Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 12

Talfyriadau Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 13

AEL FAIN
(Pen. 84)

Myn Crist 'r wyf yn drist mewn drain yn gorwedd
O gariad fy rhiain;
Gwelir fi yn farw gelain
Ar ôl y ferch a'r ael fain.

—DIENW.


ALTS
(C.M. 14)

Alis fach, tegach[1] wyt ti, myn Seiriol,[2]
Na'r seren sy'n codi;
Gwn nad oes i gydoesi
Drychineb yn d' wyneb di.

—DIENW.


ANNERCH
(Most. 131)

Can' hawddamawr mawr o'm iaith a roddwn;
Ireiddwyn gydymaith
A chan' hawddfyd mebyd maith
I'r câr gwyn cywir, ganwaith.

Gwae fi, gwn weiddi, gan na wyddoch boen
Am benyd a roesoch;
Dilawen wy 'n dilyn och
A di stôr, ond a styrioch.

Cysgu mewn deudy, nid iach i'r galon,
Fo'm gwelir i'n bruddach;
Beth a wnai, gyfell, bellach,
Ai marw ai byw 'r enaid bach?

—PRYDYDDES DDIENW O SIR DDINBYCH;[3]


Nodiadau golygu

  1. tegach. Ni chaledai 'r g yn y radd gymharol.
  2. Seiriol enw sant. Ar ei ôl ef yr enwir Ynys Seiriol, ar ymyl Môn.
  3. Ychydig brydyddiaeth o waith merched a geir yn y Llawysgrifau Cymraeg. Un o Ddyffryn Clwyd oedd Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Efallai mai hi oedd y brydyddes ddienw.