Y Nefoedd Uwch fy Mhen
gan Ehedydd Iâl
- Y nefoedd uwch fy mhen
- A dduodd fel y nos,
- Heb haul na lleuad wen
- Nac unrhyw seren dlos,
- A llym gyfiawnder oddi fry
- Yn saethu mellt o'r cwmwl du.
- Cydwybod euog oedd
- Yn rhuo dan fy mron
- Mi gofia'i chwerw floedd
- Tra ar y ddaear hon -
- Ac yn fy ing ymdrechais ffoi,
- Heb wybod am un lle i droi.
- Mi drois at ddrws y Ddeddf
- Gan ddisgwyl cael rhyddhad;
- Gofynnais iddi'n lleddf
- Roi imi esmwythâd:
- 'Ffo am dy einioes', ebe hi,
- 'At Fab y Dyn i Galfari!'
- Gan ffoi, ymdrechais ffoi
- Yn sŵn taranau ffroch,
- Tra'r mellt yn chwyrn gyffroi
- O'm hôl fel byddin goch;
- Cyrhaeddais ben Calfaria fryn,
- Ac yno gwelais Iesu gwyn.
- Er nad yw 'nghnawd ond gwellt
- A'm hesgyrn ddim ond clai,
- Mi ganaf yn y mellt,
- Maddeuodd Duw fy mai:
- Mae craig yr oesoedd dan fy nhraed,
- A'r mellt yn diffodd yn y gwaed.