gan Iolo Goch

Pan ddangoso, rhyw dro rhydd,
pobl y byd, peibl lu bedydd,
garbron Duw, cun eiddun oedd,
gwiw iaith ddrud, eu gweithredoedd
ar ben Mynydd, lle’i bydd barn
i gyd, Olifer gadarn,
llawen fydd chwedl diledaes
llafurwr, tramwywr maes.
O rhoddes, hael yw’r hoywddaw,
offrwm a’i ddegwm I Dduw,
enaid da yna uniawn
a dâl i Dduw, dyly ddawn.
Hawdd i lafurwwr hoywddol
hyder ar Dduw Nêr yn ol.
O gardod, drwy gywirdeb,
o lety, ni necy neb.
Ni rydd farn eithr ar arnawdd,
ni châr yn ei gyfar gawdd.
Ni ddeily rhyfel, ni ddilyn,
ni threisia am ei dda ddyn.
Ni bydd ry gadarn arnam,
ni yrr hawl gymedrawl gam,
nil addas ond ei odeff;
nid bywyd, nid byd heb ef.
Gwn mai digrifach ganwaith
gantho, modd digyffro maith,
gaffel, ni’m dawr heb fawr fai,
yr aradr crwm a’r irai,
no phed fai, pan dorrai dwr,
yn rhith Arthur anreithiwr.
ni cheffir eithr o’i weithred
aberth Crist I borthi cred.
Bywyd ni chaiff, ni beiwn,
pab nac ymherawdr heb hwn,
na brenin naelwin hoywlyw,
dien ei bwyll, na dyn byw.
Lusudarus hwylus hen
a ddywod fal yn ddien,
‘Gwyn ei fyd, trwy febyd draw,
a ddeily aradr â’i ddwylaw.’
Crud rhwyg fanadl gwastadlaes,
Cryw mwyn a ŵyr creiaw maes.
Cerir ei glod, y crair glwys,
crehyr a’i hegyr hoywgwys;
cawell tir gŵydd rhwydd yrhawg,
calltrefn urddegig cylltrawg;
ceiliagwydd erwi gwyddiawn,
cywir o’i grefft y ceir grawn.
Cnwd a gyrch mewn cnodig âr,
cnyw diwael yn cnoi daear.
E fynn ei gyllell a’i fwyd
a’i fwrdd dan fôn ei forddwd.
Gŵr a’i anfodd ar grynfaen,
gwas a fling a’i goes o’i flaen.
Ystig fydd beunydd ei ben,
ystryd iach is traed ychen.
Aml y canai ei emyn,
ymlid y fondid a fyn.
Un dryllwraidd dyffrynnaidd ffrrwyth,
yn estyn gwddw anesmwyth;
gwas pwrffil aneiddil nen,
gwasgarbridd gwiw esgeirbren.
Hu Gadarn, feistr hoyw giwdawd,
brenin a roes gwin er gwawd,
amherawdr tir a moroedd,
cwnstabl ef wedi diliw
aradr gwaisg arnoddgadr gwiw;
ni cheisiodd, naf iachusoed,
fwriwr aer, fara erioed
eithr, da oedd ei athro,
o’i lafur braisg, awdur bro,
er dangos, eryr dawngoeth,
i ddyn balch a difalch doeth,
bod yn orau, nid gau gair,
ungrefft gan y Tad iawngrair,
aewydd mai hyn a oryw,
aredig, dysgedig yw.
Ffordd y mae cred a bedydd
a phawb yn cynnal y ffydd,
llaw Dduw cun, gorau un gŵr,
llaw Fair dros bob llafurwr.