Y Gwyddel a'r Cymro
gan Tryfanog
- Meddyliodd Gwyddel bychan
- Yn siwr roi cweir i mi,
- Ond camgymeriad deryn wnaeth
- 'N ofnadwy, welwch chwi, ;
- Fe neidiodd i fy ymyl
- Fel teigar, gyda brys,
- Gan daflu'i grysbas carpiog llwyd,
- A thorchi darn o grys;.
- Tarawodd fi fel mellten
- Yn ymyl bôn fy nhrwyn,
- Ac am slap nis gallwn i
- Nac arall byth ei dwyn;
- Fe redai 'ngwaed yn afon
- Lifeiriol i fy ngheg,
- Ac O ! maddeued Duw i mi
- Os rhoddais lw neu reg.
- Fe'i tegais ef mewn eiliad
- Ar lawr mewn dŵr a baw,
- Ac yno 'roedd y mymryn cawr
- Heb symud troed na llaw;
- Daeth Cymro'n llawn trugaredd
- O rywle ar ei hynt
- Gan erfyn arnof, Paid yn wir
- A gwneud i ffwrdd a'i wynt.
- Gadewais iddo godi,
- Y lolyn brwnt a blin,
- A chredu 'rwyf y bydd o byth
- Yn llawer haws ei drin;
- Erfyniodd cyn mynd ymaith
- Faddeuant gyd a'i law;
- Rhoes iddo 'mhump yn ddigon rhwydd,
- Nis gallwn droi o draw.
- Y rheswm iddo 'nharo
- Na fedrwn Saesonaeg,
- A minnau druan ar fy loes
- Yn medru ond Cymraeg;
- Mae llawer fel fy hunan
- Ar lan y Ferswy'n awr
- Yng nghanol brwnt a blin regfeydd
- Yn disgwyl gweled gwawr.
- Fe garaf "Wlad y Bryniau,"
- 'Rwy'n Gymro hyd y carn,
- Ond i'r un Sais, na Gwyddel chwaith,
- Nid af i byth yn sarn;
- Chwi, fechgyn ieuanc Cymru,
- Meithrinwch Saesonaeg,
- Ond peidiwch byth, beth bynnag fo,
- Anghofio'r hen Gymraeg.