Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 14
← Tudalen 13 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 15 → |
Y CRYFAF PETH
(N.L.W. Add. MS. 436,110)
Cryf yw cryfdwr dŵr ar doriad y môr,
Cryf ymherodr dengwlad,
Cryf yw 'r gwynt, rhyw helynt rhad,
Cryf yw cwrw, cryfa Cariad.
—DIENW
CYNGOR
(Pen. 123)
Pan fo 'r haf decaf o'r dydd i garu,
Goreu bod yn llonydd;
Na ddod dy law mewn awydd
Yn rhwym, rhag nas cei hi'n rhydd.
—D.W.G.
DISGWYL
(Most. 131)
Beunydd o newydd, a nos, i'm meddwl,
Fy maddeu 'r wyt, agos;
Minnau sydd wâr yn d' aros—
Od ei yn elyn im, dos!
—Prydyddes Ddienw o Sir Ddinbych.
DDYDD GŴYL
Gwyliwch na soniwch am Siân, na dwedyd
Nad ydyw 'n ferch groenlan,
Oedd gloewach, ddygwyl Ieuan,
Ei thrwsiad hi na thyrs[1] tân!
—DIENW.
Nodiadau
golygu- ↑ tyrs, ffaglau. O'r Saes. torch