Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 20
← Tudalen 19 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 21 → |
WEDI 'R CWBL
(Most. 131)
Os bwriad cariad a'm curia dan f'ais
Er dwyn f' oes, ni chwyna';
Gwnaed hiraeth im ei waetha,
A'i bod Hi yn dwyn byd da!
—DIENW.
YMADO
(Most. 131)
YR OED
(Pen. 52)
Glân yw meingan mewn mangoed a manwydd
A minnau sy sgafndroed;
Y bore y bu hiroed,
A phrynhawn yr awn i'r oed.
—DIENW.
Y WLAD UCHAF
(C.M. 23)
O daliaf i byth ar adeilad tŷ,
Tynnaf i'r uchelwlad;
Meddyliaf am y ddwywlad—
Ordraf fy nhŷ ar dref fy nhad.
—OWAIN EUTUN.