Y Lleian Lwyd (testun cyfansawdd)
← | Y Lleian Lwyd gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Y Lleian Lwyd |
- Y LLEIAN LWYD
Y LLEIAN LWYD
Gan MOELONA
LLYFRAU PAWB
DINBYCH
Argraffiad Cyntaf—Mawrth 1944
Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych
PENNOD I
TEITHIO'N gyflym mewn car modur ar hwyr o Fai yr oedd Siwan a Gwyn Sirrell pan gawsant eu golwg cyntaf ar Fin Iwerydd. Gwelsant glwstwr o bennau tai, megis mewn hafn a hanner guddid oddi wrthynt gan godiad tir; gwelsant glochdy eglwys o ganol coed, ac ar lethr y clogwyn pellaf restr o dai gwynion yn wynebu'r môr. Ar y tai hyn y sefydlasant eu golwg, oherwydd dywedodd eu mam wrthynt mai tu hwnt iddynt hwy, ar fin bae bach arall, yr oedd y tŷ a oedd i fod yn gartref iddynt.
Collasant olwg ar y rhes tai wrth ddyfod i mewn i'r pentref gyda glan y môr, ond dacw hwy eto, a'u ffenestri fel llygaid agored yn syllu mewn syndod parhaus ar ryfeddod môr a mynydd o'u blaen, ac arnynt hwythau wrth eu croesawu am y tro cyntaf.
Y tro cyntaf ydoedd i Siwan a Gwyn, ond dyfod yn ôl i'w hen gartref a wnâi eu mam. Efallai i Mrs. Sirrell ganfod mwy na syndod yn nhrem y llygaid a edrychasai ar gymaint o bethau erioed. Gorfu iddi sychu ei llygaid ei hun yn frysiog.
Cymraes oedd Mrs. Sirrell, a Gwyddel oedd ei gŵr. Deuai Gwyddyl yn fynych gynt mewn llongau masnach i Fin Iwerydd. Arhosodd rhai ohonynt yn y lle, ŵyr i un o'r rhai hynny oedd Mr. Sirrell. Er iddo ddysgu siarad Cymraeg yn weddol yr oedd yn hawdd gwybod nad Cymro ydoedd. Dyn goleubryd, tal, ydoedd, bywiog ei wedd a ffraeth ei dafod. Tebyg iddo oedd Siwan. Yr oedd Gwyn yn debycach i'w fam, yn dawel ei ffordd fel hi, a heb gymaint o awch, at fywyd a'i chwaer.
Dringodd Mr. Sirrell yn fuan i fod yn gapten. Enillai gyflog fawr, ond yn fynych iawn awyddai am ragor o arian, ac wrth geisio cael mwy collodd lawer o'r hyn a oedd ganddo. Pan fu farw ni adawodd ond ychydig gannoedd o bunnau ar ei ôl.
Yn ei gofid daeth ar Mrs. Sirrell awydd dychwelyd i'w hen ardal at ei phobl ei hun. Nid oedd ym Min Iwerydd berthynas agos iddi bellach, ond yr oedd yno lawer a'i hadwaenai gynt. Byddai'n rhatach i fyw yno nag ym Mryste, a gallai gadw ymwelwyr yn yr haf i ychwanegu at yr ychydig arian a oedd ganddi. Cefnogwyd ei bwriad yn eiddgar gan Siwan a Gwyn. Ni welsent Gymru erioed er clywed llawer o sôn amdani. Pan welsant eu cartref newydd yn llechu yng nghysgod y graig, a'r môr bron yn llyfu ei odre, daeth rhyw wefr i galonnau'r ddau, a gwyddent rywfodd eu dyfod i'r lle iawn i fyw.
Daethent bob cam o Fryste y diwrnod hwnnw. Yno yr aethai y morwr ieuanc a'i wraig ar eu priodas ddeunaw mlynedd yn ôl. Yno y ganed Siwan a Gwyn. Yr oedd Siwan yn un ar bymtheg oed a Gwyn yn dair ar ddeg. Ychydig o'r môr a welsent ym Mryste er ei fod yn ddigon agos atynt. Nid "byw ar lan y môr" a oedd byw yno: ond byw ynghanol berw tref fawr ac adeiladau uchel yn cuddio pob gogoniant oddi wrthynt. Ond yma, dyma hwy mewn gwirionedd ar fin Iwerydd, a'i ehangder gogoneddus yn agored o'u blaen. Yr oedd tua phum llath o dir gwastad o flaen y tŷ a thua phum llath arall o ochr serth y graig rhyngddynt a'r môr.
Cyn mynd i'w gwely safodd Siwan yn hir wrth y ffenestr yn syllu ar y môr aflonydd a'r clogwyni moel tu hwnt iddo, a'r tonnau'n torri'n wyn ar eu traed. Yn uwch i fyny disgleiriai goleuadau Aberystwyth. Gwelai'r agoriad lle llifai Afon Dyfi i'r môr; gwelai gornel Cader Idris, a gwyddai fod yr Wyddfa ei hun yn y golwg, ac Ynys Enlli, pe gallai droi ei ffenestr tuag atynt. Ond y moelydd unig o'i blaen a dynnai ei sylw. Edrychent fel pe'n rhoi her iddi i wybod eu cyfrinachau ar hyd y canrifoedd. Yr oeddynt mor uchel, mor unig, mor gadarn, a'r môr yn sibrwd pethau rhyfedd wrthynt wrth eu cusanu. Penderfynodd Siwan y mynnai fynd tuag atynt naill ai mewn cwch neu ynteu ar draed cyn pen llawer o ddyddiau.
Bore drannoeth deffrowyd hi yn fore, fore, gan yr haul. Disgynnai ei belydr yn syth ar ei gwely. Nid oedd ond pump o'r gloch. Cododd a mynd at y ffenestr. Yr oedd y môr fel llyn o dân, a neb, debygai Siwan, ond hi yn gweld y gogoniant.
Yn awyr glir y bore ymddangosai'r clogwyni draw yn nodedig o eglur. Daliodd Siwan ei hanadl, oherwydd yn yr unigedd pell ar yr awr fore honno gwelodd rywun yn symud yn araf gyda godre'r clogwyni, aros ennyd, a symud drachefn. Symud ymlaen ac yn ôl, ac aros yn hir fel pe'n edrych i'w chyfeiriad hi. Cofiodd lle Y dodasid ysbienddrych ei thad wrth hanner gwacau'r cistiau, agorodd y drws yn ddistaw rhag deffro ei mam, ac ymhen munud daliai'r ysbienddrych wrth ei llygaid ger y ffenestr.
A'r peth a welodd oedd rhywun mewn gwisg lwyd, hir, a rhywbeth llwyd, tal ar ei phen, heb adael dim o'i hwyneb yn y golwg—Lleian Lwyd (Grey Nun) yn symud ac aros, symud ac aros yn hir, ac yna diflannu'n sydyn.
Yr oedd yn rhy ddiweddar i alw ei mam a Gwyn, oherwydd yr oedd y ddrychiolaeth, neu beth bynnag oedd, wedi mynd o'r golwg. Ai ysbryd oedd? A welai un ysbryd wrth olau dydd? Os lleian yn wir ydoedd —a gwisg lleian yn sicr oedd amdani—o ba le y daethai? A beth a wnâi lleian unig ar draeth pell yn y bore bach? Ac i ba le yr aeth pan ddiflannodd? Yr oedd ar Siwan awydd rhedeg allan a holi pawb a thynnu eu sylw at y peth rhyfedd, ond diau bod pawb yn y pentref yn cysgu—a'r Lleian Lwyd a hithau yn edrych ar ei gilydd ar draws y môr. Aeth i'r gwely a'i meddwl yn dryblith, a bu'n hir yn effro. Ond pan ddaeth amser codi yr oedd yn cysgu'n drwm.
PENNOD II
CLYWODD, fel o bell, lais ei mam yn ei galw i godi. Pan ddeffrodd yn iawn yr oedd ei mam eisoes wedi mynd i lawr. Rhwbiodd ei llygaid a meddyliodd am funud mai breuddwydio a wnaethai am y Lleian Lwyd. Ond gwelodd yr ysbienddrych ar y gadair, a daeth y cwbl yn glir i'w chof. Brysiodd i wisgo a mynd i ddweud yr hanes. Ond chwerthin am ben ei stori a wnaeth Gwyn a'i mam.
"Lleian Lwyd! Dyna feddyliau sy'n dod i'th ben di, Siwan! O ba le y deuai lleian lwyd, neu leian, wen, neu leian ddu, i le fel hwn, a neb yn gwybod dim amdani? Rhyw fenyw a siôl lwyd dros ei phen yn casglu coed tân oedd yno."
"Ond, mam fach, pump o'r gloch oedd hi!"
"Rhyw ffarmwr wedi bod yn edrych am ei ddefaid oedd yno," ebe Gwyn yn derfynol.
"Defaid, wir! 'Doedd dim dafad yn agos.
"Dyna fe, wel di. Oen oedd wedi mynd ar goll."
"O'r gore," ebe Siwan. "Os gwela i hi eto bore fory fe'ch galwaf eich dau. Fe gewch weld drosoch eich hunain wedyn, a 'rwy'n mynd i holi'r cynta wela i heddiw."
"Na, paid â gwneud hynny, Siwan. Paid â sôn am Leian Lwyd a phethau felly ar ein bore cyntaf ni yma, neu efallai y bydd rhai yn meddwl dy fod wedi colli ar dy synhwyrau. Cofia beidio â dweud gair wrth Mali Morus."
Mali Morus oedd y fenyw a ddeuai yno i'w helpu roddi eu tŷ mewn trefn—un o hen gydnabod Mrs. Sirrell, heb newid llawer oddi ar y dyddiau hynny, a heb newid ei henw hefyd. Danfonasent eu dodrefn o'u blaen, a Mali oedd yno i'w derbyn, ac i'w derbyn hwythau wedyn.
Y syndod cyntaf ynglŷn â'r plant iddi hi, ac i bawb ym Min Iwerydd, oedd eu Cymraeg dilediaith, a hwythau wedi eu geni a'u magu ym Mryste. Ond yr oedd rheswm am hyn. Yr oedd Mrs. Sirrell yn ddigon call i gymryd arni beidio â deall y plant pan siaradent Saesneg â hi ym mlynyddoedd cyntaf eu hysgol. Wedi hynny bu ei thad yn gwneud ei gartref gyda hi ym. Mryste am rai blynyddoedd cyn ei farw, ac yr oedd Meredydd Owen yn sgolor Cymraeg da, a dysgodd fwy i'r plant am Gymru a Chymraeg nag a ddysgodd llawer mewn coleg.
"A gawn ni fyw yn y tŷ yma mwy am byth, mam?" gofynnai Gwyn.
