Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 27

Tudalen 26 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 28

HAIDD
(C.M. 14)

Da yw rhyg di wŷg, a di wagaidd geirch,
A gorchwyl hwsmonaidd;
Da fydd gwenith ffrith ffrwythaidd,
Ac oll, er hyn, gwell yw'r haidd.

—DIENW.


HUED
(P.M.)

Clywch lid ac ymlid Cad Gamlan, clywch gyrdd,
Clywch gerddwyr yn datgan;
Clywch dryblu coed, clywch drebl cân,
Clywch aerweilch y clych arian.

Cynyddion[1] gwylltion ag eilltiaid, clerwyr,
Cwncwerwyr cainc euraid;
Cyd liaws hardd, cydlais haid,
Croew beth yw cri bytheiaid!

—DIENW.


HWYADEN
(C.M. 24)

Rhociad, dynn seliad dan iselwydd, wlyb,
Oer lais grec foreddydd;
Chwilio mêr y goferydd
Yn fanwl am benbwl bydd.

—DIENW.


Nodiadau

golygu
  1. cynyddion, meistriaid y cŵn hela, unigol cynydd.