Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 46
← Tudalen 45 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 47 → |
Y LLO AUR
(B.M. 15030)
Trengu er casglu wna'r call ariannog,
Ryw ennyd, fel arall,
A thraddodi gwedi 'r gwall
Ei lo aur i law arall.
—IEUAN BRYDYDD HIR IEUAF.
MEDDWYN
(Pen. 99)
Meddwi, mawr goegni, mae'r gŵr, a meddwi,
Nid moddau cwmnïwr;
Meddwi 'mhob man fal anwr,—
E feddwai ped yfai 'r dŵr!
—DIENW.
METHIANT
(Most. 131)
Ymadael yr wyf â mudo ganwaith
I gynnig ymendio,—
Oer yw a drud, ar ryw dro,
Na bai rywfan i brifio.
—DIENW.
Y MUDO
Mudwn o'n holl ormodedd, o'n tiroedd
A'n tyrau disgleirwedd,
Olynol i wael annedd
I dario bawb i dŷ 'r bedd.
—DIENW.