"Mae e i fi cyhyd ag y bydda i'n dewis aros yma. Fe fyddwch chi'ch dau yn tyfu ac yn mynd, mae'n debyg, fel plant eraill."
"Ond fe ddeuwn yn ôl yma o bob man. Fe fuaswn i'n folon mynd yn forwyn i Nwncwl Ifan neu wneud unpeth iddo am ei garedigrwydd inni," ebe Siwan.
"Efallai y cei di neu Gwyn gyfle i dalu'n ôl iddo mewn rhyw fodd. 'Dalla i wneud dim llawer mwy," ebe Mrs. Sirrell yn drist.
"O, mam, beth wyddoch chi am y dyfodol?" ebe Siwan.
Pan glywsai Ifan Owen, brawd Mrs. Sirrell, dwy flwydd yn ieuengach na hi, am awydd ei chwaer i ddyfod yn ôl i'r hen ardal i fyw, daethai i Fin Iwerydd yn unswydd i chwilio am dŷ iddynt.
Nid oedd tŷ i'w gael am arian yn y pentref, ond dywedwyd wrth Ifan Owen fod tŷ mawr Cesail y Graig yn wag ac ar werth. Gwyddai Mr. Owen amdano oherwydd bu digon o sôn amdano pan adeiladwyd ef gan y dyn hwnnw o Lundain, a'i adael wedyn ar ôl byw yno am flwyddyn. Yr oedd wedi bod yn wag am ddwy flynedd. Yr oedd yn well gan bobl Min Iwerydd fyw yn ymyl ei gilydd. Safai'r tŷ tua hanner milltir o'r pentref—a mynd dros y bencydd a chuddid y pentref yn llwyr oddi wrtho gan fraich y clogwyn. Nid oedd ffordd iawn i fynd iddo. Deuai'r ffordd fawr ar hyd fferm y Faenol, ac yna byddai'n rhaid croesi dau o gaeau’r fferm ac yna disgyn yn raddol am ganllath ar hyd y ffordd fach gul a wnaed pan adeiladwyd y tŷ.
Ond yr oedd yn werth y ffwdan o fynd tuag ato. Tŷ hir, isel, ydoedd, a'i ddrws yn y talcen: Yr oedd dwy ystafell fawr yn y ffrynt, a dwy lai tu ôl, a'r un fath ar y llofft. Yr oedd iddo hefyd daflod eang a ranesid yn ddwy ystafell a dwy ffenestr bigfain yn y to i'w goleuo.
Prynodd Ifan Owen y tŷ, a dywedodd wrth ei chwaer y câi hi ef am bum punt yn y flwyddyn, ac os na byddai hi a'r plant yn hoffi byw ynddo, y cadwai ef ei lygaid yn agored am dŷ arall iddynt yn yr ardal. Dywedodd hefyd mai ef a'i deulu a fyddai eu hymwelwyr cyntaf. Fe ddeuent cyn gynted ag y byddai lle'n barod iddynt. Gwyddai am eraill o Gaerdydd a garai ddyfod yno; gallai sicrhau iddynt am yr haf hwnnw ddigon o ymwelwyr a fedrai dalu'n dda am eu lle.
Ar un olwg bu ffawd yn garedicach wrth Ifan Owen nag wrth ei chwaer. Yr oedd yn llwyddiannus iawn gyda'i fusnes yng Nghaerdydd. Ond nid oedd yntau heb ei groes i'w chario. Yr oedd ganddo ddau o blant Idwal tua phymtheg oed, a Nansi yn un ar ddeg. Pan oeddynt bum mlynedd yn ieuengach torrodd tân allan yn eu tŷ yng Nghaerdydd, a bu Nansi bron â llosgi i farwolaeth. Yr oedd ôl y tân o hyd yn greithiau ar ei braich dde, a chafodd gymaint o ofn ar y pryd hyd oni chollodd ei gallu i siarad. Merch fach fud oedd o hynny allan. Medrai ei gwneud ei hun yn ddealladwy i'w thad a'i mam a'i brawd trwy arwyddion, a dysgwyd hi i siarad â'i dwylo.
**** Bu raid i Siwan a Gwyn weithio'n galed y dydd cyntaf hwnnw i helpu Mali a'u mam i roddi pethau mewn trefn yng Nghesail y Graig, ac ar ei ddiwedd yr oeddynt yn rhy flinedig i fynd lawr i'r pentref. Safodd Siwan, er hynny, yn hir wrth y ffenestr wrth fynd i'r gwely, a thybiai fod y clogwyni duon yn gwenu'n wawdus arni am na ddaeth y lleian i'r golwg. Cododd drannoeth am hanner awr wedi pedwar. Yr oedd y môr yn dawel fel llyn, ac yn llenwi'r bae fel nad oedd rhimyn o draeth i'w weld, ac nid oedd neb yn y golwg ond y gwylain, na sŵn i'w glywed ond eu cri leddf hwy.
PENNOD III
AETHANT yn gynnar y prynhawn hwnnw trwy bentref Min Iwerydd, ac i'r traeth. Yr oedd ganddynt draeth bach caregog iddynt eu hunain yn ymyl eu tŷ pan fyddai'r môr ar drai, ond yr oedd arnynt awydd ymgymysgu â phobl. Yr oedd lle prysur iawn ar y traeth y bore hwnnw. Yr oedd tymor yr haf a'r ymwelwyr ar ddechrau, ac yr oedd yn rhaid paratoi'r cychod. Yr oedd yno nifer da ohonynt, rhai yn cael eu trwsio a'u diddosi o'r tu mewn, eraill wyneb i waered ar y traeth yn derbyn cot newydd o baent. Nid oedd un yr un fath yn hollol â'r llall. Yr oedd yno bob lliwiau ohonynt—du i gyd, neu wyn i gyd, du a gwyn, glas a gwyn, coch a glas, coch a du, ac yr oedd yno un newydd ei olwg o liw glas ysgafn y môr. Un newydd oedd yn wir. "Y Deryn Glas" oedd ei enw. Clywsant rywun yn dywedyd mai cwch Fred Smith, gwas y Faenol, ydoedd. Sais oedd Fred. Gadawsai ei le fel gwas yn sydyn ar ôl tymor hau, a phrynu cwch iddo'i hun, ac ymarfer rhwyfo yn hwnnw a wnâi hwyr a bore. Bwriadai ennill arian mawr yn yr haf trwy gludo ymwelwyr a physgota.
Golchi'r tu mewn i'r cwch glas yr ydoedd pan aeth Siwan a Gwyn i'w gyfeiriad. Rhoes ei law wrth ei gap yn foesgar, a dechreuodd Siwan siarad ag ef ar unwaith. Yn Gymraeg y siaradai ar y cyntaf, ond gan na fedrai Fred siarad yn rhwydd yn yr iaith honno fe droes i'r Saesneg.
"A ych chi'n mynd yn eich cwch hyd y creigiau draw ambell waith?"
Gwridodd y bachgen dros ei wyneb i gyd, ac ymsythodd, fel petai am ofyn "Beth yw hynny i chi?" ond fe'i hadfeddiannodd ei hun a dywedodd:
"Na... dim hyd y creigiau ...y... ond
"A yw hi'n bosibl mynd mewn cwch a glanio fan draw?" gofynnai Siwan eto.
"Mae'n rhy beryglus i lanio yno, Miss," ebe Fred yn bendant. Mae creigiau o'r golwg yn y dŵr, fel na ellir mynd â chwch yn ddigon agos i lanio."
"O!" ebe Siwan yn siomedig.
"A oes ogofâu yn y creigiau yma," gofynnai Gwyn. "Yr ochr arall mae’r ogofâu," ebe Fred. "Mae dwy neu dair ohonynt, ac y mae'n ddigon hawdd mynd â chwch tuag atynt."
"Yr ochr yna rym ni'n byw," ebe Gwyn.
"Chi sy wedi dod i Gesail y Graig?"
Rhoes Gwyn nod o gadarnhad.
"Ie," ebe Siwan, "a'r clogwyni draw ym ni'n weld o'n ffenestri, ac nid y rhai sydd ar ein hochr ni. Dyna sydd wedi codi awydd arna i am fynd atynt."
Chwarddodd Gwyn yn dawel ac edrych fel petai ar fin adrodd wrth y bachgen dieithr hwn am y Lleian a welsai Siwan, ond â fflach o'i llygaid rhybuddiodd hi ef i beidio â dweud dim. Ni ddangosodd Fred iddo sylwi ar na'r chwerthin na'r fflach, ond gofynnodd ac edrych yn graff ar Siwan: "I ba fan o'r traeth draw yn gywir y carech chi fynd, Miss?"
"A welwch chi'r ochr lwyd yna i'r clogwyn—dacw don wen yn torri ar ei godre 'nawr?"
"Gwelaf."
"Wel, i fyny dipyn bach y mae man du, du ar y gwaelod am rai llathenni. Dyna'r fan!"
Syllodd Fred arno'n ddistaw am funud, ac aeth ei wyneb yn goch, goch fel o'r blaen, a phan giliodd y cochni'n raddol edrychai'n welw.
"Dyna lle mae'r creigiau," ebe ef, "a 'does yna ddim traeth."
"A fuoch chi yna, 'te?" gofynnai Gwyn.
"Wel, do, heibio iddo wrth bysgota," ebe Fred, a throdd i godi un o'r rhwyfau a oedd ar y tywod yn ei ymyl.
Sibrydodd Gwyn wrth Siwan:
"Pam na ofynni di i un o'r hen gychwyr os wyt ti am fynd?"
"Fe af i â chi, ac fe dreia i 'ngore i lanio," ebe Fred yn ddisymwth.
"O, da iawn. Fe fyddwn yn dri. 'Rwyf am i mam ddod hefyd."
"Pa bryd? Fory?"
"'Dwy i ddim yn eitha siŵr. Fe ddof yma i roi gwybod ichi," ebe Siwan.
"A gaf i wybod y noson cynt, rhag imi fod allan yn pysgota pan ddewch?" ebe Fred.
Ac addawodd Siwan.
"Dyna fachgen rhyfedd oedd hwnna," ebe Gwyn. 'Roedd e'n mynd yn goch ac yn wyn wrth siarad â ni."
"Shei oedd e," ebe Siwan.
Rwy'n siŵr bydd hi'n saffach inni fynd gydag un o'r hen gychwyr," ebe Gwyn eto.
"Na," ebe Siwan, "fe fyddai'r hen ddynion 'na'n holi gormod ac yn chwerthin am ein pennau ni. Fe fydd Fred yn fwy poleit ac ufudd."
"'Dwyt ti damaid gwell o ofyn i mam ddod. Ddaw hi ddim."
"O daw—i edrych ar ein hôl ni. Ac y mae eisiau iddi ddod am ambell jant yn lle bod yn y tŷ o hyd, er bod hwnnw ar fin y môr. Fydd dim amser i ddim pan ddaw ymwelwyr."
