Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 43
← Tudalen 42 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 44 → |
GOREU SWYDD, CYWIRDEB
(Most. 131, 609)
O'r swyddau, diau, lle deuir i'r byd,
Goreu bod yn gywir;
Ni freinia nef yr enwir,
Ni fynn Duw gwyn ond y gwir.
—TUDUR ALED.
GRAS
(C.M. 23)
I fab diarab, diras yw'r moddau
Er meddu'r holl deyrnas;
Ofer oedd, nid ffafr addas,
Dda neu bryd[1] i ddyn heb ras.
—DIENW.
Y GROG
Yr annuwiol ffôl a ffy, poen alaeth,
Pan welo lun Iesu;
Llunied, os gwell yw hynny,
Llun diawl ymhob lle 'n ei dŷ.
—RHYS CAIN, pan feiwyd arno am beintio llun Crist ar y grog
GWAITH
(Pen. 159)
Llafuria, gweithia ym mysg gweithwyr byd,
Bid d' enaid yn deilwng;
Rhag ofn o fewn rhyw gyfnod
Dy farw ym mysg d' oferedd.
—"Hywel Bangor a'i gwnaeth, mewn tair
enaid cerdd, ac er hynny mae bai, oherwydd
nad yw'r odlau yn cyd-gordio.[2]