedodd rhyw hen Gymro, ryw dro, "Adar o'r unlliw, hedant i'r unlle," fe wnaeth fwy na pheidio â dywedyd peth ofer; fe wnaeth hyd yn oed fwy na dywedyd peth gwir — fe wnaeth yr un peth â phe cawsai hyd i ddarn o faen gwerthfawr a'i lyfnhau a'i lathru a'i ddodi mewn amgant aur. Yr oedd yr hen Gymro hwnnw yn graffwr ac yn grefftwr. Dyna unig amddiffyniad mydryddiaeth dda. Ond, wrth gwrs, prin yw popeth da. Ac nid yn unig prin o ran swm, ond prin hefyd o ran sŵn, canys nid yw geiriau onid sŵn, ac ofer yw sŵn heb synnwyr. Felly, y mae gan y cenhedloedd sydd, fel y mae'r Iapaniaid a'r Sineaid, medd y rhai a ŵyr, yn credu mai cwta a chryno a ddylai prydyddiaeth fod, gryn lawer i'w ddywedyd trostynt eu hunain. Adroddais i'r cyfaill,

y soniais amdano eisoes, yr englyn hwn, o waith Tudur Aled:—

"Mae 'n wir y gwelir argoelyn difai
Wrth dyfiad y brigyn,
A hysbys y dengys dyn
O ba radd y bo 'i wreiddyn."

Cemist yw fy nghyfaill, a gofynnais iddo onid oedd englyn Tudur cystal darn o ddadansoddiad a chyfansoddiad ag a wnaed erioed. Atebodd yntau ei fod ac y buasai prydyddiaeth yn ddiddanwch iddo yntau pe buasai bob amser cystal ag englyn Tudur. Felly, dylai fod yr ansawdd hon ar brydyddiaeth dda bob amser, hyd yn oed pan ymosodo 'r bardd ar dasg hwy na gwneuthur epigram. Nid ar y beirdd y bydd y bai bob pryd fod eu darllenwyr yn darllen eu gweithiau ar ormod o garlam i weled eu doethineb. Cof gennyf hon weithwyr amaethyddol a chrefftwyr o Gymry gynt na byddent byth ar ôl am ddihareb neu bennill i gloi pob ystori neu hanes. I ba le'r aeth y gamp honno? Byddai llenyddiaeth yn ddiddanwch i'n teidiau, ac yn rhoi min ar eu meddyliau. Hynny a bair fod darllen gweithiau Thomas Edwards o'r Nant yn addysg i rai a syrffedwyd ar sothach gwasg ac ysgol. Pa sawl llyfr deg a chwech sy cystal â phennill Thomas Edwards ar natur dyn a'i droedigaeth?—

"Y garreg callestr, er y collo
Mewn dŵr neu ddaear, a'i darn dduo,
Fe ellir yn glir, drwy foddion glân,
Ennyn y tân o honno."

Neu ba faint o bregethau am y nefoedd a gynnwys gymaint o wir a'r ddwy linell hyn:—

"Pe câi dyn annuwiol fynd i'r ne,
Fe'i gwelai 'n rhyw le aflawen!"

Neu eto bwy a dwyllid gan ragrith cegymod y byd o'i fod yn gynefin a ffilosoffi fel hyn:—

"Mae gweniaith diawl yn gwneuthud eilun,
Clwt newydd a'i wnio i fritho 'r hen frethyn,
Un diawl Pharisead yn gweled gwall,
A diawl arall yn deiliwryn!"

Ceir y gelfyddyd gwta mewn prydyddiaeth gaeth a rhydd, gynnar a diweddar. Ychydig iawn a wyddis o hanes y penillion a elwir yn benillion telyn a glywir weithiau hyd heddiw ar dafod leferydd. Ni wyddis pwy a'u gwnaeth, ac ni ellir bod yn sicr iawn pa bryd y gwnaed ychwaith. Efallai — yn wir, gellir profi — i rai ohonynt fod unwaith yn rhan o gân, ond anghofiwyd y penillion i gyd ond rhyw un. Bu hwnnw fyw ar gof gwlad, nes i rywun o'r diwedd ei sgrifennu i lawr. Os ymofynnwn yn fanwl, fe welwn paham y cofiwyd y penillion hyn. Gwelwn hefyd fod nid ychydig o rinwedd ym meddwl y bobl a'u cadwodd ar gof. Atgofion yw 'r penillion bychain hyn, sudd profiad wedi ei wasgu i le bach, fel pe tynnid peraroglau rhosyn a'i botelu a'i gadw. Bydd darllen rhai ohonynt yn peri i chwi feddwl am hen gist a fu â chlo arni am flynyddoedd, a chwithau'n ei hagor ac edrych drwyddi—dyfod o hyd i fwndel o hen lythyrau, cudyn o wallt, neu flodyn wedi ei wasgu rhwng dwy ddalen.

"Fe ddaw 'r llong yn ôl i'r Foryd
A daw'r gwair a'r ŷd o'r gweryd,
Ond er maint y mynd a'r dyfod,
Ni ddaw Gwen o'i gwely tyfod."

Casgliad bychan yw'r llyfryn hwn o Englynion yn bennaf, a godwyd o dro i dro wrth chwilio llawysgrifau, ond ceir yma ambell bennill oddiar y cof fel na allaf, ysywaeth, nodi ymhale y cefais. Ni chynhwyswyd onid ychydig ddarnau ym Mesur Cywydd Deuair Hirion, am y bwriedid pan oedd bryd ar lafur felly gyhoeddi cyfrol fach arall o'r rheiny, rywdro. Gadawed allan y penillion telyn hefyd, am fod casgliad helaethach ac astudiaeth berffeithiach fy nghyd-lafurwr, Dr. Parry Williams, i ddyfod allan cyn bo hir.

Ysgrifennwyd corff y rhagymadrodd rai blynyddoedd yn ôl, ac ni ddeuthum yn y cyfamser ar draws dim a barai i mi gymedroli llawer ar y golygiadau sydd ynddo. Credaf y bydd yr englynion a'r penillion eraill yn ddiddanwch i'r sawl a garo ddawn a medr, a wêl fwy nag un ochr i bethau yn y byd difrif-digrif hwn, ac a fedro chwerthin hyd yn oed am ei ben ei hun, ambell dro.

Nid yw 'r gynghanedd bob amser yn ateb i safonau 'r ganrif ddiwethaf, a dygir ffurfiau'r iaith lafar i mewn i rai penillion weithiau. Nid gwaeth mo'r gwaith er hynny, canys y mae synnwyr ynddo, a gwiwdeb ymadrodd, min, cynildeb ac afiaith, lleferydd dynion nad oeddynt na di-gywilydd na digalon, ac na thywynnodd ar eu meddwl mai eu busnes yn y byd oedd ymddiheuro tros fod ar ffordd rhywun arall.

  1. Gweler Blodau o Hen Ardd. H. J. Rose a T. Gwynn Jones. Gwrecsam, Hughes a'i Fab, 1927.