Wrth fynd drwy'r pentref prynasant Guide to Min Iwerydd, ac eistedd ar Lwybr y Banc i'w ddarllen. Gwelsant fod ogofâu yn y creigiau ar bob ochr i'r bae, a bod llwybrau o dan y ddaear yn mynd o rai ohonynt i fyny at y pentref.
"O, Gwyn," ebe Siwan mewn afiaith, "rhaid inni gael gweld yr ogofâu yma i gyd, a chwilio am y llwybrau. Petawn i'n byw yn amser y smyglers fe fuaswn i'n gwisgo dillad dyn a bod yn un ohonynt.
Ond ni chyffrowyd Gwyn yn anghyffredin. Ni welai ef ryw ogoniant mawr mewn bod yn smygler.
Nid oedd Mrs. Sirrell yn fodlon o gwbl pan glywodd am drefniadau Siwan gyda'r cychwr Fred Smith, a gwrthododd addo mynd ei hunan na chaniatâu i Siwan a Gwyn fynd hyd oni châi hi amser i wneud ymholiadau pellach.
Yr oedd Siwan yn siomedig. Yr oedd hi'n ddigon di-ofn i fentro i rywle ar fôr neu ar dir, a phawb a phopeth yn ei herbyn. Safodd wrth y ffenestr eto hwyr a bore, a'r ysbienddrych yn ei llaw yn barod. Ac yn y bore, am bump o'r gloch fel o'r blaen, gwelodd yn eglur y peth a welsai o'r blaen. Y tro hwn estynnai'r Lleian ei dwy fraich allan i'w chyfeiriad hi, a sefyll yn yr unfan. Gwaeddodd Siwan yn wyllt:
"Mam! Mam! Gwyn! Gwyn! Dewch! Dyma hi! Dyma'r Lleian Lwyd fel o'r blaen!"
Ni chlywodd Gwyn air. Cysgai'n rhy drwm. Rhedodd Mrs. Sirrell cyn gynted ag y gallai at y ffenestr, ond nid oedd yno ddim erbyn hynny. Diflannodd y ddrychiolaeth yn sydyn.
"Ai ataf i yn unig y mae ei neges?" meddai Siwan wrthi ei hun. "Ai crefu am ryw garedigrwydd oddi wrthyf fi a wnâi wrth estyn ei breichiau allan? Nid oes son bod neb arall wedi ei gweld. O, fe fynnaf weld pwy yw, a beth a gais.
Crynai gan gyffro a braw. Yr oedd ei mam hefyd yn dechrau meddwl bod rhywbeth yn od yn y peth. Merch ei thad oedd Siwan!
"Dere nol i'r gwely, 'merch i," ebe hi'n dyner, "a phaid â meddwl pethau rhyfedd."
"O!" ebe Siwan, mewn hanner ochenaid, a rhoi ei phen ar y gobennydd. Pa les a fyddai dadlau eto â'i mam?
PENNOD IV
O DIPYN i beth daeth trefn ar bethau yng Nghesail y Graig. Daeth gwelyau newyddion a rhai dodrefn o Gaerdydd, a daeth y lle yn gartref hardd a chlyd. Y peth a lonnodd galonnau Siwan a Gwyn yn fwy na dim oedd cael mynd i'r daflod i gysgu. Gofynasent ar y dechrau am gael mynd, a daeth pethau'n barod o'r diwedd. Dyna lwc bod yno ddwy ystafell! Mwy o lwc fyth fod yno ffenestr bigfain (dormer window) i bob un. Bellach fe gâi Siwan godi pryd y mynnai, a mynd at y ffenestr heb fod eisiau ofni deffro neb, a heb neb i edrych yn anghrediniol neu yn dosturiol arni. Gwnaeth ddefnydd da o'r ffenestr o'r noswaith gyntaf. Bu'n syllu drwyddi yng ngolau lleuad a golau haul, golau cyfnos a golau gwawr.
Gwelodd y Lleian Lwyd fwy nag unwaith, a phob tro ar yr un adeg tua phump o'r gloch y bore—bob tro yn symud yn araf yn ôl a blaen, neu yn sefyll yn yr unfan ac estyn allan ei breichiau. Rhyfeddai Siwan fwy nag erioed yn ei chylch, ond ni soniodd amdani mwy wrth ei mam nac wrth Gwyn, ac ni ofynnodd am gael mynd yn y cwch at y clogwyn. Gwyddai pan ddeuai ei hewythr a'i deulu y caffai fwy o ryddid a chyfle i wneuthur y peth a fynnai. Ond O! yr oedd yn amser hir i aros amdanynt! Beth os oedd gan y Lleian ryw neges arbennig ati hi? Beth os rhoddai i fyny ddyfod i'r golwg am nad atebai hi?
Holodd yn wyliadwrus hwn a'r llall yn y pentref ynghylch y clogwyn. A oedd llwybr at y môr o'r cyfeiriad yna? A oedd rhai i'w gweld weithiau ar y traeth bach cul?
Rhywbeth yn debyg a fyddai'r atebion bob amser. Na, ni allai neb ddod at y môr o'r cyfeiriad yna. Yr oedd y creigiau mor serth bob cam. Na, nid oedd yn ddiogel i neb gerdded ar y traeth cul. Nid oedd yno le i ddianc rhag y llanw. O, wrth gwrs, fe fu llawer o smyglo yna 'slawer dydd, ond yr oedd hynny wedi darfod.
Ar y dydd olaf o Fai y daeth y cwmni o Gaerdydd, yr ewythr a'r fodryb, ac Idwal a Nansi. Prin yr oedd Siwan a Gwyn wedi sylweddoli na allai Nansi siarad. Ni welsent neb mud o'r blaen. Safent yn fud eu hunain wrth edrych arni. Daeth dagrau i lygaid Siwan. Ni adawodd i neb weld y dagrau. Cydiodd yn llaw Nansi a'i harwain i'r tŷ o flaen y lleill, a siarad yn ddi-baid. Siaradodd ddigon dros y ddwy, a mynd â Nansi o un ystafell i'r llall, ac i'r llofft, a dangos yr olygfa drwy'r ffenestr. Gwenai Nansi arni a dweud pethau wrthi â'i llygaid, a dysgodd Siwan yn gyflym iawn yr iaith newydd honno. Bu Nansi'n hapus yng Nghesail y Graig o'r munud cyntaf hwnnw.
Wedi tê aethant i gyd ond y ddwy fam am dro drwy'r pentref ac i'r traeth. Oedd, yr oedd Y Deryn Glas yno. Dyma gyfle Siwan wedi dod.
"Nwncwl," ebe hi, "mae awydd anghyffredin ar Gwyn a mi i fynd mewn cwch hyd y clogwyn du sy fan draw. A gawn ni fynd i gyd? Yr ym ni'n dau wedi dewis cwch—Y Deryn Glas—a dacw fe!"
"Y Deryn Glas am wynfyd, aie?"
"Ie—gobeithio," ebe Siwan, ac edrych ar ei hewythr a'i llygaid yn pefrio.
"Fe gymer dipyn o amser i fynd, cofia—mae'n dair milltir o leia'. Fe fyddwn yn hwyr yn mynd adref..."
"O awn ni ddim heno," ebe Siwan ar ei draws, "ond fe ddwedwn wrth Fred heno am ein disgwyl yfory am ddau o'r gloch."
Felly y bu. Gwridodd a gwelwodd Fred fel o'r blaen wrth addo bod yn barod ar yr amser hwnnw.
"Pam 'r ych chi am fynd mor bell â'r clogwyn," gofynnai Mr. Owen.
"I weld beth sydd yna. Efallai bod yna ogof."
"Yr ochr arall ein hochr ni—y mae'r ogofeydd. Y mae yna ddwy neu dair ohonynt, le buwyd yn smyglo 'slawer dydd."
"A oes dim ogofeydd yr ochr draw?"
"Chlywais i ddim son bod un."
"Os bydd y môr ar drai, efallai y gallwn ni lanio ac edrych o gwmpas. O! 'rwy'n disgwyl fory i ddod inni gael mynd," ebe Siwan yn wyllt, a'r golau yn ei llygaid o hyd.
"Beth sy'n bod, lodes? Beth sy'n dy ddenu di i'r ochr draw?" ebe ei hewythr, ac edrych arni'n graff. "Fe wn i," gwaeddai Gwyn, a ddaethai tuag atynt yng nghwmni'r ddau arall.
"Nawr, Gwyn," rhybuddiai Siwan.
"Ha! Ha!" oedd unig ateb Gwyn wrth ddilyn y lleill i ddarganfod ychwaneg o ryfeddodau'r traeth.
Yr oedd y ddau blentyn o Gaerdydd yn eu hafiaith —Nansi cyn llonned â'i brawd, a Gwyn yn arweinydd iddynt pan gâi gyfle. Gan fod Siwan yn un ar bymtheg oed, mwy gweddus iddi hi oedd cerdded gyda'i hewythr.
Ai gwell oedd dweud y cwbl wrth ei hewythr? Byddai ei mam yn sicr o wneud hynny oni wnâi hi. Ond rhaid cadw'r peth oddi wrth Idwal a Nansi. Yr oeddynt hwy yn rhy ieuanc. Trueni bod Gwyn yn gwybod. Gwnaeth ei meddwl i fyny i ddweud ei stori ryfedd, a gofyn am help ei hewythr i ddadrys y dirgelwch.
"Wel, ni chlywais i ddim o'r fath beth erioed! Siwan Siriol, a wyt ti wedi drysu, dywed?" ebe Mr. Owen ar ôl clywed yr hanes.
"Siwan Siriol" a fu ei henw byth wedyn gan ei hewythr, a chan eraill hefyd. Ond nid edrychai'n siriol yn awr. Edrychai fel petai ar wylo wrth weld ei hewythr eto yn amau ei stori, ac nid atebodd air.
"Lleian Lwyd! Petai rhywun felly yna fe fuasai pobl y lle yma yn gwybod amdani, 'merch i. Rhyw ddyn—neu fenyw, efallai, o un o'r ffermydd neu'r bythynnod sydd yna."
"Am bump o'r gloch yn y bore—pedwar wrth yr amser iawn? A 'does yna na bwthyn na fferm yn agos! Rhyw fenyw a siôl am ei phen yn casglu coed tân, meddai mam. Rhyw ddyn yn chwilio am oen coll, meddai Gwyn. Ond gwisg lleian sydd amdani! Mae gwydrau nhad yn rhai da, ac 'rwy'n ei gweld yn eglur. A 'dyw hi ddim yn chwilio am na choed tân nac oen—dim ond cerdded yn ôl a blaen, a sefyll i edrych dros y môr; nid yno y byddai'r coed neu'r oen—ac estyn ei breichiau allan. Ie, Grey Nun yw hi, Nwncwl, a rhaid imi fynd ati i weld beth mae'n ei geisio."
