Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 33
← Tudalen 32 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 34 → |
BAI ARALL
(Most. 144)
Pobl y byd ennyd adwaenan', o fâr,
Fai arall yn fuan;
Ni wŷl neb yn ôl a wnân'
Hanner ei feiau 'i hunan.
—RHISIART ABRAM.
(Pen 66)
Gwirddyn ni ŵyr mo'i gerdded o'i flaen,
Aflonydd yw 'r dynged;
A fo difai na feied
Ai' y lleill a'u bai ar lled.
—DIENW.
BALCHTER
(N.L.W. Add. 436)
Fy ienctid trwy lid heb les, o falchedd
A fylchodd fy muches;
A'm opiniwn a'm poenes
Yn llwyr yn erbyn fy lles.
—DIENW.
BARN
Pob drwg o'r golwg a gela dynion
A dân y Gorucha';
Yn ei lys Ef, ni leshâ
Euro llaw[1] am air lleia'.
—DIENW.
Nodiadau
golygu- ↑ euro llaw, prynu ffafr, breibio.