Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 29
← Tudalen 28 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 32 → |
Y TYWYDD
(P.M.)
Gŵyl Bawl wybodawl, llu bedydd a'i clyw,
Os claear fo 'r tywydd,
A'r hinon hyd y bronnydd,
Bid diau fo, byd da fydd.
—DIENW.
YCHEN YN PORI
Onid pêr clywed pori yr ychen?
Hir iechyd i'r rhieni;
Gwledd ni cheid i arglwyddi,
Na baich ŷd oni bâi chwi.
—DIENW
YSGYFARNOG
(C.M. 24)
Hwi bellen ruddwen ar ros, hwi eto,
Hwi atat gi 'n agos;
Hwi, hwi 'n dynn, hwi hai d' einioes,
Hai, onid ei, ffafr nid oes!
—DIENW