Dylifai geiriau Siwan allan ac edrychai'n wyllt. Teimlai ei hewythr yn anesmwyth yn ei chylch.
"Mae gen innau bell—wydrau da. Fe edrychaf innau bore fory am bump," ebe Mr. Owen.
"O ie, gwnewch, Nwncwl. Fe fyddaf innau'n edrych ar yr un pryd."
Ond ni welodd Mr. Owen ddim er edrych ac edrych. Gwelodd Siwan y Lleian Lwyd yn cerdded ac edrych, yn penlinio ar y traeth, ac estyn allan ei breichiau. Yr oedd Siwan yn welw wrth adrodd yr hanes.
PENNOD V
Yn ystod y bore hwnnw daeth niwl tew dros y môr. Mor drwchus ydoedd fel mai prin y gellid credu bod môr yno. I breswylwyr Cesail y Graig ymddangosai fel petaent ar ben yr Wyddfa yn edrych i lawr ar y cymylau. Yr oedd y môr yn ddistawach nag arfer hefyd fel petai wedi cysgu o dan y cwrlid trwm.
Edrych arno'n ddigalon drwy'r ffenestr a wnâi'r pedwar hynaf tua deg o'r gloch pan ruthrodd Gwyn ac Idwal a Nansi i mewn yn wyllt, a'u hwynebau'n goch a gwlyb, a dywedyd mai tywydd iawn i chwarae ymguddio ydoedd. Nid oedd ond eisiau symud rhyw deirllath oddi wrth y lleill, na byddech yn llwyr o'u golwg. Yr oedd y niwl mor dew â hynny.
"Gofalwch chi, blant," ebe Mrs. Sirrell mewn cyffro, "na threiwch chi ddim o'r chwarae yna eto. Beth petaech chi'n syrthio dros y graig? Gwyn, arnat ti, cofia, mae gofal y ddau arall."
'Roeddwn i yn gofalu, mam," ebe Gwyn yn dawel. "Ar ben y banc roeddem ni, ymhell o'r dibyn.".
"Dim mynd allan eto, cofiwch, yn y niwl yma," ebe Mr. Owen.
"A fyddwn ni'n mynd yn y cwch heddiw, 'nhad?" gofynnai Idwal, a Nansi'n gofyn yr un cwestiwn â'i llygaid.
"Na fyddwn, oni chliria'r niwl, 'y mhlant i, ond mae awel fach yn codi. Efallai bydd hi'n glir erbyn hanner dydd," ebe'r tad.
"Os ym ni i fod i fynd, fe gawn fynd," ebe Siwan. "Merch dy dad wyt ti, Siwan," ebe Mr. Owen, ond pan ofynnodd Siwan iddo beth oedd yn ei feddwl, chwerthin a wnaeth, ac edrych ar ei chwaer.
"Wel, af i ddim, niwl neu beidio," ebe Mrs. Owen. 'Mae'n well gen i gael fy nhraed ar y tir. Mae'n well i ti, Nansi, aros gyda mi yn gwmni. Ond dangosodd Nansi yn ddigamsyniol mai mynd a fynnai hi. Cyn hanner dydd symudodd y niwl yn raddol, fel y golofn honno gynt, nes bod yr ochr orllewinol o'r môr yn berffaith glir tra'r oedd yr ochr ddwyreiniol o hyd yn anweledig. Ond ymhell cyn dau o'r gloch cliriodd yr ochr honno hefyd. Aeth y niwl i ben y bryniau a diflannu'n llwyr. Meddyliodd Mr. Owen ei bod yn hollol ddiogel iddynt gadw at eu cyhoeddiad.
Penderfynodd y ddwy wraig aros yn y tŷ. Addawsant ddyfod i ben y cei mewn pryd i'w gweld yn dyfod yn ôl. Aeth y plant i gyd mewn afiaith i'r traeth, a Mr. Owen gyda hwy. Yr oedd Fred Smith â'r Deryn Glas yno yn eu disgwyl, a'i baent newydd yn disgleirio yn yr haul. Prin y medrai Siwan beidio â dangos ei chyffro. Cawsai Gwyn orchymyn pendant i beidio â sôn am y Lleian Lwyd wrth y plant nac wrth neb arall.
Yr oedd amryw gychod eraill yn cychwyn allan tua'r un pryd â'r Deryn Glas. Aeth dau ohonynt heibio pen y cei ac i gyfeiriad y gorllewin, ac aeth un i'r un cyfeiriad â'r Deryn Glas a throi'n ôl ar ôl mynd tua hanner milltir. Aeth y Deryn Glas yn ei flaen yn wrol i gyfeiriad y Clogwyn Du.
Yr oeddynt wedi mynd tua hanner y ffordd neu fwy pan sylwasant fod y niwl yn dechrau ymgasglu eto. Yr oedd yr awel wedi troi, os oedd awel o gwbl. O'r dwyrain y deuai'r niwl yn awr. Yr oedd fel petai wedi bod am dro yn y wlad bell ac yn dyfod yn ôl. Cyn iddynt gael amser i ystyried pa un ai mynd ymlaen neu droi'n ôl a fyddai orau, yr oedd arnynt fel gorchudd. Prin y gwelai y rhai a oedd ar un pen i'r cwch wynebau y rhai a oedd ar y pen arall. Ofer oedd ceisio llywio'r llestr bychan. Ni wyddent i ba gyfeiriad yr aent. Ceisient aros yn yr unfan, ond yr oedd y trai yn eu gyrru allan o'u cwrs. Yr oedd hynny, bid sicr, yn well na phe gyrrid hwy ar y creigiau bychain miniog a orweddai fynychaf o'r golwg gyda godreon y clogwyni. Ond i ba le y dygid hwy? Beth os na chliriai'r niwl cyn y nos?
Rhoes Mr. Owen ei fraich yn dynn am Nansi. Eisteddai Siwan yn syth yn eu hymyl, a'i hwyneb yn welw gan fraw. Fe gâi'r tri ambell gip ar wynebau dychrynedig Gwyn ac Idwal ar y pen arall. Ymddangosai Fred Smith fel sphinx yn eu canol, a'r ddwy rwyf yn segur yn ei ddwylo. Clywsant chwiban croch a sain utgyrn o bell. Yr oedd rhywun yn ceisio tynnu eu sylw. Ond o ba gyfeiriad y deuai'r sŵn?
Wedi tri chwarter awr o ymbalfalu brawychus gwelsant ambell rwyg yn y fantell ddu. Yr oedd y niwl yn dechrau teneuo ar un ochr. Rhwyfodd Fred yn wyliadwrus at yr ochr honno. Ymhen ysbaid daethant allan ar yr ochr orllewinol i'r cei. Yr oedd yn berffaith glir yr ochr honno. O'r fan honno gwelsant ddiwch y fantell a'i cuddiasai. Gwyddent bellach o ba le y daethai'r chwiban a'r bloeddio. Yr oedd tyrfa ar y cei yn eu disgwyl, yn eu plith Mrs. Owen a Mrs. Sirrell, yn crio gan lawenydd wedi bod ychydig cyn hynny yn crio gan ofid. Ar swper y noson honno, wedi bod yn siarad am y digwyddiad rhyfedd, dywedodd Mrs. Sirrell:
"Dyna ddigon o fynd mewn cwch am dipyn, ontefe, Siwan?"
"Ie rhaid inni fod yn sicrach o'r tywydd cyn mentro ffordd yna mwy." ebe Mr. Owen.
"Roedd Fred Smith fel petai e'n falch inni gael ein dal yn y niwl." ebe Idwal. "Roedd e'n gwenu wrtho'i hun o hyd."
"Efallai mai meddwl oedd y câi e fynd â ni eto ryw ddiwrnod arall," ebe Gwyn. "Meddwl am wneud arian mae Fred."
"A oeddem ni i fod i fynd i'r niwl, Siwan?" ebe Idwal.
Ond ni chafodd ateb.
PENNOD VI
MAE'N debyg mai arwydd o dywydd sych i ddyfod oedd y niwl hwnnw, oherwydd drannoeth a thradwy caed hin fwyn, ddymunol, teilwng o fis Mehefin ar ei orau.
Ar y trydydd bore, dywedodd Mr. Owen ar frecwast: "Pwy garai ddod am bicnic allan i'r wlad heddiw? Beth wyt ti'n feddwl o hynny, Siwan Siriol?"
"O, ie, Nwncwl. Fe fydd yn hyfryd, ac yn dipyn o newid inni."
Yr oedd y lleill i gyd yr un mor eiddgar, ac addawodd hyd yn oed Mrs. Owen a Mrs. Sirrell ymuno â'r cwmni.
"Pa ffordd yr awn ni?" gofynnai Gwyn.
"A fyddwn ni reit yn y wlad?" holai Idwal.
"A yw hi i fod yn daith bell iawn? Nid ydym ni ein dwy mor ieuanc ag y buom," ebe Mrs. Sirrell.
"Wel, 'nawr," ebe Mr. Owen, "mae bws yn mynd oddi yma i Lan Rhyd am hanner awr wedi dau. Fel gawn ein cario yn hwnnw, a cherdded wedyn drwy heol fach gul nes dod allan yn un o gaeau Pen Sarn. Mae yno lwybr trwy ddau gae, a chaeau hyfryd ydynt, fel y cofi di, Ester. Gallwn gael ein tê yno a dychwelyd yr un ffordd, neu ddyfod allan i ben y bencydd draw a chael ein tê yno.'
Siaradai Mr. Owen yn ddiniwed ddigon, ond mewn gwirionedd bu Siwan ac yntau'n trefnu'r daith yn ofalus y prynhawn cynt, gan i Mr. Owen ei hun gael un gip ar y Lleian Lwyd y bore hwnnw. Ni wyddai neb am hynny ond Siwan. Dim ond am funud y gwelodd hi, ond yr un Lleian Lwyd ag a welsai Siwan ydoedd yn ddiamau. Felly aethai'r ddau ati i drefnu'r daith, a chymryd arnynt wrth y lleill nad oedd ganddynt unrhyw ddiben neilltuol mewn golwg. Yr oedd y ddau wedi penderfynu y mynnent weld pa beth bynnag oedd i'w weld yno, a chael datguddiad ar gyfrinach yr hen Glogwyn Du.
