Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 57
← Tudalen 56 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 58 → |
ANGOF
(C.M. 14)
Ba gerdd, goeg angerdd, ba gyngyd[1] wna dyn
Wedi dwyn ei fywyd?
Bwy a edrych lyfr brych brud,
Bwy ddarllen mewn bedd oerllyd?
—DIENW.
Y BEDD
(C.M. 24)
Y crys gwyn a'm tynn o'm tŷ, a llinin,
A llunio fy ngwely,
A'm gwasgu yma i gysgu
Yn fyddar i'r ddaear ddu.
—DIENW.
Y BYRFYD
(Most. 131)
Daethost drwy fawrfost i fyrfyd yn noeth
I wneuthur dy benyd,
Ag yna, er sy gennyd,
Ar awr bach yr ei o'r byd.
—DIENW.
DARFOD
(C.M. 23)
Pan elwyf drwy glwyf dan glo i waglawr
Yr eglwys mewn amdo,
Ni ddaw anadl oddiyno
I alw ar Grist o lawr gro.
—DIENW.
Nodiadau
golygu- ↑ cyngyd ymaros, oedi. Dengys y gynghanedd yma, megis gan feirdd eraill, mai cyn-gyd nid cyngyd, a ddywedid.