Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 53
← Tudalen 52 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 56 → |
YFED
(Adroddwyd i'r Golygydd, gan wyr i frawd yr Awdur,
wanwyn 1914).
Yfed a'm gwnaeth yn afiach yng Nghynwyd,
Anghenog wyf bellach;
'D oes unlle, o bentre bach,
O fôr i fôr, fawr oferach.
—PETER LLWYD, GWNNOD.
YMDDYRCHAEU
(Most. 131, 829)
Y bryd a gyfyd o'r gwellt
I wybren wen, fal brân wyllt,
Ymogel di, ddyn myglyd wallt,
O'r berth rhag dy drawo â bollt.
—TUDUR ALED.
YMRYSON
(C.M. 5)
Y byd a syrthiodd mewn bâr bwriadus,
A brodyr nid ymgar;
Am y golud mae galar,
Gelyn gan gerlyn ei gâr.
—IEUAN TEW BRYDYDD.
Nodiadau
golygu[[