O'r braidd y medrai Siwan sefydlu ei meddwl ar hyfrydwch cysgodol y lôn gul a phrydferthwch yr amrywiaeth o flodau a dyfai ar ei chloddiau. Awyddai am fynd ymlaen, ymlaen, a cheisiai ei gorau guddio'r awydd hwnnw. Bu'n ddiwyd yn helpu Nansi i gasglu tusw mawr o flodau—blodau'r neidr, a blodau'r fadfall, sanau'r frân, sanau'r gwcw, rhedyn tyner, a dail ir y derw ieuainc. Yr oedd glesni'r caeau yn hyfryd i'r llygaid ar ôl glesni arall y môr, ac yr oedd y ddaear yn sych a chras i eistedd ac i ymrolio arni. Ni welent ddim o'r môr, ond clywent ei ru tu ôl iddynt. Mr. Owen yn unig, a Mrs. Sirrell efallai, a wyddai'n iawn pa le yr oeddynt. Rhwng y daith yn y bws ac ar hyd y lôn gul, a oedd dros filltir o hyd, gwnaethant hanner cylch, ac yr oeddynt yn awr tu ôl i'r clogwyn a wynebai ar Gesail y Graig. Os amheuodd Mrs. Sirrell fod rhywbeth yn y gwynt ni ddywedodd air.
Wedi gorffwys ysbaid cododd Mr. Owen a dywedyd: "Mae arna i eisiau tê; 'rwy'n cynnig ein bod i'w gael ar ben y banc yna. Mae golygfa ardderchog oddi yno."
"Eilio," ebe Siwan, a neidio ar ei thraed.
Ni wrthwynebodd neb, oherwydd teimlent y gwyddai Mr. Owen beth oedd orau iddynt.
Wedi'r te blasus, a'r ddwy fam yn rhoddi'r llestri a'r pethau eraill yn ôl yn y fasged, aeth y lleill i grwydro hyd at fin y clogwyni. Yr oedd y môr wedi gerwino'n sydyn. Yr oedd yn donnau gwynion drosto, a thrawai yn erbyn y clogwyni gyda thwrw rhyfedd. Yr oedd y gwylain hefyd am yr uchaf â'u sŵn. Hedent yn dyrfa wyllt i fyny ac i lawr uwch ben y clogwyni, ac ysgrechian yn groch fel petaent mewn dychryn mawr.
"Rwy'n siŵr bod nythod ar y graig fan draw. A gawn ni fynd i edrych?" bloeddiai Gwyn.
"Gofalwch chi nad ewch chi ddim i berygl," bloeddiai Mr. Owen yn ôl. "Mae'r graig yna'n serth iawn, ac y mae'r llanw yn dod i mewn yn gyflym."
"Fe ofala i am Idwal," meddai Gwyn, ac i ffwrdd a'r ddau. Aethant o'r golwg dros fin y graig.
"Dyma ni ar y Clogwyn Du, Siwan Siriol," ebe Mr. Owen. "Mynd i lawr yw'r pwnc nesaf. Synnwn i ddim na fedrwn i fynd i lawr yn y fan yma gyda gofal."
Rhoes Siwan gam neu ddau ymlaen er mwyn gweld a oedd lle gwell ar yr ochr arall. Yn sydyn, llithrodd ei dwy droed gyda'i gilydd, ac o flaen llygaid dychrynedig Nansi suddodd o'r golwg yn y ddaear. Yr oedd Mr. Owen eisoes o'r golwg ar ei lwybr peryglus, a Nansi yno ei hunan. Rhedodd ar garlam gwyllt yn ôl at ei mam a'i modryb, a braw lond ei gwedd.
"Mam," ebe hi. "O, mam! Mae Siwan w wedi i chladdu'n fyw!"
Gwasgodd y fam hi at ei chalon, ac wylodd y ddwy. Yr oedd Nansi wedi siarad! Aeth ei neges wyllt yn angof yn sŵn ei geiriau. Yr oedd Nansi wedi siarad!
PENNOD VII
TRA bu Nansi a'i mam a'i modryb yn cyd-wylo a chyd-orfoleddu yr oedd pethau rhyfedd yn digwydd yn ogof y Clogwyn Du. Pan lithrodd traed Siwan mor sydyn ar y clogwyn, fe'i cafodd ei hun yn disgyn yn gyflym ar hyd llwybr union, serth, a chyn iddi gael amser i feddwl yr oedd yn ei hyd ar lawr yr ogof. A dyna lais merch yn llenwi'r lle llefain arswydus, a'r ferch ei hun yn rhedeg fel lucheden at enau'r ogof a gweiddi: "They're after me; they're after me!" Yna i ychwanegu at ei braw, ac fel cadarnhad i'w hofnau, canfu'r eneth Mr. Owen yn disgyn ar hyd grisiau claf ei lwybr serth. Un yn dyfod trwy un pen i'r ogof, a'r llall trwy'r pen arall! Er mwyn bod yn siŵr o'i dal hi, yn ddiamau! O, druan fach! Pa beth a wnâi? Rhuthrodd fel un wallgof i ganol y tonnau dig.
Heb ddeall pa beth a ddigwyddai, ond gweld bod bywyd mewn perygl, neidiodd Mr. Owen i mewn ar ei hôl. Ysgrechiodd yr eneth yn waeth nag o'r blaen, a mynd ymhellach i'r môr garw. Gwaith caled a gafodd Mr. Owen i gael gafael arni. Sypyn gwlyb, diymadferth a gariodd ef at enau'r ogof. Yr oedd. Siwan yno mewn syndod brawychus yn ei ddisgwyl.
"O, Nwncwl, dyma beth rhyfedd! 'Dyw hi ddim wedi boddi? Pwy yw hi, ac o ba le y daeth hi i'r fan hyn? 'Rwy'n siŵr ei bod yn byw yn yr ogof. O, Nwncwl, Nwncwl! 'Rwy'n gweld yn awr! Hi yw'r Lleian Lwyd!"
Nid oedd gan Mr. Owen amser i ateb. Yr oedd yn rhy brysur yn ceisio dadebru'r eneth o'i llewyg.
Geneth tua'r un oed â Siwan ydoedd. Ffroc fach o liain glas tywyll oedd amdani, fel un a wisg morynion yn y bore. Yr oedd ei gwallt yn ddu fel y frân, a'i llygaid yn las tywyll.
Wedi rhai munudau distaw, pryderus, agorodd hi ei llygaid led y pen, a dechrau gweiddi a cheisio codi i ddianc drachefn. Rhoes Mr. Owen ei law ar ei hysgwydd i'w dal yn ôl, a dywedodd yn dyner:
"What is it, my child? We are here to help you." "You are not going to take me away?" ebe hi'n gyffrous, a hongian ar ei ateb.
"You shall not go anywhere against your will. We are here to help you."
Bodlonodd hyn y ferch. Gorweddodd yn ôl a chau ei llygaid. Edrychai wedi blino. Symudodd Mr. Owen a Siwan ychydig oddi wrthi, a siarad â'i gilydd mewn sibrwd.
"Wel, dyma helbul!" ebe Mr. Owen. "Pwy yw'r eneth yma, a beth a wna hi yma? A phwy sydd yn ei herlid? Beth a wnawn ni â hi? Ni wiw inni ei gadael yma yn y stâd y mae hi ynddo. A dweud y gwir iti, Siwan Siriol, ni bûm i erioed o'r blaen mewn cymaint o benbleth."
"Ac 'rych chithau'n wlyb dyferu, Nwncwl bach, a'r ferch yna 'run fath. 'Rwy'n mynd i weld beth sydd yn yr ogof yma."
Daeth yn ôl ymhen munud neu ddwy a dweud: "Y mae pob math o bethau yna—stôf, a llestri, a bocs pren, a rhai dillad. Efallai bod dillad ganddi hi i newid."
"Fe fyddai'n dda gen i petai ganddi ddillad i minnau," ebe Mr. Owen, a thynnu ei got a'i lledu ar graig yn yr haul.
"Tynnwch eich sgidiau a'ch sanau eto, a cherddwch wedyn yn yr haul. Gobeithio na chewch chi ddim annwyd, Nwncwl bach."
"O'r gorau, Siwan Siriol, fe wna i yn ôl dy air. Edrych yma. Rhaid i ti a finnau fynd i waelod y peth hwn, ac nid wyf am i'r lleill ddyfod ar ein traws yn awr. 'Rwy'n mynd i edrych am y bechgyn, a dweud wrthynt am fynd adref gyda'u mamau a Nansi. O, ie, ble mae Nansi? Gyda ni oedd hi, onide?" "Ie'n wir," ebe Siwan yn sobr. "Fe aeth Nansi'n llwyr o'm cof wedi imi syrthio i'r ogof."
"Syrthio i'r ogof?"
"le, ie, ond caf amser i esbonio hynny ichi eto. Mae Nansi'n siŵr o fod wedi mynd 'nôl at ei mam. Os nad yw hi yno, dywedwch wrth Gwyn am ddod yn ôl i ddweud wrthym."
"Tra byddaf i ffwrdd, cer di i siarad â'r ferch yna. Efallai y cei di wybod rhywbeth ganddi. Efallai y cei di ganddi i newid ei dillad i ddechrau. Rhaid i minnau lunio rhyw stori i'w dweud wrth y bechgyn yna.
Gwelodd Siwan fod y ferch wedi codi ar ei heistedd. Aeth ati a phenlinio yn ei hymyl.
"Rwy'n siŵr eich bod chi'n oer yn y dillad gwlyb yna. A oes gennych chi ddillad i newid?" Yn Saesneg siaradai Siwan, ond edrych o'i blaen yn syn a phrudd a wnâi'r ferch, heb ateb gair.
"'Does dim eisiau ichi ofni Nwncwl a minnau. Wyddom ni ddim amdanoch chi, ond yr ydym am eich helpu."
"Dewch i'r ogof," ebe Siwan, "fe welais i ddillad yno. Rhaid ichi newid cyn cael annwyd."
"Pam y daethoch chi ar fy ôl i? Beth ych chi am wneud â mi?"
"Rwy' wedi'ch gweld chi o'r blaen," ebe Siwan.
"Fy ngweld i o'r blaen?" ebe'r eneth, a dychryn lond ei gwedd. "Pa bryd, a pha le?"
"Fe'ch gwelais chi lawer bore yn ddiweddar am bump o'r gloch yn cerdded yn ôl a blaen ar lan y môr yma, a gwisg lwyd, hir, amdanoch, a rhywbeth llwyd am eich pen. Y Grey Nun oeddech i mi. A welwch chi simneiau tŷ fan draw yng nghysgod y creigiau? Dyna lle'r wyf i'n byw. 'Rwy wedi bod yn siarad â chi dros y môr, ac yn dychmygu eich bod chi'n siarad â mi ac yn gofyn am fy help. Dyna pam y daethom ni yma heddiw. Fi a wnaeth i Nwncwl ddod, er mwyn gweld pwy oedd y Lleian Lwyd. Yr oeddwn i'n siŵr bod yma rywun ac eisiau fy help arni. Fe wn yn awr fy mod yn iawn. A wnewch chi ddweud eich stori wrthyf i? A ddywedwch chi eich enw i ddechrau?"
"Rita," ebe'r ferch.
"Siwan yw fy enw innau—Siwan Sirrell."
"Yr own i mor unig," ebe Rita, a dagrau lond ei llygaid glas, "ac yr own i'n meddwl ei bod yn ddiogel imi fynd allan yn y bore bach pan na byddai cwch ar y môr. Yr own i'n mynd yn y dydd allan drwy'r top, ac eistedd neu orwedd yng nghysgod llwyn eithin. Nid oedd neb yn agos. Ni welodd neb fi hyd heddiw, a minnau yma ers pum wythnos, ac yr oeddwn i'n mynd yn fwy diofal bob dydd, a 'nawr beth ddywed...." a chrynodd Rita drwyddi gan annwyd neu gan ofn.
"Fe af i newid fy nillad," ebe hi, cyn gorffen ei brawddeg. Cododd ar ei thraed; edrychodd i fyw llygaid Siwan, a dywedodd:
'Rwy'n eich credu chi. Mae gen i ffydd ynoch chi. Fe fedraf ddweud fy stori wrthych. O! y mae'n rhaid imi ei dweud wrth rywun. Y mae'n rhaid imi gael rhyw help. 'Rwy' wedi blino. 'Rwy bron â mynd yn wallgof. Fe ddof yn ôl atoch ymhen pum munud."
Aeth Siwan gam neu ddau ar hyd y traeth cul i edrych a welai ei hewythr yn dyfod yn ôl. Fe'i gwelodd ar ben un o'r creigiau yn siarad â'r ddau fachgen. Pan droes yn ei hôl fe welodd gwch bach unig draw ar wyneb y môr aflonydd. Sut nas gwelsai o'r blaen? Edrychai fel petai'n anelu at yr ogof. Daeth yn nes. Y Deryn Glas ydoedd! Y Deryn Glas, a dim ond Fred ynddo, yn ymladd yn galed er mwyn cadw ei lestr bychan ar wyneb y môr cynddeiriog.
PENNOD VIII
FLYNYDDOEDD lawer yn ôl arferai merched wisgo cotiau hir hyd y llawr, a hwd yn hongian y tu ôl, o'r goler dros y cefn, i'w chodi'n orchudd, i'r pen pan ddeuai glaw. Un o'r cotiau hyn, un hen, lwyd yr olwg, oedd am Rita pan ddaeth allan o'r ogof. Codasai'r hwd dros ei phen fel nad oedd ond ychydig o'i hwyneb yn y golwg. Gyda hanner gwên daeth at Siwan a dywedyd,
"Dyma'r Lleian Lwyd."
Cyn i Siwan gael amser i ateb, canfu'r eneth y cwch unig ar y môr, a daeth golwg gymysg o gyffro a llawenydd i'w hwyneb.
"O!" ebe hi, "O! Dacw fe'n dod. Mae'n dod yma yr amser hwn o'r dydd! Mae wedi gweld rhywbeth! Mae wedi bod yn edrych trwy ei wydrau. Fe fydd yn anfodlon fy mod wedi dangos fy hun. Ond nid arnaf i oedd y bai. Yr oedd hyn i fod i ddigwydd. Yr wyf yn falch iddo ddigwydd. Yr oeddwn wedi blino—wedi blino aros—ac ar fynd yn wallgof. Fe gaiff e ddweud yr hanes wrthych chi 'nawr."
Ni chafodd Siwan gyfle i roddi gair i mewn. Siaradai Rita'n ddibaid, a rhedai'n gyffrous yn ôl a blaen, a chodi ei breichiau i fyny fel mewn ymbil. Felly y bu hyd oni ddaeth Fred â'i gwch yn ddiogel dros y tonnau brigwyn i'r traeth bychan cul a âi yn gulach bob munud.
Rhoes ei law at ei dalcen wrth daflu golwg sobr ar Siwan; yna, heb wên ar ei wyneb eto, dywedodd wrth Rita:
"Beth yw ystyr hyn?"
"Nid arnaf i oedd y bai, Fred," ebe Rita yn llawer tawelach nag o'r blaen. "Daeth Miss... y. Siwan i lawr yn sydyn drwy'r top, a rhedais innau allan mewn ofn, ac wrth ddrws yr ogof yr oedd y dyn. Meddyliais eu bod ar fy ôl, a rhedais i'r môr. Yr oeddwn am fy moddi fy hun. Ond i'n helpu ni y daethant yma, Fred, a rhaid iti ddweud y cwbwl wrthynt. Rhaid, Fred, rhaid iti ddweud y cwbwl."
"Ie, hynny a fyddai orau, 'mhlant i," meddai Mr. Owen, a ddaethai yno erbyn hyn yn ei ddillad hanner sych. Edrychodd yn syn iawn ar Fred, a dywedyd:
"Beth ddaeth â chwi yma? Ai digwydd dod dros y môr garw yma a wnaethoch chi, neu a wyddoch chi rywbeth am y ferch yma?"
"Gwn, syr. Fy chwaer yw hi," ebe Fred.
"Eich chwaer? Beth mae eich chwaer yn ei wneud mewn lle fel hwn?"
Aeth Rita a sefyll yn ymyl Fred, a chydio yn ei law, ac edrychodd dau bar o lygaid glas, trist, yn syn ar Mr. Owen. Nid oedd mwyach eisiau amau nad brawd a chwaer oeddynt. Yr oeddynt mor debyg i'w gilydd—dau blentyn hoff rhyw dad a mam o rywle.
"Dywed y cwbwl, Fred," ebe Rita'n ddistaw.
Edrychodd Fred yn fyfyrgar tua'r llawr am ychydig ac yna tynnodd o'i fynwes ddarn o bapur newydd—un o bapurau Cymru—a dangos paragraff ynddo i Mr. Owen a dywedyd:
"Hwn yw'r achos bod Rita'n mynnu aros yn yr ogof, syr."
Dyma'r paragraff a ddarllenodd Mr. Owen, o dan y teitl "Missing":
"On Thursday, May 12, Rita Smith left her home in 6 Lower Road, Gloucester, and has not since returned. Height, about 5ft. 4in. Dark hair. Blue eyes. Pleasant expression. Scar on right temple. May be wearing fawn mackintosh over plain black dress. Believed to be in South Wales. Information concerning her whereabouts would be gratefully received by Mr. and Mrs. Skinner, above address."
Cyn i Mr. Owen gael amser i ddweud gair dywedodd Rita dan grio:
"Maent wedi gadael un peth allan. Fe ddygais i dair punt o arian fy meistres cyn dod."
"Ai ofn eich dal am hynny sydd arnoch?"
"O, nage," llefai Rita. "Ofn fy nal, mae'n wir, ond nid am hynny."
"Beth arall a wnaethoch?" ebe Mr. Owen yn chwyrn.
"O, dim," ebe Rita. "Dwyn yr arian er mwyn dianc a wnes i
"Ai mewn gwasanaeth oeddech gyda Mr. a Mrs. Skinner?"
"Ie, morwyn iddynt oeddwn i."
"Ac yr oeddech am ddod yma at eich brawd. A oes tad a mam gennych?"
Yr oedd Rita yn wylo gormod i ateb. Atebodd ei brawd drosti:
"Y mae'r ddau wedi marw. Plant o'r Homes yw Rita a mi."
"O, 'mhlant bach i," ebe Mr. Owen yn dyner. "Ond pa le'r ydych wedi bod oddi ar y deuddegfed o Fai?"
"Yma yn yr ogof," llefai Rita.
"Ddydd a nos yn yr ogof! Nid eich hunan? A ydych eich dau yn byw yma ac yn cysgu yma?"
"Yr wyf i yma bob amser wrthyf fy hun, ond nid wyf yn cysgu llawer," ebe Rita, druan.
Edrychodd Mr. Owen arni'n syn, ac heb ddweud gair aeth ei hun i mewn i'r ogof. Fe welodd yno ryw fath o wely—sypyn o wellt ar y llawr a rhyw hen ddillad arno, hen focs pren yn lle bord, ac un arall llai yn gadair, ychydig lestri, a stof fechan, a dyna'r cwbl. Daeth yn ôl at y lleill.
"Ni chlywais i erioed y fath beth o'r blaen," ebe ef yn syn. "Cysgu eich hunan mewn lle fel hyn am wythnosau hir, yn y tywyllwch ar fin y môr! Mae'n beth rhyfedd na buasech wedi mynd yn wallgof!"
"O! syr, 'rwy' bron â mynd yn wallgof," llefai Rita'n wyllt. "Fe fu chwant arnaf lawer gwaith orwedd tu allan i'r ogof yn lle y tu mewn iddi, a gadael i'r môr ddyfod a mynd â mi i'w fynwes. Oni bai y gwyddwn y buasai hynny'n peri gofid i nhad a mam, dyna a wnaethwn ymhell cyn hyn."
"Eich tad a'ch mam? Oni ddywedodd eich brawd yn awr eu bod hwy wedi marw?"
"Ydynt, wedi marw," ebe Rita. "Fe aeth nhad allan i bysgota un noson ac ni ddaeth yn ôl. Dim ond ei gwch gwag a welwyd. Ymhen mis ar ôl hynny bu farw mam. A byddai'n well ganddynt hwy weld Fred a finnau'n dioddef na'n gweld yn gwneud drwg."
Bu pawb yn ddistaw am funud. Sychodd Siwan ei llygaid. Daeth nifer o wylain o rywle a disgyn yn ymyl y cwmni bach a throi eu pennau i wrando. Daeth pen Cader Idris i'r golwg fan draw. Eisoes ymlonyddai'r môr. Aeth ei donnau gwynion yn wên garuaidd yn lle'n gyffro dig. Draw daeth golau'r machlud yn ogoniant dros y dŵr.
"Beth wnaeth ichi feddwl am ddod i'r ogof yma?" gofynnai Mr. Owen.
"Fel hyn y bu hi, syr," ebe Fred. "Pan oeddwn i'n dod o'r Faenol i fynd â'm cwch allan i bysgota.
"O'r Faenol?".
"Ie, syr. Fe fûm i'n was yn y Faenol am dair blynedd. Yno yr wy'n cysgu o hyd. Eleni y prynais i'r cwch."
"O, ie. Wel?"
"Tua thri o'r gloch y bore hwnnw—y pedwerydd dydd ar ddeg o Fai—pwy a welwn i ar ben y lôn ond Rita! Yr oedd wedi teithio yn y trên o Gloucester i Gaer Afon, a cherdded pob cam o'r deunaw milltir hyd yma, wedi colli'r ffordd lawer gwaith, a blino, a gorffwys mewn caeau.'
"A wyddoch chi ddim fod bws yn dod o Gaer Afon?" gofynnai Siwan.
"Yr oedd y bws olaf wedi mynd pan gyrhaeddais i Gaer Afon," atebai Rita. "Yr oedd arnaf ofn gofyn am lety yn y dref—ofn fy holi gan bobl ac ofn i Mr. a Mrs. Skinner ddod i wybod amdanaf. Felly dechreuais gerdded, a dilyn y cerrig milltir. Fe aeth yn dywyll yn fuan, ac yr oeddwn wedi blino. Fe euthum i mewn i gae i orffwys tipyn. Cysgais. Pan ddeffroais yr oedd yn olau. Ymlaen â fi eto. Yr oedd eisiau bwyd arnaf. Pan gefais siop yn agored fe brynais fiscedi, ac o dipyn i beth, trwy ddilyn y cerrig milltir, fe ddeuais yn agos at Fin Iwerydd. Fe welais y môr. Yr oedd yn dechrau tywyllu eto. Rhaid ei bod yn tynnu at ddeg o'r gloch pan ddeuthum at lôn y Faenol. Fe welais yr enw 'Y Faenol' ar yr iet. Arhosais dipyn tu mewn i'r iet i weld a welwn Fred. Yr oedd arnaf ofn mynd at y tŷ—ofn cŵn ac ofn popeth. Fe gysgais yno eto, a sŵn traed Fred a'm dihunodd. O! dyna falch oeddwn i'w weld."
Yna aeth Fred ymlaen â'r stori:
"Ni wyddwn i pa beth i'w wneud. Euthum â hi gyda mi yn y cwch. Nid oedd neb arall ar y traeth. Fe wyddwn am bob man ar y glannau yma. Fe aethom i'r ogof yma er mwyn cael amser i feddwl a siarad. Yr oedd gennyf barsel bychan o fwyd. Wedi i Rita fwyta ychydig ohono, a chyn inni gael amser i drefnu dim fe syrthiodd i gysgu. Yr oedd wedi blino'n lân. Fe'i dodais mor esmwyth ag y gallwn, a chyn hir fe gysgais innau. Yr oedd yn chwech o'r gloch pan ddihunais i. Nid oedd Rita am fentro i'r pentref gyda mi. Yr oedd wedi mynd i ofni pawb a phopeth. Yr oedd yn well ganddi aros ei hunan yn yr ogof er bod arni ofn yma hefyd, yn enwedig yn y nos.'
Crynodd Rita wrth atgofio'r nosau hynny.
"Yna, un dydd tuag wythnos wedi iddi ddod yma, fe ddigwyddais i weld y paragraff yna mewn papur a adawodd rhywun ar ei ôl yn y cwch. Wedi iddi weld hwnnw ni chymerai lawer am adael yr ogof."
"Ble 'r oedd eich cartref chwi?" gofynnai Mr. Owen. "Mewn pentref bach ar lan Môr Hafren—pentref bach tebyg i Fin Iwerydd. Pysgotwr oedd nhad."
"A garech chi eich dau fynd yn ôl i'r pentref hwnnw i fyw?"
"Na," ebe Fred, a siglo'i ben yn brudd. "Yn agos i'r pentref hwnnw y mae'r Homes."
"Nid ydych wedi dweud eto, Rita, pam y gadawsoch y teulu hwnnw yn Gloucester," ebe Siwan.
PENNOD IX
TROI ei hwyneb draw a wnaeth Rita. Crynodd ei gwefusau.
"A gaf i beidio â dweud dim am hynny heddiw?" meddai, ac edrych yn erfyniol ar Siwan a Mr. Owen.
"O, wrth gwrs, os hynny a fyddai orau gennych, Rita fach," ebe Siwan.
"Ond," dechreuai Mr. Owen. Ond torrodd Rita ar ei draws:
"Nid oes ofn dim arnaf i ond ofn mynd yn ôl yno. 'Rwy'n gwybod imi wneud y peth iawn wrth ffoi. Ni wneuthum i ddrwg i neb, heblaw dwyn yr arian hynny. Ond cymryd eu benthyg a wneuthum. Fel adewais nodyn ar fy ôl i ddweud hynny. Cymryd eu benthyg am dipyn bach o amser. Fe'u talaf yn ôl. Yr oedd yn rhaid imi ddyfod oddi yno, ac yr oedd yn rhaid imi gael arian at hynny."
"Nid oedd ganddi neb arall i fynd atynt," ebe Fred, "dim na ffrind na pherthynas. Dim ond fi oedd ganddi yn y byd. Fe allwn i ddweud rhywbeth wrthych am y graith yna ar ei thalcen."
"O, paid, Fred!" llefai Rita. "Fedra i ddim dal iti ddweud dim am hynny heddiw."
Edrychodd Mr. Owen ar y ddau blentyn amddifad yn hir, a'i feddwl yn brysur. Yna dywedodd:
"Rita, rhaid ichi adael y lle hwn heno—yn awr. A ddewch chi gyda ni i'n cartref fan draw?"
"O! dof, syr! O! dof yn wir! O! diolch! Wnewch chi ddim gadael iddynt fy nal i a'm dwyn yn ôl i Gloucester?"
"Na wnaf, merch i, na wnaf. Byddwch yn dawel eich meddwl."
"Yr wyf am ennill arian i gael anfon y teirpunt yna yn ôl. Y mae un bunt gennyf heb ei thorri."
"Fe anfonaf i'r teirpunt i ffrind imi sy'n byw yn Llundain, i'w postio oddi yno i Mr. a Mrs. Skinner,' ebe Mr. Owen. "Fe gewch chi ysgrifennu llythyr iddynt i'w anfon gyda'r arian. Fe fyddant yn meddwl wedyn mai yn Llundain yr ydych."
"O! diolch, syr. O! diolch!"
Edrychai Rita ar Mr. Owen fel un mewn breuddwyd, a dweud "O! diolch" o hyd. Yr oedd y rhyddhad o'i gofidiau bron yn ormod iddi ei ddal ar unwaith. Gadael yr ogof, gadael yr unigedd ofnadwy, a'r pryder parhaus! Cael bod a byw eto fel rhywun arall!
"Dewch chi, Rita fach," ebe Siwan. "Fe ddaw popeth yn iawn ichi eto."
"A elli di, Fred, fynd â ni yn dy gwch at y tŷ a weli fan draw?" ebe Mr. Owen.
"Cesail y Graig. Gallaf, syr."
'Nawr, ynteu.
Aethant i mewn i'r ogof er mwyn i Rita gael y gweddill o'i dillad.
"Dacw'r twll y syrthiais i drwyddo," ebe Siwan yn siriol. "Rhedeg yn wyllt i geisio cael lle i ddisgyn i'r traeth yr oeddwn i, a dyna fi mewn winc ar lawr yr ogof!"
"Y mae hollt yn y graig yn y fan yna," ebe Fred. "Y mae'n debyg bod lle i fynd allan o'r ogof wedi bod yna rywbryd. Beth bynnag, wedi diwreiddio llwyn bach o eithin a oedd yna fe fedrais i wneud llwybr yn ddigon rhwydd.'
"Llwybr i ble?" gofynnai Mr. Owen.
"O, dim ond llwybr allan o'r ogof."
"Yr oeddwn i'n meddwl bod ofn mynd allan ar Rita."
"Yr oedd ofn arni, dyn a'i gŵyr, ond fe âi allan weithiau ac eistedd neu orwedd yng nghysgod y llwyn a ddadwreiddiais i."
"Yr oedd yn dipyn o newid ambell waith," meddai Rita, "ac yr oedd y twll yn goleuo'r pen hwn i'r ogof."
"Yr oeddech yn mentro'n ofnadwy. Fe allai ci neu ryw greadur arall ddyfod i lawr trwy'r twll yna, yn enwedig yn y nos."
"O, yr oeddwn i yn rhoi'r llwyn yn ei le bob nos cyn iddi dywyllu."
"Beth bynnag, ni ddaeth dim na neb i lawr," ebe Fred. "Ni ŵyr neb am y twll nac am yr ogof am a wn i. Nid yw'r ymwelwyr byth yn dyfod dros y clogwyni hyn."
"Fe welais i Rita lawer bore yn y got lwyd yna'n cerdded ar y traeth," ebe Siwan. "Y Lleian Lwyd oedd hi i mi."
"Y Lleian Lwyd!" ebe Fred mewn syndod. "Hen got a gefais i gan meistres i'w gwisgo i bysgota yw'r got.
"Ni ddywedais i erioed wrthyt ti, Fred, fy mod yn mynd allan gyda glan y môr bob bore tua phump o'r gloch," ebe Rita.
"O, Rita, Rita!" ebe Fred yn sobr.
"Yn awr, ynteu, blant," ebe Mr. Owen, "ffarwel i'r ogof, ac at y cwch â ni. Y mae rhywrai'n disgwyl amdanom yng Nghesail y Graig."
"Y mae'r môr yn deall y cwbl, Nwncwl," ebe Siwan. "Edrychwch fel y mae wedi tawelu er mwyn ein cludo ni yno."
PENNOD X
YCHYDIG a freuddwydiai Mr. Owen a Siwan pa lawenydd a'u harhosai yng Nghesail y Graig. Gorchymynasai Mr. Owen i'r ddau fachgen fynd ar unwaith at y ddwy fam a Nansi, a mynd gyda hwynt adref dros yr un ffordd ag y daethent, y deuai Siwan ac yntau yn fuan ar eu hôl, eu bod hwy wedi cyfarfod â rhywun ar y traeth, a'u bod am aros ychydig cyn dyfod adref. Efallai mai ar hyd y traeth y deuent pan ddeuai trai. Nid aethai yn rhy agos at y bechgyn pan siaradai â hwy, er mwyn iddynt beidio â gweld bod ei ddillad. yn wlyb. Wedi iddynt eu dau synnu a llawenhau o glywed Nansi'n siarad, mynnai Idwal redeg ar unwaith â'r newydd at ei dad a Siwan, ond ni adawodd Mrs. Owen iddo wneud hynny.
"Na," meddai, "mae'n siŵr bod gan eich tad
reswm da dros ofyn inni fynd adref o'u blaen hwy. Fe gawn wybod y rheswm toc, ac ni bydd ein newydd ni am Nansi yn rhoi llai o bleser iddynt hwy o orfod aros ychydig amdano."
Yn wir, mynnai Mrs. Owen fod yn gynnil gyda'i llawenydd ei hun. Ni adawai i neb wneud gormod o ffys o Nansi rhag ei chyffroi ac i rywbeth gwaeth ddigwydd. Ofnai fod y peth yn ormod o lawenydd a rhyfeddod i bara'n wir o hyd. Deallai Mrs. Sirrell ei theimlad.
Gwnaethant i'r bechgyn gerdded ymlaen gyda'r basgedi, a pheidio â son wrth neb am a ddigwyddasai. Dilynasant hwythau a Nansi yn hamddenol, a siarad yn naturiol am bopeth ond y peth mawr, a thynnu Nansi i'r ymddiddan yn aml, a gwrando a sylwi arni heb yn wybod iddi hi. O! dyna falch oeddynt o'i chlywed yn siarad yn fwy eglur a chroyw o un frawddeg i'r llall! Yr oedd Nansi'n siarad! Hi a fuasai'n destun tosturi ac yn achos pryder a gofid am fwy na phum mlynedd yn siarad eto fel plant eraill! Yr oedd calonnau'r ddwy fam yn llawn.
Rhwng y daith i'r bws, ac aros ychydig amdano, a theithio ynddo, a cherdded wedyn hyd y tŷ, aeth awr a hanner heibio cyn iddynt gyrraedd Cesail y Graig. Y peth cyntaf a wnaeth Idwal a Gwyn oedd cael yr ysbienddrych, ac edrych trwyddo ar odre'r clogwyni'r ochr draw. Y tro hwnnw ni welsant neb ar y traeth cul, ond gwelsant yn eglur gwch glas—ai cwch Fred oedd? heb neb ynddo, yn sefyll, neu yn siglo, wrth ei angor gerllaw'r fan.
Y tro nesaf yr edrychasant, gwelsant y cwch ar y mor a rhywrai ynddo. Pwy oeddynt? I ba le yr ai'r cwch? Edrychai fel petai'n cyfeirio at y môr mawr tu allan i'r bae. Yr oedd dyn a benyw a rhywun arall ynddo heblaw'r cychwr. Ie, Fred oedd y cychwr le, Siwan a Nwncwl oedd dau o'r tri arall, gan nad pwy oedd y trydydd. Yr oedd y cwch yn dechrau troi ei gyfeiriad. Galwasant ar y ddwy fam a Nansi, a bu pob un o'r tair yn edrych yn ei thro. Mrs. Sirrell oedd yr olaf i edrych..
"O," ebe hi, mewn hanner gwaedd o syndod neu fraw, a rhoi'r gwydrau o'i llaw.
"Beth sy'n bod?" gofynnai Mrs. Owen.
"O! dim," ebe Mrs. Sirrell, "mae'r hen wydrau yma mor drwm. Ewch â Nansi i'r tŷ, wir, i orffwys. Mae'n edrych wedi blino."
Wedi cael ganddynt fynd, galwodd ar Gwyn ati, a dywedyd wrtho mewn sibrwd:
"A wyt ti'n cofio Siwan yn dweud ei bod yn gweld Lleian Lwyd bob bore, a ninnau'n chwerthin am ei phen? Wel, yr oedd Siwan yn iawn. Y maent wedi dal y Lleian, os lleian ydyw. Y mae yn y cwch yn awr gyda Nwncwl a Siwan. Edrych!"
"O, mam, fe'i gwela hi 'nawr yn eglur," ebe Gwyn yn gyffrous. "Dillad llwyd sydd amdani, a'r peth yna ar ei phen. Grey Nun! Pam maent yn dod â hi yma?" "Dyna a garwn innau ei wybod," ebe Mrs. Sirrell. "A gaf i ddweud wrth lleill?"
"Na, cer i aros gyda Nansi am dipyn, a dywed wrth dy fodryb am ddod yma. Paid â dweud dim wrth Nansi rhag iddi gael ofn eto."
Gwaeddodd ar Idwal, a oedd dipyn yn is i lawr, a'i law dros ei lygaid yn edrych yn ddyfal tua'r môr: "Idwal, cerwch gyda Gwyn i aros gyda Nansi." Dywedodd y cwbl wrth ei chwaer yng nghyfraith —fel y gwelsai Siwan y Lleian Lwyd ar ei bore cyntaf yng Nghesail y Graig, amdani hi a Gwyn yn chwerthin am ei phen, a bod Siwan wedi ei gweld wedyn fwy nag unwaith, a neb arall wedi cael cip arni. (Ni wyddai Mrs. Sirrell am yr un tro hwnnw y gwelsai Mr. Owen hi.) Dywedodd mai mynd i chwilio am y Lleian Lwyd oedd bwriad Siwan y tro hwnnw pan aethent yn y cwch a'u dal yn y niwl, a'i bod hi yn siŵr mai dyna amcan y picnic heddiw, er na ddywedasai neb wrthi.
"Y mae Siwan yn ferch ryfedd iawn," ebe ei mam. "Y mae weithiau'n gweld pethau nas gwêl neb arall, ac y mae mor benderfynol! Yr oedd wedi mynd i gredu bod gan y Lleian yna—pwy bynnag yw hi ryw neges ati hi. Yr oedd yn mynd mor gyffrous weithiau nes peri imi ofni yr effeithiai'r peth ar ei hiechyd."
"Wel, y mae wedi gweld yn iawn y tro hwn, mae'n debyg," ebe Mrs. Owen. "Lleian yw honna, 'rwy'n siŵr. O ba le y daeth, wn i?"
"Ie, a pham y deuant â hi yma? Beth sydd ganddi i'w wneud â Siwan?" Yr oedd y ddwy wraig yn llawn cyffro wrth fethu'n lân â deall y peth.
"O, dacw hwy'n chwifio eu dwylo arnom," ebe Mrs. Owen.
Gwnaethant hwythau eu dwy yr un arwydd yn ôl. Ni allai'r bechgyn aros yn hir heb weld beth oedd yn mynd ymlaen. Daeth y ddau allan o'r tŷ mor ddistaw ag y gallent.
"Mae Nansi'n cysgu, felly nid oedd eisiau inni aros,' ebe Gwyn.
Daeth y cwch yn nes ac yn nes, ac aeth eu syndod hwythau yn fwy ac yn fwy. Daeth Fred allan o'r cwch a cheisio'i dynnu at y traeth bach, cul, caregog. Rhedodd y bechgyn i'w helpu. Neidiodd Mr. Owen allan, a rhoi ei law i'r Lleian Lwyd. O! y syndod a gafodd y ddwy fam a'r ddau fab! Yn eu dychymyg yr oedd y Lleian Lwyd yn wraig urddasol mewn clôg llaes, dilychwin, yn gwisgo'i chroes a'i phaderau, ac ar ei phen gap gwyn pletiog o dan y cap llwyd cysgodol. Yn lle hynny, beth a welsant ond merch ieuanc aflêr ei golwg ac ofnus ei gwedd, a hen got lwyd, lawer yn rhy fawr iddi, amdani, a'r hwd wedi ei chodi dros ei gwallt du, anniben!
Ar y foment honno rhedodd Nansi allan atynt a gweiddi:
"Dadi! Dadi! Dadi! 'Rwy'n gallu siarad!"
Anghofiodd Mr. Owen am y cwch a'r môr y Lleian Lwyd, a phopeth arall, wrth wasgu ei ferch at ei galon.
Noson lawen yn wir a fu honno yng Nghesail y Graig. Nansi, Rita a Siwan oedd tair arwres y noson. Bu'n rhaid i'r tair ddweud bob un ei stori eto. Nid oedd stori hir gan Nansi—dim ond dweud am ei hofn pan welodd Siwan yn diflannu o'r golwg: yn cael ei chladdu'n fyw o flaen ei llygaid.
Tawel ac ofnus oedd Rita, wrth ateb y cwestiynau a roddid iddi. Y mae sôn yn y Beibl am osod yr unig mewn teulu. Felly y bu ar Rita, ac yr oedd yr hyfrydwch a'r diogelwch yn bethau rhy anghynefin iddi i fedru eu mwynhau'n llawn ar unwaith. Am Siwan, yr oedd hi'n ddigon bodlon iddynt chwerthin faint a fynnent am y Lleian Lwyd. Oni bai amdani hi ni buasai Rita wedi ei chael na Nansi'n medru siarad.
"Siwan Siriol," ebe ei hewythr, "yr oedd gen i olwg fawr arnat ti o'r blaen, ond yn awr yr wyf yn falch gael bod yn ewythr iti. Dy galon garedig, dy ddychymyg byw, a'th fenter di-ofn a ddaeth â'r llawenydd mawr yma inni. Bendith arnat, 'merch i."
"O Nwncwl bach," ebe Siwan, "yr oeddwn yn dyheu am gael talu ichi mewn rhyw fodd am ein dwyn i'r lle hyfryd yma i fyw, a dyma fi wedi dechrau."
Nid anghofiwyd gwrhydri Fred. Arhosodd ef gyda'r cwmni hyd yn hwyr iawn, a gadael llonydd am yrhawg i'r ymwelwyr ac i'r pysgod. Efallai y deuai'r Deryn Glas â mwy fyth o lwc iddo eto ryw ddydd.
Edrychai Rita'n ferch arall—a merch dlos iawn
wrth y bwrdd swper wedi ymwisgo'n daliaidd yn rhai o ddillad Siwan. Teimlai'r ddau blentyn amddifad na byddent byth eto yn unig a diamddiffyn mewn byd didostur.
Cafodd Rita gysgu gyda Siwan yn y gwely bach ar y daflod. Buont yn edrych dros y môr at yr ogof ddu yn y pellter, a buont yn siarad yn ddi-ben-draw.
"O, Siwan," meddai Rita'n ddwys, "beth alla i ei wneud i ddangos fy niolchgarwch ichi i gyd?"
"Fe gewch weithio bore fory fel ni i gyd," ebe Siwan yn ymarferol.
Felly daeth Rita yn un o'r teulu yn ei waith ac yn ei bleserau. Beth bynnag arall a ddysgodd hi yn yr Home, ac fel morwyn i'r teulu hwnnw yn Gloucester, fe'i dysgwyd i wneud bwyd. Medrodd ddangos dulliau newydd o wneud pethau hyd yn oed i Mrs. Sirrell ac i Mrs. Owen. Yn raddol hefyd daeth i chwarae gyda chymaint nwyf ac asbri â neb o'r plant.
Llechai un ofn bach yn eu mynwesau i gyd. Beth petai rhywun yn cysylltu'r paragraff yn y papur â Rita? Cytunwyd y byddai'n well iddi newid ei henw dros dymor. Penderfynodd Fred a hithau y cymerai enw morwynol ei mam. Sylvia Bell oedd hwnnw.
Daethant i gyd yn hoff ohoni. Ni wyddai Mrs. Sirrell beth a wnaethai hebddi yn ystod tymor yr ymwelwyr. Pan ddaeth y tymor hwnnw i ben, aeth at y teulu i Gaerdydd i fod yn help i Mrs. Owen ac yn gwmni i Nansi. Yn ei dedwyddwch newydd newidiodd ei gwedd gymaint fel na feddyliai neb am Rita Smith y paragraff hwnnw wrth weld Sylvia Bell yn cerdded gyda Nansi ar heolydd Caerdydd. Aethai'r "scar on the temple" yn llai amlwg, ac fe'i cuddid yn llwyr gan y gwallt du, llaes. Ac yr oedd y "fawn mackintosh" wedi mynd am byth.
Yng Nghaerdydd y mae Sylvia Bell o hyd, ac y mae'r ddau deulu—yr un yng Nghaerdydd a'r teulu bach yng Nghesail y Graig yn lledu eu hadenydd cysgodol dros Fred a hithau.Nodiadau
golyguBu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.